Cwm Gwared: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Cwm Gwared''' (neu '''Cwm Gwara''') yw'r cwm cul y mae [[Afon Hen]] yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys [[Mynydd Gurn Goch]] ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a [[Mynydd Bwlch Mawr]] i lawr i bentref [[Gurn Goch]]. Ym mhen uchaf un y cwm mae [[Cors-y-ddalfa]], lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan [[Ystad Glynllifon]] mae'n debyg. Gwerthwyd llawer o'r coed yn y 1870au-1880au. Yn wreiddiol, roedd Cwm Gwara'n rhan o ystad teulu Llwydiaid,Tŷ Mawr, [[Clynnog Fawr]]. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon ers rywbryd tua 1721 pan brynodd John Wynn, Glynllifon, Gwm Gwara, ynghyd â [[Ystad Tŷ Mawr | '''Cwm Gwared''' (neu '''Cwm Gwara''') yw'r cwm cul y mae [[Afon Hen]] yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys [[Mynydd Gurn Goch]] ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a [[Mynydd Bwlch Mawr]] i lawr i bentref [[Gurn Goch]]. Ym mhen uchaf un y cwm mae [[Cors-y-ddalfa]], lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan [[Ystad Glynllifon]] mae'n debyg. Gwerthwyd llawer o'r coed yn y 1870au-1880au. Yn wreiddiol, roedd Cwm Gwara'n rhan o ystad teulu Llwydiaid,Tŷ Mawr, [[Clynnog Fawr]]. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon ers rywbryd tua 1721 pan brynodd John Wynn, Glynllifon, Gwm Gwara, ynghyd â [[Ystad Tŷ Mawr|Thŷ Mawr]], a hefyd Maesmawr a Choed Hywel yn nhrefgordd [[Dinlle]] oddi wrth Philip Lloyd, gŵr bonheddig a oedd wedi symudd o Gwm Gwara i Lundain. Y pris a dalwyd am y cwbl oedd £1170, swm sylweddol dros ben y pryd hynny.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/7710-7727</ref> | ||
Mae mapiau'n tueddu | Erbyn 1840, roedd fferm Cwmgwared yn ymestyn dros 102 erw, ac [[Ystad Glynllifon]] yn gofalu am 70 erw arall o blanhigfeydd coed.<ref>LlGC, Map a rhestr degwm plwyf Llandwrog, 1840 [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/viewer/4541531#?cv=50&h=2289&c=&m=&s=&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4541531%2Fmanifest.json&xywh=9%2C405%2C1163%2C589]</ref> | ||
Mae mapiau'n tueddu i alw'r cwm yn ''Gwm Chwara'' neu'n ''Gwm Gwared''. Mae Myrddyn Fardd yn ei lyfr ar enwau lleoedd yn mynnu mai enw cywir y cwm yw ''Cwm Gwaedd'', sef Cwm Tirion neu Hynaws, ond prin bod yr esboniad yn taro tant.<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon'' (Caernarfon, d.d.), t.219</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:33, 9 Ebrill 2022
Cwm Gwared (neu Cwm Gwara) yw'r cwm cul y mae Afon Hen yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys Mynydd Gurn Goch ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a Mynydd Bwlch Mawr i lawr i bentref Gurn Goch. Ym mhen uchaf un y cwm mae Cors-y-ddalfa, lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan Ystad Glynllifon mae'n debyg. Gwerthwyd llawer o'r coed yn y 1870au-1880au. Yn wreiddiol, roedd Cwm Gwara'n rhan o ystad teulu Llwydiaid,Tŷ Mawr, Clynnog Fawr. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon ers rywbryd tua 1721 pan brynodd John Wynn, Glynllifon, Gwm Gwara, ynghyd â Thŷ Mawr, a hefyd Maesmawr a Choed Hywel yn nhrefgordd Dinlle oddi wrth Philip Lloyd, gŵr bonheddig a oedd wedi symudd o Gwm Gwara i Lundain. Y pris a dalwyd am y cwbl oedd £1170, swm sylweddol dros ben y pryd hynny.[1]
Erbyn 1840, roedd fferm Cwmgwared yn ymestyn dros 102 erw, ac Ystad Glynllifon yn gofalu am 70 erw arall o blanhigfeydd coed.[2]
Mae mapiau'n tueddu i alw'r cwm yn Gwm Chwara neu'n Gwm Gwared. Mae Myrddyn Fardd yn ei lyfr ar enwau lleoedd yn mynnu mai enw cywir y cwm yw Cwm Gwaedd, sef Cwm Tirion neu Hynaws, ond prin bod yr esboniad yn taro tant.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma