Eirug Wyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
==Bywgraffiad== | ==Bywgraffiad== | ||
Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair, Sir Drefaldwyn | Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair, Sir Drefaldwyn, yn fab i weinidog, y Parch John Price Wynne. Ym 1958 symudodd y teulu i Ddeiniolen. Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Llandinorwig ac wedyn Ysgol Brynrefail, Llanrug. Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plât D am ddysgwr gyrru ar gar (a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd) yn lle'r plât L Seisnig. Fe enillwyd y frwydr. | ||
Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, | Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac ym 1972 sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, gyda dau bartner arall, Wyn Thomas a William Lloyd. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon ym 1977 ac wedyn ym Mangor. <ref>Cofio Eirug Gol: Emyr Llewelyn Gruffudd Cyh:Y Lolfa 2004</ref>. Ymsefydlodd yn [[Y Groeslon]] lle bu nes iddo farw o ganser yn 2004. Fel un a oedd ar dân dros y Gymraeg, bu'n weithgar yn ceisio cael hyd i nwyddau â'r Gymraeg arnynt: llwyddodd i sicrhau oriorau digidol gydag ysgrifen yn y Gymraeg arnynt, cynhyrchu poteli llawn cannydd a chwistrellau lladd aroglau (a elwid yn "rhech-sgrwbiwr"!) a phethau cyffelyb - cynnyrch od yng nghanol y llyfrau yn Siop y Pentan. | ||
Roedd yn cael ei adnabod am ei synnwyr digrifwch unigryw a beiddgar. Fe adroddir hanesion amdano o hyd yn y gymdogaeth, storïau fel yr un amdano'n benthyca gwisg arolygydd yr heddlu a rhoi braw i dafarnwraig a chwsmeriaid [[Tafarn y Goat, Llanwnda]] ryw noson a hithau ymhell wedi amser cau, trwy alw yno a mynnu esboniad am yr ymddygiad gwarthus a meddwol - cyn i rywun sylweddoli yn y diwedd mai Eirug yn cael sbort oedd yno! | Roedd yn cael ei adnabod am ei synnwyr digrifwch unigryw a beiddgar. Fe adroddir hanesion amdano o hyd yn y gymdogaeth, storïau fel yr un amdano'n benthyca gwisg arolygydd yr heddlu a rhoi braw i dafarnwraig a chwsmeriaid [[Tafarn y Goat, Llanwnda]] ryw noson a hithau ymhell wedi amser cau, trwy alw yno a mynnu esboniad am yr ymddygiad gwarthus a meddwol - cyn i rywun sylweddoli yn y diwedd mai Eirug yn cael sbort oedd yno! | ||
==Gwaith llenyddol== | ==Gwaith llenyddol== | ||
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Bro Ogwr | Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Bro Ogwr ym 1998 am ''Blodyn Tatws'' ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 2000 am ''Tri Mochyn Bach''. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am ''Smôc Gron Bach'' ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am ''Bitsh!''. | ||
Ysgrifennodd 15 o lyfrau a chyhoeddodd | Ysgrifennodd 15 o lyfrau dan ei enw ei hun a chyhoeddodd gasgliadau o gerddi hefyd dan y ffugenw Derec Tomos a ''Myfi Derec'', sef hunangofiant dychmygol Derec Tomos a'i amrywiol gampau a helbulon. | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
*'' | *''Y Drych Tywyll a Storïau Eraill'' (Y Lolfa, 1992) | ||
*'' | *''Smôc Gron Bach'' (Y Lolfa, 1994) – Gwobr Goffa Daniel Owen 1996 | ||
*'' | *''Lara'' (Y Lolfa, 1995) | ||
*'' | *''United!'', Cyfres y Dolffin (Cwmni Iaith, 1996) | ||
*'' | *''Elvis: Diwrnod i'r Brenin'' (Y Lolfa, 1996) | ||
*'' | *''I Ble'r Aeth Haul y Bore?'' (Y Lolfa, 1997) | ||
*'' | *''Blodyn Tatws'' (Y Lolfa, 1998) – Cyfrol y Fedal Ryddiaith 1998 | ||
*'' | *''Hogia'r Milgi'' (Y Lolfa, 1999) | ||
*'' | *''Tri Mochyn Bach'' (Y Lolfa, 2000) – Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2000 | ||
*'' | *''I Dir Neb'' (Y Lolfa, 2001) | ||
*'' | *''Bitsh!'' (Y Lolfa, 2002) – Gwobr Goffa Daniel Owen 2002 | ||
*'' | *''Powdwr Rhech!'' (Y Lolfa, 2002) | ||
*'' | *''Y Dyn yn y Cefn heb Fwstásh'' (Y Lolfa, 2004) | ||
==Lol== | ==Lol== | ||
Am gyfnod sylweddol bu'n gysylltiedig â chyhoeddi ''Lol'', cylchgrawn pryfoclyd a feirniadai ffigyrau | Am gyfnod sylweddol bu'n gysylltiedig â chyhoeddi ''Lol'', cylchgrawn pryfoclyd a feirniadai ffigyrau amlwg yn y byd cyhoeddus Cymraeg yn aml am eu rhagrith a'u parodrwydd i elwa'n sylweddol ar "y system". Arweiniodd hyn yn y diwedd at achos llys yn ei erbyn gan un Cymro amlwg a barodd anawsterau ariannol dybryd i Eirug Wyn. Er gwaethaf yr aberth bersonol a wnaed gan Eirug Wyn ei hun a'i deulu, daeth allan o'r helynt gyda'i enw da'n fwy cadarn, oherwydd y gefnogaeth eang a gafwyd gan bobl oedd yn gwerthfawrogi ei safbwynt. Yn sicr, y tu allan i'r swigen gyfryngol yng Nghaerdydd, nid oedd fawr neb yn meddwl yn llai ohono oherwydd yr hyn a ddywedodd.<ref>Erthygl Wicipedia ar Eirug Wyn, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Eirug_Wyn], cyrchwyd 26.9.2021; Gwybodaeth leol a phersonol </ref> | ||
==Nodyn dadamwyso== | ==Nodyn dadamwyso== | ||
Ni ddylid cymysgu Y Prif Lenor Eirug Wyn | Ni ddylid cymysgu rhwng Y Prif Lenor Eirug Wyn ac Eurig Wyn o'r Waunfawr, a adwaenid fel "Eurig Wyn y Blaid" yn lleol ac a fu'n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Blaid Cymru am gyfnod. Sylwer ar y sillafiad gwahanol. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:37, 7 Mai 2022
Llenor Cymraeg oedd y Prif Lenor Eirug Wyn (1950–2004).
Bywgraffiad
Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair, Sir Drefaldwyn, yn fab i weinidog, y Parch John Price Wynne. Ym 1958 symudodd y teulu i Ddeiniolen. Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Llandinorwig ac wedyn Ysgol Brynrefail, Llanrug. Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plât D am ddysgwr gyrru ar gar (a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd) yn lle'r plât L Seisnig. Fe enillwyd y frwydr.
Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac ym 1972 sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, gyda dau bartner arall, Wyn Thomas a William Lloyd. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon ym 1977 ac wedyn ym Mangor. [1]. Ymsefydlodd yn Y Groeslon lle bu nes iddo farw o ganser yn 2004. Fel un a oedd ar dân dros y Gymraeg, bu'n weithgar yn ceisio cael hyd i nwyddau â'r Gymraeg arnynt: llwyddodd i sicrhau oriorau digidol gydag ysgrifen yn y Gymraeg arnynt, cynhyrchu poteli llawn cannydd a chwistrellau lladd aroglau (a elwid yn "rhech-sgrwbiwr"!) a phethau cyffelyb - cynnyrch od yng nghanol y llyfrau yn Siop y Pentan.
Roedd yn cael ei adnabod am ei synnwyr digrifwch unigryw a beiddgar. Fe adroddir hanesion amdano o hyd yn y gymdogaeth, storïau fel yr un amdano'n benthyca gwisg arolygydd yr heddlu a rhoi braw i dafarnwraig a chwsmeriaid Tafarn y Goat, Llanwnda ryw noson a hithau ymhell wedi amser cau, trwy alw yno a mynnu esboniad am yr ymddygiad gwarthus a meddwol - cyn i rywun sylweddoli yn y diwedd mai Eirug yn cael sbort oedd yno!
Gwaith llenyddol
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Bro Ogwr ym 1998 am Blodyn Tatws ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 2000 am Tri Mochyn Bach. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am Smôc Gron Bach ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am Bitsh!.
Ysgrifennodd 15 o lyfrau dan ei enw ei hun a chyhoeddodd gasgliadau o gerddi hefyd dan y ffugenw Derec Tomos a Myfi Derec, sef hunangofiant dychmygol Derec Tomos a'i amrywiol gampau a helbulon.
Llyfryddiaeth
- Y Drych Tywyll a Storïau Eraill (Y Lolfa, 1992)
- Smôc Gron Bach (Y Lolfa, 1994) – Gwobr Goffa Daniel Owen 1996
- Lara (Y Lolfa, 1995)
- United!, Cyfres y Dolffin (Cwmni Iaith, 1996)
- Elvis: Diwrnod i'r Brenin (Y Lolfa, 1996)
- I Ble'r Aeth Haul y Bore? (Y Lolfa, 1997)
- Blodyn Tatws (Y Lolfa, 1998) – Cyfrol y Fedal Ryddiaith 1998
- Hogia'r Milgi (Y Lolfa, 1999)
- Tri Mochyn Bach (Y Lolfa, 2000) – Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2000
- I Dir Neb (Y Lolfa, 2001)
- Bitsh! (Y Lolfa, 2002) – Gwobr Goffa Daniel Owen 2002
- Powdwr Rhech! (Y Lolfa, 2002)
- Y Dyn yn y Cefn heb Fwstásh (Y Lolfa, 2004)
Lol
Am gyfnod sylweddol bu'n gysylltiedig â chyhoeddi Lol, cylchgrawn pryfoclyd a feirniadai ffigyrau amlwg yn y byd cyhoeddus Cymraeg yn aml am eu rhagrith a'u parodrwydd i elwa'n sylweddol ar "y system". Arweiniodd hyn yn y diwedd at achos llys yn ei erbyn gan un Cymro amlwg a barodd anawsterau ariannol dybryd i Eirug Wyn. Er gwaethaf yr aberth bersonol a wnaed gan Eirug Wyn ei hun a'i deulu, daeth allan o'r helynt gyda'i enw da'n fwy cadarn, oherwydd y gefnogaeth eang a gafwyd gan bobl oedd yn gwerthfawrogi ei safbwynt. Yn sicr, y tu allan i'r swigen gyfryngol yng Nghaerdydd, nid oedd fawr neb yn meddwl yn llai ohono oherwydd yr hyn a ddywedodd.[2]
Nodyn dadamwyso
Ni ddylid cymysgu rhwng Y Prif Lenor Eirug Wyn ac Eurig Wyn o'r Waunfawr, a adwaenid fel "Eurig Wyn y Blaid" yn lleol ac a fu'n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Blaid Cymru am gyfnod. Sylwer ar y sillafiad gwahanol.