Melin Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'n debyg yr oedd [[Melin Nantlle]] yn sefyll ar un o lednentydd [[Afon Llyfnwy]], rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi. Mae map degwm 1840 yn dangos cae o'r enw "Wern felin" ac adeilad bach yn ei gornel, gyferbyn â lleoliad [[Barics Pen-yr-orsedd]] heddiw ar dir a oedd yn eiddo i [[Plas Nantlle]].<ref>LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog</ref> Erbyn hyn mae pob cof amdani wedi pallu a dim sôn ar fapiau amdani ychwaith. Mae nant fechan yn rhedeg i lawr o'r chwarel yn agos at y safle heddiw, ac mae'n bosibl mai hon oedd yn troi'r felin - neu efallai bod pinfarch neu nant y felin wedi ei hadeiladu o'r [[Afon Garth]] i sicrhau mwy o ddŵr.  
Mae'n debyg fod  [[Melin Nantlle]] wedi sefyll ar un o lednentydd [[Afon Llyfni]], rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi. Mae map degwm 1840 yn dangos cae o'r enw "Wern felin" ac adeilad bach yn ei gornel, gyferbyn â lleoliad [[Barics Pen-yr-orsedd]] heddiw ar dir a oedd yn eiddo i [[Plas Nantlle]].<ref>LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog</ref> Erbyn hyn mae pob cof amdani wedi pallu a dim sôn ar fapiau amdani chwaith. Mae nant fechan yn rhedeg i lawr o'r chwarel yn agos at y safle heddiw, ac mae'n bosibl mai hon oedd yn troi'r felin - neu efallai bod pinfarch, neu nant y felin, wedi ei hadeiladu o'r [[Afon Garth]] i sicrhau mwy o ddŵr. Gerllaw'r bont neu gwlfert dros y nant honno mae adeilad a fu unwaith yn siop a elwid yn [[Siop y Felin, Nantlle|Siop y Felin]].


Ceir sôn am Felin Nantlle yn gysylltiedig â'r Plas mewn gweithred dyddiedig 1771 <ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/1923</ref> a sonnir am felinydd yn Nantlle, gyda chyfeiriad penodol at "William Thomas, miller, of Nantlle Mill" yng nghofrestr y plwyf ym 1778.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1778</ref> Gan mai sôn am felinydd yn benodol mai'r cofnod, gellir yn deg casglu mai melin flawd oedd Melin Nantlle.
Rhaid cofio bod Plas Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle, yn sefyll ar safle [[Llys Baladeulyn]], neu gerllaw iddo. Hwn oedd llys y tywysogion Cymreig yn y cylch os nad i [[Uwchgwyrfai]] gyfan.<ref>John Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012</ref> Byddai'n naturiol fod yr arglwydd yn berchen ar felin ac yn mynnu fod pawb yn y fro yn gorfod ei defnyddio. Yn sicr, roedd Plas Nantlle yn cael ei alw'n "Plase yn y nantlle alias Dole fellan" mewn cytundeb priodas dyddiedig 1725,<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7655</ref> ac mae "Dole fellan" mewn gwirionedd yn "Dôl y felin", na all ond cyfeirio at Felin Nantlle. Mae'n bur debyg bod y felin, ynghyd â'r tŷ, wedi eu gosod ar brydles o hynny allan, ond arhosodd yn eiddo i ddisgynyddion (trwy briodas 1725) Tudur ap Goronwy, a theulu [[Teulu Glynn, Nantlle a Phlas Newydd| Glynniaid, Plas Newydd]] hyd 1808 pan fu iddynt gael eu gwerthu i'r Parch Edward Hughes, Cinmel, Sir y Fflint.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/1845.</ref>  


Rhaid cofio bod Plas Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle, oedd yn sefyll ar, neu ger, safle [[Llys Baladeulyn]], sef llys y tywysogion Cymreig yn y cylch os nad [[Uwchgwyrfai]] cyfan.<ref>John Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012</ref> Byddai'n naturiol fod yr arglwydd yn perchen ar felin a mynnu foid pawb yn y fro yn gorfod ei defnyddio.
Ceir sôn am Felin Nantlle yn gysylltiedig â'r Plas mewn gweithred dyddiedig 1771 <ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/1923</ref> a sonnir am felinydd yn Nantlle, gyda chyfeiriad penodol at "William Thomas, miller, of Nantlle Mill" yng nghofrestr y plwyf ym 1778.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1778</ref> Gan mai sôn am felinydd yn benodol mae'r cofnod, gellir yn deg casglu mai melin flawd oedd Melin Nantlle.


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:16, 18 Mawrth 2022

Mae'n debyg fod Melin Nantlle wedi sefyll ar un o lednentydd Afon Llyfni, rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi. Mae map degwm 1840 yn dangos cae o'r enw "Wern felin" ac adeilad bach yn ei gornel, gyferbyn â lleoliad Barics Pen-yr-orsedd heddiw ar dir a oedd yn eiddo i Plas Nantlle.[1] Erbyn hyn mae pob cof amdani wedi pallu a dim sôn ar fapiau amdani chwaith. Mae nant fechan yn rhedeg i lawr o'r chwarel yn agos at y safle heddiw, ac mae'n bosibl mai hon oedd yn troi'r felin - neu efallai bod pinfarch, neu nant y felin, wedi ei hadeiladu o'r Afon Garth i sicrhau mwy o ddŵr. Gerllaw'r bont neu gwlfert dros y nant honno mae adeilad a fu unwaith yn siop a elwid yn Siop y Felin.

Rhaid cofio bod Plas Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle, yn sefyll ar safle Llys Baladeulyn, neu gerllaw iddo. Hwn oedd llys y tywysogion Cymreig yn y cylch os nad i Uwchgwyrfai gyfan.[2] Byddai'n naturiol fod yr arglwydd yn berchen ar felin ac yn mynnu fod pawb yn y fro yn gorfod ei defnyddio. Yn sicr, roedd Plas Nantlle yn cael ei alw'n "Plase yn y nantlle alias Dole fellan" mewn cytundeb priodas dyddiedig 1725,[3] ac mae "Dole fellan" mewn gwirionedd yn "Dôl y felin", na all ond cyfeirio at Felin Nantlle. Mae'n bur debyg bod y felin, ynghyd â'r tŷ, wedi eu gosod ar brydles o hynny allan, ond arhosodd yn eiddo i ddisgynyddion (trwy briodas 1725) Tudur ap Goronwy, a theulu Glynniaid, Plas Newydd hyd 1808 pan fu iddynt gael eu gwerthu i'r Parch Edward Hughes, Cinmel, Sir y Fflint.[4]

Ceir sôn am Felin Nantlle yn gysylltiedig â'r Plas mewn gweithred dyddiedig 1771 [5] a sonnir am felinydd yn Nantlle, gyda chyfeiriad penodol at "William Thomas, miller, of Nantlle Mill" yng nghofrestr y plwyf ym 1778.[6] Gan mai sôn am felinydd yn benodol mae'r cofnod, gellir yn deg casglu mai melin flawd oedd Melin Nantlle.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog
  2. John Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/7655
  4. Archifdy Caernarfon, X/Poole/1845.
  5. Archifdy Caernarfon, X/Poole/1923
  6. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1778