William Hobley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed y Parch. '''William Hobley''' yn y Gelli-ffrydiau, [[Nantlle]], Hydref 1858. Roedd yn ŵyr i [[Simon Hobley]], un o bileri'r achos yng [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Nghapel Bryn'rodyn]] ar y pryd. Ar ochr ei nain, roedd yn ddisgynnydd i [[Angharad James]], Gelli-ffrydiau.  
Ganed y Parch. '''William Hobley''' (1858-1933) yn fferm [[Gelli-ffrydiau]], [[Nantlle]]. Roedd yn ŵyr i [[Simon Hobley]], un o bileri'r achos yng [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Nghapel Bryn'rodyn]] ar y pryd. Ar ochr ei nain, roedd yn ddisgynnydd i [[Angharad James]], Gelli-ffrydiau. Yr oedd ei dad, William Hobley, yn berchennog llongau.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1871</ref>


Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, gan dderbyn addysg preifat yn ysgolion John Evans, a James Hews Bransby, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth yn 15 oed. Ni raddiodd yno er iddo fod yn y coleg am 4 blynedd. Aeth wedyn i Goleg y Bala, ac fe'i ordeiniwyd ym 1882. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Roedd ei deulu'n gyfoethog ac nid oedd arno weithio am gyflog ac felly ymneilltuodd wedyn i Gaernarfon yn 35 oed, gan ymroi i bregethu yn ôl y galw a darllen.
Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, gan dderbyn addysg breifat yn ysgolion John Evans, a James Hews Bransby, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth yn 15 oed. Ni raddiodd yno er iddo fod yn y coleg am 4 blynedd. Aeth wedyn i Goleg y Bala, ac fe'i hordeiniwyd ym 1882. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Roedd ei deulu'n gyfoethog ac nid oedd arno angen gweithio am gyflog ac felly ymneilltuodd wedyn yn 35 oed. Aeth at ei dad a'i dair chwaer a oedd yn byw ym Mwthyn Beuno, Waunfawr, gan ymroi i bregethu yn ôl y galw a darllen - ac fe'i disgrifiwyd yng Nghyfrifiadau 1901a 1911 fel "Gweinidog C.M.", serch nad oedd yn fugail ar yr un capel.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig (Waunfawr), 1901; Cyfrifiad plwyf  Cei Connah, 1911 - ymweld yr oedd Hobley ar noson y Cyfrifiad, o bosibl yn sgîl galwad i bregethu.</ref>
Cyhoeddodd ysgrifau ar Daniel Owen a bywyd Sir y Fflint Ei brif waith, fodd bynnag, oedd chwe chyfrol swmpus, '''Hanes Methodistiaeth Arfon''', a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924.  
 
Cyhoeddodd ysgrifau ar Daniel Owen a bywyd Sir y Fflint. Ei brif waith, fodd bynnag, oedd chwe chyfrol swmpus, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924.  


Bu'n farw'n ddi-briod 9 Ebrill 1933.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.337</ref>
Bu'n farw'n ddi-briod 9 Ebrill 1933.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.337</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:16, 16 Ebrill 2022

Ganed y Parch. William Hobley (1858-1933) yn fferm Gelli-ffrydiau, Nantlle. Roedd yn ŵyr i Simon Hobley, un o bileri'r achos yng Nghapel Bryn'rodyn ar y pryd. Ar ochr ei nain, roedd yn ddisgynnydd i Angharad James, Gelli-ffrydiau. Yr oedd ei dad, William Hobley, yn berchennog llongau.[1]

Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, gan dderbyn addysg breifat yn ysgolion John Evans, a James Hews Bransby, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth yn 15 oed. Ni raddiodd yno er iddo fod yn y coleg am 4 blynedd. Aeth wedyn i Goleg y Bala, ac fe'i hordeiniwyd ym 1882. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Roedd ei deulu'n gyfoethog ac nid oedd arno angen gweithio am gyflog ac felly ymneilltuodd wedyn yn 35 oed. Aeth at ei dad a'i dair chwaer a oedd yn byw ym Mwthyn Beuno, Waunfawr, gan ymroi i bregethu yn ôl y galw a darllen - ac fe'i disgrifiwyd yng Nghyfrifiadau 1901a 1911 fel "Gweinidog C.M.", serch nad oedd yn fugail ar yr un capel.[2]

Cyhoeddodd ysgrifau ar Daniel Owen a bywyd Sir y Fflint. Ei brif waith, fodd bynnag, oedd chwe chyfrol swmpus, Hanes Methodistiaeth Arfon, a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924.

Bu'n farw'n ddi-briod 9 Ebrill 1933.[3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1871
  2. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig (Waunfawr), 1901; Cyfrifiad plwyf Cei Connah, 1911 - ymweld yr oedd Hobley ar noson y Cyfrifiad, o bosibl yn sgîl galwad i bregethu.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.337