Chwedl Ynys yr Arch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwedl yw hanes enw '''Ynys yr Arch''', ger [[Bwlchderwin]], [[Clynnog-fawr]]. | Chwedl yw hanes enw '''Ynys yr Arch''', ger [[Bwlchderwin]], [[Clynnog-fawr]]. | ||
Credir i’r lle hwn ei enwi ar ôl marwolaeth Beuno Sant. Gan fod cymaint yn mynnu | Credir i’r lle hwn gael ei enwi ar ôl marwolaeth [[Beuno Sant]]. Gan fod cymaint yn mynnu y dylid ei gladdu yng Nghlynnog, yn Aberffraw ac ar Ynys Enlli – roedd ansicrwydd ynglŷn â lle roedd am ei gladdu mewn gwirionedd. Roedd dynion yn cario ei arch ger y llecyn yma o dir, ger Bwlchderwin, ac un noson rhoddwyd gorau i’r daith am ychydig er mwyn iddynt orffwys. Yn ôl adroddiad [[W.R. Ambrose]], pan wnaethant godi ymhen tipyn i ailgychwyn ar eu taith, dyma’r dynion yn sylweddoli fod tair arch bellach yn y man lle roedd arch Beuno, ac nid un. Fe wnaethant sylweddoli fod Beuno, trwy ryw ryfedd wyrth, wedi rhannu ei gorff i dair arch fel bod modd ei gladdu yn y tri lle arbennig a nodwyd uchod. Dyma sut y daeth y man hwn i gael ei alw'n "Ynys yr Arch". | ||
Cymerwyd yr enw fel enw ar yr ysgol genedlaethol a godwyd yma yng nghanol y 19g, sef [[Ysgol Ynys-yr-arch]]. | |||
{{eginyn}} | |||
==Ffynhonnell== | ==Ffynhonnell== | ||
Llinell 8: | Llinell 12: | ||
[[Categori: Chwedloniaeth]] | [[Categori: Chwedloniaeth]] | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:30, 6 Mai 2022
Chwedl yw hanes enw Ynys yr Arch, ger Bwlchderwin, Clynnog-fawr.
Credir i’r lle hwn gael ei enwi ar ôl marwolaeth Beuno Sant. Gan fod cymaint yn mynnu y dylid ei gladdu yng Nghlynnog, yn Aberffraw ac ar Ynys Enlli – roedd ansicrwydd ynglŷn â lle roedd am ei gladdu mewn gwirionedd. Roedd dynion yn cario ei arch ger y llecyn yma o dir, ger Bwlchderwin, ac un noson rhoddwyd gorau i’r daith am ychydig er mwyn iddynt orffwys. Yn ôl adroddiad W.R. Ambrose, pan wnaethant godi ymhen tipyn i ailgychwyn ar eu taith, dyma’r dynion yn sylweddoli fod tair arch bellach yn y man lle roedd arch Beuno, ac nid un. Fe wnaethant sylweddoli fod Beuno, trwy ryw ryfedd wyrth, wedi rhannu ei gorff i dair arch fel bod modd ei gladdu yn y tri lle arbennig a nodwyd uchod. Dyma sut y daeth y man hwn i gael ei alw'n "Ynys yr Arch".
Cymerwyd yr enw fel enw ar yr ysgol genedlaethol a godwyd yma yng nghanol y 19g, sef Ysgol Ynys-yr-arch.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Ffynhonnell
Ambrose, W. R. ‘’Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle’’ (Penygroes, 1872)