Brian Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Hugh Brian Owen''' (1935-2014), Cefn Rhos, Y Groeslon, yn adroddwr arobryn a enillodd yn aml mewn eisteddfodau. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:29, 9 Mai 2022

Roedd Hugh Brian Owen (1935-2014), Cefn Rhos, Y Groeslon, yn adroddwr arobryn a enillodd yn aml mewn eisteddfodau. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd, 1965, roedd wedi ennill y gystadleuaeth adrodd i ddynion dros 25 oed bump o weithiau. Cafodd ei hyfforddi gan y Dr John Gwilym Jones. Enillodd Wobr Llwyd o'r Bryun ddwywaith, sef y brif wobr am adrodd neu lefaru sydd ond yn agored i enillwyr y categorïau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny ddwywaith, ym 1965 a 1968, un o ddim ond tri i gyflawni'r gamp honno - y lleill oedd Stewart Jones yr actor a Siân Teifi.[1]

Roedd yn adroddwr poblogaidd hefyd mewn cyngherddau a nosweithiau llawen.

Cyfeiriadau

  1. Daily Post, 16.07.2008 [1], cyrchwyd 09.05.2022