J.J. Thomas, FGS: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarelwr galluog oedd '''J.J. Thomas, Kendal''' (1860-1942) y bu galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd | Chwarelwr galluog oedd '''J.J. Thomas, Kendal''' (1860-1942) y bu galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd cyn belled â Mecsico a’r Unol Daleithiau. Urddwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas y Daearegwyr (F.G.S.). | ||
Fe'i ganed yn Nhŷ Ucha, ardal [[Rhostryfan]] | Fe'i ganed yn Nhŷ Ucha, ardal [[Rhostryfan]], ym 1860 a bu'n gweithio yn y chwareli lleol yn hogyn ifanc, ond gadawodd i fynd i fyw at ei ewyrth, Thomas Williams, yn Broughton-in-Furness a mynychodd ddosbarth nos i ddysgu Saesneg. | ||
Un o'r Fron Oleu, Rhostryfan oedd Thomas Williams ac roedd yntau wedi gadael yr ardal yn llanc ifanc gan ddod yn berchennog chwarel Ulpha yn nyffryn Duddon yn Ardal y Llynnoedd. Yn drychinebus, bu foddi yn ei chwarel ei hun | Un o'r Fron Oleu, Rhostryfan oedd Thomas Williams ac roedd yntau wedi gadael yr ardal yn llanc ifanc gan ddod yn berchennog chwarel Ulpha yn nyffryn Duddon yn Ardal y Llynnoedd. Yn drychinebus, bu iddo foddi yn ei chwarel ei hun ym 1880. | ||
Symudodd J.J. Thomas i Kendal | Symudodd J.J. Thomas i Kendal ym 1886 ac yno y bu weddill ei oes. | ||
Yn y man daeth yn brif reolwr ar chwarel Tilberthwaite a gwnaeth ei ffortiwn yno. Bu'n faer Kendal deirgwaith, bu ar Gyngor Sir Westmorland am 46 mlynedd ac | Yn y man daeth yn brif reolwr ar chwarel Tilberthwaite a gwnaeth ei ffortiwn yno. Bu'n faer Kendal deirgwaith, bu ar Gyngor Sir Westmorland am 46 mlynedd ac ym 1936 fe'i hurddwyd yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Kendal. | ||
Hen lanc ydoedd, nodedig am ei haelioni, ac wedi ei farwolaeth | Hen lanc ydoedd, nodedig am ei haelioni, ac wedi ei farwolaeth ym 1942 gadawodd symiau o arian i Brifysgol Cymru ac i bentref Rhostryfan. | ||
Roedd yr arian i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r tlawd a'r anghenus, i weddwon chwarelwyr, i godi elusendai, i [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan|Gapel Horeb]] a'r Eisteddfod leol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth J. J. Thomas i weithredu yn ôl ei ddymuniad, ac mae'r pwyllgor wedi rhannu llogau byth ers hynny. | Roedd yr arian i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r tlawd a'r anghenus, i weddwon chwarelwyr, i godi elusendai, i [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan|Gapel Horeb]] a'r Eisteddfod leol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth J.J. Thomas i weithredu yn ôl ei ddymuniad, ac mae'r pwyllgor wedi rhannu llogau byth ers hynny. | ||
Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae [[Ysgol Gynradd Rhostryfan]], myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. <ref>Allan o ''Lleu'' tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.</ref> | Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae [[Ysgol Gynradd Rhostryfan]], myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. <ref>Allan o ''Lleu'' tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.</ref> | ||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]] | [[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Diwydianwyr a Chyfalafwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:08, 1 Ebrill 2022
Chwarelwr galluog oedd J.J. Thomas, Kendal (1860-1942) y bu galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd cyn belled â Mecsico a’r Unol Daleithiau. Urddwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas y Daearegwyr (F.G.S.).
Fe'i ganed yn Nhŷ Ucha, ardal Rhostryfan, ym 1860 a bu'n gweithio yn y chwareli lleol yn hogyn ifanc, ond gadawodd i fynd i fyw at ei ewyrth, Thomas Williams, yn Broughton-in-Furness a mynychodd ddosbarth nos i ddysgu Saesneg.
Un o'r Fron Oleu, Rhostryfan oedd Thomas Williams ac roedd yntau wedi gadael yr ardal yn llanc ifanc gan ddod yn berchennog chwarel Ulpha yn nyffryn Duddon yn Ardal y Llynnoedd. Yn drychinebus, bu iddo foddi yn ei chwarel ei hun ym 1880.
Symudodd J.J. Thomas i Kendal ym 1886 ac yno y bu weddill ei oes.
Yn y man daeth yn brif reolwr ar chwarel Tilberthwaite a gwnaeth ei ffortiwn yno. Bu'n faer Kendal deirgwaith, bu ar Gyngor Sir Westmorland am 46 mlynedd ac ym 1936 fe'i hurddwyd yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Kendal.
Hen lanc ydoedd, nodedig am ei haelioni, ac wedi ei farwolaeth ym 1942 gadawodd symiau o arian i Brifysgol Cymru ac i bentref Rhostryfan.
Roedd yr arian i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r tlawd a'r anghenus, i weddwon chwarelwyr, i godi elusendai, i Gapel Horeb a'r Eisteddfod leol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth J.J. Thomas i weithredu yn ôl ei ddymuniad, ac mae'r pwyllgor wedi rhannu llogau byth ers hynny.
Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae Ysgol Gynradd Rhostryfan, myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. [1]
Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn:
Ei galon lawn haelioni - ei ofal Ei gyfoeth o'r llechi A rannodd â bro ei eni, Arllwys aur er ei lles hi." Geraint Lloyd Owen
Cyfeiriadau
- ↑ Allan o Lleu tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.