Melin Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'n debyg fod Melin Nantlle yn sefyll ar Afon Llyfnwy, rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi efallai ger Plas Tal-y-sarn, fel bod pob cof amdani...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae'n debyg fod [[Melin Nantlle]] | Mae'n debyg fod [[Melin Nantlle]] wedi sefyll ar un o lednentydd [[Afon Llyfni]], rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi. Mae map degwm 1840 yn dangos cae o'r enw "Wern felin" ac adeilad bach yn ei gornel, gyferbyn â lleoliad [[Barics Pen-yr-orsedd]] heddiw ar dir a oedd yn eiddo i [[Plas Nantlle]].<ref>LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog</ref> Erbyn hyn mae pob cof amdani wedi pallu a dim sôn ar fapiau amdani chwaith. Mae nant fechan yn rhedeg i lawr o'r chwarel yn agos at y safle heddiw, ac mae'n bosibl mai hon oedd yn troi'r felin - neu efallai bod pinfarch, neu nant y felin, wedi ei hadeiladu o'r [[Afon Garth]] i sicrhau mwy o ddŵr. Gerllaw'r bont neu gwlfert dros y nant honno mae adeilad a fu unwaith yn siop a elwid yn [[Siop y Felin, Nantlle|Siop y Felin]]. | ||
Rhaid cofio bod Plas Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle, yn sefyll ar safle [[Llys Baladeulyn]], neu gerllaw iddo. Hwn oedd llys y tywysogion Cymreig yn y cylch os nad i [[Uwchgwyrfai]] gyfan.<ref>John Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012</ref> Byddai'n naturiol fod yr arglwydd yn berchen ar felin ac yn mynnu fod pawb yn y fro yn gorfod ei defnyddio. Yn sicr, roedd Plas Nantlle yn cael ei alw'n "Plase yn y nantlle alias Dole fellan" mewn cytundeb priodas dyddiedig 1725,<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7655</ref> ac mae "Dole fellan" mewn gwirionedd yn "Dôl y felin", na all ond cyfeirio at Felin Nantlle. Mae'n bur debyg bod y felin, ynghyd â'r tŷ, wedi eu gosod ar brydles o hynny allan, ond arhosodd yn eiddo i ddisgynyddion (trwy briodas 1725) Tudur ap Goronwy, a theulu [[Teulu Glynn, Nantlle a Phlas Newydd| Glynniaid, Plas Newydd]] hyd 1808 pan fu iddynt gael eu gwerthu i'r Parch Edward Hughes, Cinmel, Sir y Fflint.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/1845.</ref> | |||
Ceir sôn am Felin Nantlle yn gysylltiedig â'r Plas mewn gweithred dyddiedig 1771 <ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/1923</ref> a sonnir am felinydd yn Nantlle, gyda chyfeiriad penodol at "William Thomas, miller, of Nantlle Mill" yng nghofrestr y plwyf ym 1778.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1778</ref> Gan mai sôn am felinydd yn benodol mae'r cofnod, gellir yn deg casglu mai melin flawd oedd Melin Nantlle. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:16, 18 Mawrth 2022
Mae'n debyg fod Melin Nantlle wedi sefyll ar un o lednentydd Afon Llyfni, rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi. Mae map degwm 1840 yn dangos cae o'r enw "Wern felin" ac adeilad bach yn ei gornel, gyferbyn â lleoliad Barics Pen-yr-orsedd heddiw ar dir a oedd yn eiddo i Plas Nantlle.[1] Erbyn hyn mae pob cof amdani wedi pallu a dim sôn ar fapiau amdani chwaith. Mae nant fechan yn rhedeg i lawr o'r chwarel yn agos at y safle heddiw, ac mae'n bosibl mai hon oedd yn troi'r felin - neu efallai bod pinfarch, neu nant y felin, wedi ei hadeiladu o'r Afon Garth i sicrhau mwy o ddŵr. Gerllaw'r bont neu gwlfert dros y nant honno mae adeilad a fu unwaith yn siop a elwid yn Siop y Felin.
Rhaid cofio bod Plas Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle, yn sefyll ar safle Llys Baladeulyn, neu gerllaw iddo. Hwn oedd llys y tywysogion Cymreig yn y cylch os nad i Uwchgwyrfai gyfan.[2] Byddai'n naturiol fod yr arglwydd yn berchen ar felin ac yn mynnu fod pawb yn y fro yn gorfod ei defnyddio. Yn sicr, roedd Plas Nantlle yn cael ei alw'n "Plase yn y nantlle alias Dole fellan" mewn cytundeb priodas dyddiedig 1725,[3] ac mae "Dole fellan" mewn gwirionedd yn "Dôl y felin", na all ond cyfeirio at Felin Nantlle. Mae'n bur debyg bod y felin, ynghyd â'r tŷ, wedi eu gosod ar brydles o hynny allan, ond arhosodd yn eiddo i ddisgynyddion (trwy briodas 1725) Tudur ap Goronwy, a theulu Glynniaid, Plas Newydd hyd 1808 pan fu iddynt gael eu gwerthu i'r Parch Edward Hughes, Cinmel, Sir y Fflint.[4]
Ceir sôn am Felin Nantlle yn gysylltiedig â'r Plas mewn gweithred dyddiedig 1771 [5] a sonnir am felinydd yn Nantlle, gyda chyfeiriad penodol at "William Thomas, miller, of Nantlle Mill" yng nghofrestr y plwyf ym 1778.[6] Gan mai sôn am felinydd yn benodol mae'r cofnod, gellir yn deg casglu mai melin flawd oedd Melin Nantlle.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma