Moel Tryfan (mynydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mynydd yn ucheldir plwyf Llanwnda yw '''Moel Tryfan'''. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r dwyrain ac fe roddodd y mynydd yr enw i bentref neu dreflan...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mynydd yn ucheldir plwyf [[Llanwnda]] yw '''Moel Tryfan'''. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r dwyrain ac fe roddodd y mynydd yr enw i bentref neu dreflan [[Moel Tryfan (ardal)|Moel Tryfan]] ar ei lethrau gorllewinol. Ei uchder yw 1139 troedfedd uwchben y môr.
Mynydd yn ucheldir plwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]] yw '''Moel Tryfan''' - mae'r ffin yn rhedeg dros gopa'r mynydd. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r de-ddwyrain ac fe roddodd y mynydd ei enw i bentref neu dreflan [[Moel Tryfan (ardal)|Moel Tryfan]] ar ei lethrau gorllewinol. Ei uchder yw 1139 troedfedd uwchben y môr.


Mae'r mynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am resymau daearegol yn bennaf, oherwydd i waddodion yn cynnwys cregin cael eu eu darganfod yno ym 1831, gan brofi y bu unwaith dan y môr. Cododd hyn ddadl rhwng y rhai a welodd yn y dystiolaeth gadarnhâd o lifogydd Noa, tra ystyriai rhai mai prawf o oed mawr y ddaear a symundiadau daearegol oedd yma. Ymwelodd Chrales Darwin (a oedd yn ddaearegwr o ran ei alwedigaeth wreiddiol) ym 1842 i astudio'r darganfyddiadau ar y safle.
Mae'r mynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am resymau daearegol yn bennaf, oherwydd i waddodion yn cynnwys cregin gael eu darganfod yno ym 1831, gan brofi y bu unwaith dan y môr. Cododd hyn ddadl rhwng y rhai a welodd yn y dystiolaeth gadarnhad o wirionedd yr hanes am ddilyw Noa, tra ystyriai rhai mai prawf o oed mawr y ddaear a symudiadau daearegol oedd i'w gweld yma. Ymwelodd Charles Darwin (a oedd yn ddaearegwr o ran ei alwedigaeth wreiddiol) ym 1842 i astudio'r darganfyddiadau ar y safle.<ref>Simon Ingram, ''The Other Tryfan'' yng nghylchgrawn ''Trail'', 15.06.2016; https://www.livefortheoutdoors.com/outdoorfeatures/2016/6/30/the-other-tryfan</ref> NI chafodd hyd i unrhyw gregin, fodd bynnag, ond fe ffurfiodd ddamcaniaeth ynglŷn â'r rheswm am fodolaeth y fath beth trwy awgrymu mai'r achos oedd symudiadau mawr daearegol a blygodd ac a falodd y gwythiennau o lechi gerllaw.<ref>''Llên Natur'', rhifyn 3 (2008); https://www.livefortheoutdoors.com/outdoorfeatures/2016/6/30/the-other-tryfan</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:44, 9 Ebrill 2022

Mynydd yn ucheldir plwyfi Llandwrog a Llanwnda yw Moel Tryfan - mae'r ffin yn rhedeg dros gopa'r mynydd. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r de-ddwyrain ac fe roddodd y mynydd ei enw i bentref neu dreflan Moel Tryfan ar ei lethrau gorllewinol. Ei uchder yw 1139 troedfedd uwchben y môr.

Mae'r mynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am resymau daearegol yn bennaf, oherwydd i waddodion yn cynnwys cregin gael eu darganfod yno ym 1831, gan brofi y bu unwaith dan y môr. Cododd hyn ddadl rhwng y rhai a welodd yn y dystiolaeth gadarnhad o wirionedd yr hanes am ddilyw Noa, tra ystyriai rhai mai prawf o oed mawr y ddaear a symudiadau daearegol oedd i'w gweld yma. Ymwelodd Charles Darwin (a oedd yn ddaearegwr o ran ei alwedigaeth wreiddiol) ym 1842 i astudio'r darganfyddiadau ar y safle.[1] NI chafodd hyd i unrhyw gregin, fodd bynnag, ond fe ffurfiodd ddamcaniaeth ynglŷn â'r rheswm am fodolaeth y fath beth trwy awgrymu mai'r achos oedd symudiadau mawr daearegol a blygodd ac a falodd y gwythiennau o lechi gerllaw.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau