Cim, Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cim''' yn enw ar ardal agored i'r gogledd o bentref [[Carmel]] ym mhlwyf [[Llandwrog]], ger dreflan [[Capel-y-bryn]]. Mae map Ordnans 1919 yn nodi'r enw yn y darn o dir ger Pen-y-bonc, a rhwng Glan-yr-afon Fawr i'r dwyrain, a Bryn Eithin i'r gorllewin. Ystyr ''Cim'' yn ôl y Dr Glenda Carr yw 'tir comin'. Bu adeg pan oedd llawer o ucheldir plwyfi Uwchgwyrfai sydd heddiw wedi'i amgáu yn dir agored a ddefnyddid gan y plwyfolion i bori anifeiliadaid ac i godi mawn. Mae llawer o dir ardal y Cim heb derfynnau hyd heddiw, ond ymddengys fod yr enw wedi'i gofnodi mor gynnar â 1604.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', t.119</ref>. Erbyn 1810, roedd tŷ o'r enw Glanrafon y Cim yno, ac un Thomas Roberts, teiliwr, yn byw yno.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/2574</ref>. Dichon mai tŷ lle mae Glan-yr-afon Fawr yn sefyll heddiw ydoedd, neu'n agos i'r lle hwnnw.
Mae '''Cim''' yn enw ar ardal agored i'r gogledd o bentref [[Carmel]] ym mhlwyf [[Llandwrog]], ger treflan [[Capel-y-bryn]]. Mae map Ordnans 1919 yn nodi'r enw ar y darn o dir ger Pen-y-bonc, a rhwng Glan-yr-afon Fawr i'r dwyrain, a Bryn Eithin i'r gorllewin. Ystyr ''Cim'' yn ôl Dr Glenda Carr yw 'tir comin'. Bu adeg pan oedd llawer o ucheldir plwyfi Uwchgwyrfai, sydd heddiw wedi'i amgáu, yn dir agored a ddefnyddid gan y plwyfolion i bori anifeiliaid ac i godi mawn. Mae llawer o dir ardal y Cim heb derfynau hyd heddiw (ac yn benodol y tir i'r gogledd i gyfeiriad Tafarn Dywarch), ond ymddengys fod yr enw wedi'i gofnodi mor gynnar â 1604.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', t.119</ref>. Erbyn 1810, roedd tŷ o'r enw Glanrafon y Cim yno, ac un Thomas Roberts, teiliwr, yn byw yno.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/2574</ref>. Dichon mai tŷ lle mae Glan-yr-afon Fawr yn sefyll heddiw ydoedd, neu'n agos i'r lle hwnnw.


Y cwestiwn yw hyn: a yw ardal y Cim wedi crebachu wrth i fwy o'r comin gael ei droi'n dyddynod ar gyfer y chwarelwyr, neu a oedd yr ardal dan sylw'n cael ei neilltuo'n arbennig at ddefnydd y gymuned cyn hynny?
Y cwestiwn yw hyn: a yw ardal y Cim wedi crebachu wrth i fwy o'r comin gael ei droi'n dyddynnod ar gyfer y chwarelwyr, ynteu a oedd yr ardal dan sylw'n cael ei neilltuo'n arbennig at ddefnydd y gymuned cyn hynny?


Dichon mai'r un gair sydd yn enw [[Pont-y-cim]] ger [[Pontlyfni]].
Dichon mai'r un gair sydd yn enw [[Pont-y-cim]] ger [[Pontlyfni]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:46, 25 Mawrth 2022

Mae Cim yn enw ar ardal agored i'r gogledd o bentref Carmel ym mhlwyf Llandwrog, ger treflan Capel-y-bryn. Mae map Ordnans 1919 yn nodi'r enw ar y darn o dir ger Pen-y-bonc, a rhwng Glan-yr-afon Fawr i'r dwyrain, a Bryn Eithin i'r gorllewin. Ystyr Cim yn ôl Dr Glenda Carr yw 'tir comin'. Bu adeg pan oedd llawer o ucheldir plwyfi Uwchgwyrfai, sydd heddiw wedi'i amgáu, yn dir agored a ddefnyddid gan y plwyfolion i bori anifeiliaid ac i godi mawn. Mae llawer o dir ardal y Cim heb derfynau hyd heddiw (ac yn benodol y tir i'r gogledd i gyfeiriad Tafarn Dywarch), ond ymddengys fod yr enw wedi'i gofnodi mor gynnar â 1604.[1]. Erbyn 1810, roedd tŷ o'r enw Glanrafon y Cim yno, ac un Thomas Roberts, teiliwr, yn byw yno.[2]. Dichon mai tŷ lle mae Glan-yr-afon Fawr yn sefyll heddiw ydoedd, neu'n agos i'r lle hwnnw.

Y cwestiwn yw hyn: a yw ardal y Cim wedi crebachu wrth i fwy o'r comin gael ei droi'n dyddynnod ar gyfer y chwarelwyr, ynteu a oedd yr ardal dan sylw'n cael ei neilltuo'n arbennig at ddefnydd y gymuned cyn hynny?

Dichon mai'r un gair sydd yn enw Pont-y-cim ger Pontlyfni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, t.119
  2. Archifdy Caernarfon, X/Poole/2574