Cwm Silyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cwm Silyn''' yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod Craig Cwm Silyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Mae Cwm Silyn ym mhlwyf Llanllyf...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cwm Silyn''' yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod [[Craig Cwm Silyn]] ar ochr ddeheuol [[Dyffryn Nantlle]]. Mae Cwm Silyn ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Cwm bychan ydyw, yn cynnwys dau lyn llonydd a thywyll. Mae olion hafoty ar lan y llyn isaf. O geg y llyn isaf, rhed afonig yn syth i'r gogledd ar draws y rhostir cyn syrthio i waelod y dyffryn trwy geunant a chyn cyrraedd [[Llyn Nantlle Uchaf]] nid nepell o fferm Tŷ Coch.
Mae '''Cwm Silyn''' yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod [[Craig Cwm Silyn]] ar ochr ddeheuol [[Dyffryn Nantlle]]. Enw arall ar y cwm yn lleol yw'r Graig Las.<ref>Thomas Alun Williams, "Mynyddoedd Nant Nantlle", ''Baladeulyn Ddoe a Heddiw'', cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]  </ref>Mae Cwm Silyn ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Cwm bychan ydyw, yn cynnwys dau lyn llonydd a thywyll. Mae olion hafoty ar lan y llyn isaf, yn ogystal â nifer o gorlannau defaid. Hefyd ar lan y llyn mae olion cwt cychod a ddefnyddid gan bysgotwyr. O geg y llyn isaf, rhed afonig yn syth i'r gogledd i lawr y rhostir cyn syrthio i waelod y dyffryn trwy geunant a chyn cyrraedd safle [[Llyn Nantlle Isaf]] nid nepell o fferm Tŷ Coch. [[Afon Tŷ Coch]] yw'r enw a roddir iddi gan y trigolion lleol er nad yw'r enw hwnnw'n ymddangos ar unrhyw fap.<ref>Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", ''Baladeulyn Ddoe a Heddiw'', cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]  </ref> Erbyn heddiw mae'r rhedeg yn syth i [[Afon Llyfni]]. Mewn pwll llai yn y cwm fe gwyd [[Afon Rhydus]] - neu Afon Rhitys i arddel sillafiad arall.


Yr unig ffordd hwylus o gyrraedd Cwm Silyn heddiw yw ar hyd llwybr mynydd o gyfeiriad [[Nebo]].
Fel llawer o fannau eraill, mae Cwm Silyn yn leoliad straeon y Tylwyth Teg. Denai'r llynnoedd bysgotwyr ar hyd y canrifoedd, ac adroddir am un pysgotwr, William Elis, a dreuliodd bnawn ar ei hyd wrth y llyn. Yn annisgwyl, ymddangosodd criw o ddynion byr o'i flaen, yn canu ac yn dawnsio ger y llyn. Ar ôl iddo eu gweld a gwrando atynt, ceisiodd nesáu atynt, ond chwythodd y dynion lwch i'w lygaid. Ar ôl rhwbio ei lygaid, roedd y Tywyth Teg wedi diflannu yn ôl yr hanes.
 
Ym 1942, tarodd awyren Hawker Henley o faes awyr Tywyn, Meirionnydd, y graig uwchben y llyn, gan ladd y peilot. Roedd olion yr awyren i'w gweld tan yn ddiweddar.
 
Yr unig ffordd hwylus o gyrraedd Cwm Silyn heddiw yw ar hyd lôn drol o gyfeiriad [[Nebo]], neu drwy droi i fyny allt Tyddyn Agnes o gyfeiriad [[Tan'rallt]], ond mae'n llwybr poblogaidd oherwydd y nifer o ddringwyr sydd yn mynd at ochr serth Craig Cwm Silyn, lle ceir rhai o ddringfeydd gorau'r ardal.<ref>Geraint Thomas, ''Cyfrinachau Llynnoedd Eryri'', (Tal-y-bont, 2011), tt.40-1.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:12, 9 Ebrill 2022

Mae Cwm Silyn yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod Craig Cwm Silyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Enw arall ar y cwm yn lleol yw'r Graig Las.[1]Mae Cwm Silyn ym mhlwyf Llanllyfni. Cwm bychan ydyw, yn cynnwys dau lyn llonydd a thywyll. Mae olion hafoty ar lan y llyn isaf, yn ogystal â nifer o gorlannau defaid. Hefyd ar lan y llyn mae olion cwt cychod a ddefnyddid gan bysgotwyr. O geg y llyn isaf, rhed afonig yn syth i'r gogledd i lawr y rhostir cyn syrthio i waelod y dyffryn trwy geunant a chyn cyrraedd safle Llyn Nantlle Isaf nid nepell o fferm Tŷ Coch. Afon Tŷ Coch yw'r enw a roddir iddi gan y trigolion lleol er nad yw'r enw hwnnw'n ymddangos ar unrhyw fap.[2] Erbyn heddiw mae'r rhedeg yn syth i Afon Llyfni. Mewn pwll llai yn y cwm fe gwyd Afon Rhydus - neu Afon Rhitys i arddel sillafiad arall.

Fel llawer o fannau eraill, mae Cwm Silyn yn leoliad straeon y Tylwyth Teg. Denai'r llynnoedd bysgotwyr ar hyd y canrifoedd, ac adroddir am un pysgotwr, William Elis, a dreuliodd bnawn ar ei hyd wrth y llyn. Yn annisgwyl, ymddangosodd criw o ddynion byr o'i flaen, yn canu ac yn dawnsio ger y llyn. Ar ôl iddo eu gweld a gwrando atynt, ceisiodd nesáu atynt, ond chwythodd y dynion lwch i'w lygaid. Ar ôl rhwbio ei lygaid, roedd y Tywyth Teg wedi diflannu yn ôl yr hanes.

Ym 1942, tarodd awyren Hawker Henley o faes awyr Tywyn, Meirionnydd, y graig uwchben y llyn, gan ladd y peilot. Roedd olion yr awyren i'w gweld tan yn ddiweddar.

Yr unig ffordd hwylus o gyrraedd Cwm Silyn heddiw yw ar hyd lôn drol o gyfeiriad Nebo, neu drwy droi i fyny allt Tyddyn Agnes o gyfeiriad Tan'rallt, ond mae'n llwybr poblogaidd oherwydd y nifer o ddringwyr sydd yn mynd at ochr serth Craig Cwm Silyn, lle ceir rhai o ddringfeydd gorau'r ardal.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Mynyddoedd Nant Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]
  2. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]
  3. Geraint Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri, (Tal-y-bont, 2011), tt.40-1.