Pandy Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Safai [[Pandy Glynllifon]] ar lethr ddeheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty [[Glynllifon]], ac mae yna olion | Safai [[Pandy Glynllifon]] ar lethr ddeheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty [[Glynllifon]], ac mae yna olion cafn neu ffrwd melin yn y coed. 'Gwern y Felin' yw enw'r darn o goedwig ym [[Parc Glynllifon|Mharc Glynllifon]]<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, Gol.1af, 1888)</ref> sydd bellach yn cuddio olion y pandy. Gan fod cryn dirlunio wedi digwydd yn ardal y Cwm Coed ers canol y 18g, dichon i'r felin gau fel melin weithredol tua 250 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n debyg i'r murddun gael ei gadw i ychwanegu at awyrgych 'ramantaidd' yr ardd. | ||
Pwrpas ''pandy'' oedd pannu, neu olchi, gwasgu a gorffen, gwlanen ar ôl | Pwrpas ''pandy'' oedd pannu, neu olchi, gwasgu a gorffen, gwlanen ar ôl iddi gael ei nyddu er mwyn creu deunyddiau llyfn a thynn. Nid oes sicrwydd o ble ddaeth y wlanen, ond o bosibl roedd yn gwasanaethu tenantiaid yr ystâd yn gyffredinol. | ||
Mae rhywfaint o le i gredu | Mae rhywfaint o le i gredu mai disgynnydd i [[Edmund Glynn]], efallai ei or-ŵyr, oedd yn cadw'r pandy ganol y 18g, a hynny cyn i'r parc presennol gael ei wahanu oddi wrth dir amaethyddol yr ystad.<ref>Gwybodaeth bersonol oddi wrth W Alister Williams</ref> Mae'n sicr, beth bynnag, mai un Thomas Griffith (tad [[Dafydd Ddu Eryri]] oedd y pannwr rywbryd o gwmpas 1740-50.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953) t.883</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
[[Categori:Melinau]] | [[Categori:Melinau]] | ||
[[Categori:Pandai]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:16, 22 Mawrth 2022
Safai Pandy Glynllifon ar lethr ddeheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty Glynllifon, ac mae yna olion cafn neu ffrwd melin yn y coed. 'Gwern y Felin' yw enw'r darn o goedwig ym Mharc Glynllifon[1] sydd bellach yn cuddio olion y pandy. Gan fod cryn dirlunio wedi digwydd yn ardal y Cwm Coed ers canol y 18g, dichon i'r felin gau fel melin weithredol tua 250 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n debyg i'r murddun gael ei gadw i ychwanegu at awyrgych 'ramantaidd' yr ardd.
Pwrpas pandy oedd pannu, neu olchi, gwasgu a gorffen, gwlanen ar ôl iddi gael ei nyddu er mwyn creu deunyddiau llyfn a thynn. Nid oes sicrwydd o ble ddaeth y wlanen, ond o bosibl roedd yn gwasanaethu tenantiaid yr ystâd yn gyffredinol.
Mae rhywfaint o le i gredu mai disgynnydd i Edmund Glynn, efallai ei or-ŵyr, oedd yn cadw'r pandy ganol y 18g, a hynny cyn i'r parc presennol gael ei wahanu oddi wrth dir amaethyddol yr ystad.[2] Mae'n sicr, beth bynnag, mai un Thomas Griffith (tad Dafydd Ddu Eryri oedd y pannwr rywbryd o gwmpas 1740-50.[3]