Cangen Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Adeiladwyd '''Cangen reilffordd Nantlle''' ym1872, gan gwmni [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], i gysylltu [[Tal-y-sarn]] â'r rhwydwaith rheilffyrdd lled safonol cenedlaethol a oedd wedi cyrraedd Pen-y-groes ym 1867. O'r dechrau bron, cwmni [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR)]] oedd yn gyfrifol am rhedeg y gwasanaethau.
Adeiladwyd '''Cangen reilffordd Nantlle''' ym 1872, gan gwmni [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], i gysylltu [[Tal-y-sarn]] â'r rhwydwaith cenedlaethol o reilffyrdd lled safonol a oedd wedi cyrraedd Pen-y-groes ym 1867. Bron o'r dechrau, cwmni [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR)]] oedd yn gyfrifol am redeg y gwasanaethau.


O'r gyffordd yng [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|ngorsaf Pen-y-groes]], codwyd lein newydd ar arglawdd, gyda phont ar draws y briffordd sy'n arwain at [[Llanllyfni|Lanllyfni]]. Ar ôl ryw hanner milltir, adeiladwyd y trac ar ben hen wely [[Rheilffordd Nantlle]] belled â Thal-y-sarn, lle codwyd gorsaf a enwyd yn [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf Nantlle]] (waeth bod yr orsaf filltir a mwy o'r pentref hwnnw). Dyna oedd yn achosi rhoi'r gorau i drenau a dynnid gan geffylau rhwng [[Seidins Tyddyn Bengam]] a'r chwareli. O hynny allan, byddai'r "rýn" ond yn cludo llechi o'r chwareli eu hunain hyd yr orsaf newydd, lle adeiladwyd iard nwyddau sylweddol a seidins ar ddwy lefel, er mwyn hwyluso trawslwytho llechi. Defnyddid yr iard ar gyfer nwyddau cyffredinol a glo, ac roedd seidin yn arwain at [[Gwaith Nwy Pen-y-groes|waith nwy]] hefyd. Ger [[Pant Du]] roedd seidin arall lle trawslwythid llechi o'r chwareli ar ochr ddeuheuol y dyffryn hyd tua 1915 wedi iddynt gyrraedd yno ar hyd lein a elwid yn fawreddog  [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]].<ref>Alun John Richards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), t.177</ref>  Daeth y gwasanaeth nwyddau i ben pan gaewyd y brif lein rhwng Caernarfon ac Afon Wen ddiwedd 1963.
Yn cychwyn o'r gyffordd yng [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|ngorsaf Pen-y-groes]], adeiladwyd lein newydd ar arglawdd, gyda phont ar draws y briffordd sy'n arwain at [[Llanllyfni|Lanllyfni]]. Ar ôl rhyw hanner milltir ar linell hollol newydd, ymunodd y trac â hen wely [[Rheilffordd Nantlle]] nes cyrraedd Tal-y-sarn, lle codwyd gorsaf a enwyd yn [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf Nantlle]] (serch bod yr orsaf filltir a mwy o'r pentref hwnnw). Pan agorodd y gangen newydd, nid oedd angen parhau â'r trenau a dynnid gan geffylau rhwng [[Seidins Tyddyn Bengam]] a'r chwareli. O hynny ymlaen, byddai'r "rýn" ond yn cludo llechi o'r chwareli eu hunain cyn belled â'r orsaf newydd, lle'r adeiladwyd iard nwyddau sylweddol a seidins ar ddwy lefel, er mwyn hwyluso trawslwytho llechi. Defnyddid yr iard ar gyfer nwyddau cyffredinol a glo hefyd, ac roedd seidin yno oedd yn arwain at waith nwy [[Cwmni Nwy Pen-y-groes, Llanllyfni a Dyffryn Nantlle]]. Ger [[Pant Du]] roedd seidin arall lle trawslwythid llechi o'r chwareli ar ochr ddeuheuol y dyffryn wedi iddynt gyrraedd yno ar hyd lein a elwid yn fawreddog  [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]]. Parhaodd hyn hyd 1915.<ref>Alun John Richards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), t.177</ref>  Daeth yr holl wasanaethau nwyddau eraill i ben pan gaewyd y brif lein rhwng Caernarfon ac Afon Wen ddiwedd 1963.


Nid oedd y gangen yn llewyrchus o ran cludo teithwyr unwaith y daeth bysiau i'r ardal. Bu nifer o ymdrechion i leihau costau, megis defnyddio ''rail motors'', sef cerbydau gydag injan stêm a seddau ar yr un ''chassis''. Fe'i chaewyd ym 1932, er i'r orsaf aros mewn cyflwr go lew gan fod trenau arbennig yn ei defnyddio ar achlysuron fel tripiau blynyddol yr ysgolion Sul. Heddiw defnyddir adeilad yr orsaf fel canolfan gymdeithasol.
Nid oedd y gangen yn denu llawer o deithwyr unwaith y daeth bysiau i'r ardal. Bu nifer o ymdrechion i leihau costau, megis defnyddio ''rail motors'', sef cerbydau gydag injan stêm a seddau ar yr un ''chassis''. Ataliwyd y gwasanaeth arferol i deithwyr ym 1932, er i'r orsaf aros mewn cyflwr go lew gan fod trenau arbennig yn ei defnyddio ar gyfer achlysuron arbennig megis tripiau blynyddol yr ysgolion Sul. Heddiw defnyddir adeilad yr orsaf fel canolfan gymdeithasol.
 
Roedd trenau teithwyr yn cysylltu â bron pob trên ar y brif lein ym Mhen-y-groes. Dyma'r amserlen ar gyfer 1919:
PENYGROES I NANTLLE.—9 20 a.m.; 10 a.m.; 10 35 a.m.; 11 40 a.m.; 2 10 p.m.; 4 40 p.m.; 5 25 p.m.
NANTLLE I BENYGROES.—7 30 a.m.; 9 35 a.m.; 10 15 a.m.; 11  20 a.m.; 1 15 p.m.; 4 20 p.m.; 5 10 p.m.; 5 40 p.m.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 26.11.1919, t.3</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:59, 24 Mawrth 2022

Adeiladwyd Cangen reilffordd Nantlle ym 1872, gan gwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon, i gysylltu Tal-y-sarn â'r rhwydwaith cenedlaethol o reilffyrdd lled safonol a oedd wedi cyrraedd Pen-y-groes ym 1867. Bron o'r dechrau, cwmni Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) oedd yn gyfrifol am redeg y gwasanaethau.

Yn cychwyn o'r gyffordd yng ngorsaf Pen-y-groes, adeiladwyd lein newydd ar arglawdd, gyda phont ar draws y briffordd sy'n arwain at Lanllyfni. Ar ôl rhyw hanner milltir ar linell hollol newydd, ymunodd y trac â hen wely Rheilffordd Nantlle nes cyrraedd Tal-y-sarn, lle codwyd gorsaf a enwyd yn orsaf Nantlle (serch bod yr orsaf filltir a mwy o'r pentref hwnnw). Pan agorodd y gangen newydd, nid oedd angen parhau â'r trenau a dynnid gan geffylau rhwng Seidins Tyddyn Bengam a'r chwareli. O hynny ymlaen, byddai'r "rýn" ond yn cludo llechi o'r chwareli eu hunain cyn belled â'r orsaf newydd, lle'r adeiladwyd iard nwyddau sylweddol a seidins ar ddwy lefel, er mwyn hwyluso trawslwytho llechi. Defnyddid yr iard ar gyfer nwyddau cyffredinol a glo hefyd, ac roedd seidin yno oedd yn arwain at waith nwy Cwmni Nwy Pen-y-groes, Llanllyfni a Dyffryn Nantlle. Ger Pant Du roedd seidin arall lle trawslwythid llechi o'r chwareli ar ochr ddeuheuol y dyffryn wedi iddynt gyrraedd yno ar hyd lein a elwid yn fawreddog Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon. Parhaodd hyn hyd 1915.[1] Daeth yr holl wasanaethau nwyddau eraill i ben pan gaewyd y brif lein rhwng Caernarfon ac Afon Wen ddiwedd 1963.

Nid oedd y gangen yn denu llawer o deithwyr unwaith y daeth bysiau i'r ardal. Bu nifer o ymdrechion i leihau costau, megis defnyddio rail motors, sef cerbydau gydag injan stêm a seddau ar yr un chassis. Ataliwyd y gwasanaeth arferol i deithwyr ym 1932, er i'r orsaf aros mewn cyflwr go lew gan fod trenau arbennig yn ei defnyddio ar gyfer achlysuron arbennig megis tripiau blynyddol yr ysgolion Sul. Heddiw defnyddir adeilad yr orsaf fel canolfan gymdeithasol.

Roedd trenau teithwyr yn cysylltu â bron pob trên ar y brif lein ym Mhen-y-groes. Dyma'r amserlen ar gyfer 1919:

PENYGROES I NANTLLE.—9 20 a.m.; 10 a.m.; 10 35 a.m.; 11 40 a.m.; 2 10 p.m.; 4 40 p.m.; 5 25 p.m. 
NANTLLE I BENYGROES.—7 30 a.m.; 9 35 a.m.; 10 15 a.m.; 11  20 a.m.; 1 15 p.m.; 4 20 p.m.; 5 10 p.m.; 5 40 p.m.[2]

Cyfeiriadau

  1. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), t.177
  2. Y Dinesydd Cymreig, 26.11.1919, t.3