George Borrow: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ymwelodd '''George Borrow''' â chyrion [[Uwchgwyrfai]] ar daith trwy Eryri tua 1861, pan oedd yn gwneud ymchwil ar gyfer ei lyfr taith enwog, ''Wild Wales''. Canolbwyntiodd ar yr ardaloedd o gwmpas Llangollen a Wrecsam, fodd bynnag, ac er iddo fentro i Eryri o leiaf unwaith a threulio amser ar Ynys Môn, ni fentrodd i Uwchgwyrfai heblaw am Ddyffryn Gwyrfai pan oedd ar daith i Feddgelert o Gaernarfon. Soniodd am ''Pen Drws Coed'', sef [[ | Ymwelodd '''George Borrow''', y nofelydd ac ysgrifennwr llyfrau taith, â chyrion [[Uwchgwyrfai]] ar daith trwy Eryri tua 1861, pan oedd yn gwneud ymchwil ar gyfer ei lyfr taith enwog, ''Wild Wales''. Canolbwyntiodd ar yr ardaloedd o gwmpas Llangollen a Wrecsam, fodd bynnag, ac er iddo fentro i Eryri o leiaf unwaith a threulio amser ar Ynys Môn, ni fentrodd i Uwchgwyrfai heblaw am Ddyffryn Gwyrfai pan oedd ar daith i Feddgelert o Gaernarfon. Soniodd am ''Pen Drws Coed'', sef [[Mynyddfor]], (neu Fynydd Grug i bobl Dyffryn Nantlle), gan nodi ei fod yn debyg i eliffant ar ei orwedd. Ar ôl galw am luniaeth yn nhafarn [[Betws Garmon]], aeth heibio i Lyn Cwellyn, lle mae'n cofnodi ei fod yn ddwfn iawn, a bod llawer o frithyll, pewnhwyaid a thorgochiaid yn cael eu dal yno. | ||
''Wild Wales'' a anogodd lawer iawn o bobl i ymweld â'r ardal am y tro cyntaf, yn arbennig gan fod rheilffyrdd yn dechrau hwyluso teithio i Gymru o ardaloedd poblog Lloegr. | ''Wild Wales'' a anogodd lawer iawn o bobl i ymweld â'r ardal am y tro cyntaf, yn arbennig gan fod rheilffyrdd yn dechrau hwyluso teithio i Gymru o ardaloedd poblog Lloegr. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:38, 23 Mawrth 2022
Ymwelodd George Borrow, y nofelydd ac ysgrifennwr llyfrau taith, â chyrion Uwchgwyrfai ar daith trwy Eryri tua 1861, pan oedd yn gwneud ymchwil ar gyfer ei lyfr taith enwog, Wild Wales. Canolbwyntiodd ar yr ardaloedd o gwmpas Llangollen a Wrecsam, fodd bynnag, ac er iddo fentro i Eryri o leiaf unwaith a threulio amser ar Ynys Môn, ni fentrodd i Uwchgwyrfai heblaw am Ddyffryn Gwyrfai pan oedd ar daith i Feddgelert o Gaernarfon. Soniodd am Pen Drws Coed, sef Mynyddfor, (neu Fynydd Grug i bobl Dyffryn Nantlle), gan nodi ei fod yn debyg i eliffant ar ei orwedd. Ar ôl galw am luniaeth yn nhafarn Betws Garmon, aeth heibio i Lyn Cwellyn, lle mae'n cofnodi ei fod yn ddwfn iawn, a bod llawer o frithyll, pewnhwyaid a thorgochiaid yn cael eu dal yno.
Wild Wales a anogodd lawer iawn o bobl i ymweld â'r ardal am y tro cyntaf, yn arbennig gan fod rheilffyrdd yn dechrau hwyluso teithio i Gymru o ardaloedd poblog Lloegr.
Am fanylion cyffredinol amdano, gweler Wicipedia: [1]