Melin Bryn-y-gro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Melin Bryn-y-gro''' ger y fferm o'r un enw ym mhlwyf Llanllyfni. Safai ar ochr y lôn o Lanllyfni i gyfeiriad Graeanog, yr ochr arall i'r rhe...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Melin Bryn-y-gro''' ger y fferm o'r un enw ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Safai ar ochr y lôn o Lanllyfni i gyfeiriad Graeanog, yr ochr arall i'r rheilffordd i fferm Bryn-y-gro. | Roedd '''Melin Bryn-y-gro''' ger y fferm o'r un enw ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]], (ar y ffin â phlwyf [[Llanllyfni]] ond fe'i gosodid ar wahân i'r fferm. Safai ar ochr y lôn o Lanllyfni i gyfeiriad Graeanog, yr ochr arall i'r rheilffordd i fferm Bryn-y-gro. Melin ŷd a drowyd gan ddŵr [[Afon Gochoer]] oedd y felin hon, ac roedd ffrwd felin wedi ei gwneud i gludo dŵr yr afon yn uwch i fyny na'r felin i lyn melin. Fe'i dangosir ar fap Ordnans 25" i'r filltir, a gyhoeddwyd ym 1918, fel melin oedd yn dal i droi. | ||
Y cofnod cyntaf am y felin hon yw hwnnw yn y ''Record of Carnarvon'', lle'i nodir fel y felin ar gyfer trigolion Nancall, Caer Du a Bodychain. Dyddiad y cofnod hwn yw 1470.<ref>Gweler dan [[Bodellog]] ar y wefan hon.</ref> | |||
Ceir sôn wedyn am Felin Bryn-y-gro mewn trosglwyddiad o forgais dyddiedig 1769 i deulu Bulkeley, Baron Hill ger Biwmares. Erbyn hynny, roedd yn rhan o ystad fechan yn cynnwys [[Graeanog]], [[Bachwen]], Henbont a Choch-y-big, ynghyd â'r [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]] ym mhlwyf Clynnog, ychydig o dyddynnod ym mhlwyf [[Llanllyfni]] a llawer o dir yn Sir Fôn.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510</ref> | |||
Ym 1865, Richard Parry oedd tenant y felin hon, ynghyd â saith acer o dir. Y perchennog oedd O.J.E. Nanney.<ref>Llyfr rhenti plwyf [[Clynnog Fawr]]</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Melinau]] | [[Categori:Melinau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:19, 12 Mawrth 2022
Roedd Melin Bryn-y-gro ger y fferm o'r un enw ym mhlwyf Clynnog Fawr, (ar y ffin â phlwyf Llanllyfni ond fe'i gosodid ar wahân i'r fferm. Safai ar ochr y lôn o Lanllyfni i gyfeiriad Graeanog, yr ochr arall i'r rheilffordd i fferm Bryn-y-gro. Melin ŷd a drowyd gan ddŵr Afon Gochoer oedd y felin hon, ac roedd ffrwd felin wedi ei gwneud i gludo dŵr yr afon yn uwch i fyny na'r felin i lyn melin. Fe'i dangosir ar fap Ordnans 25" i'r filltir, a gyhoeddwyd ym 1918, fel melin oedd yn dal i droi.
Y cofnod cyntaf am y felin hon yw hwnnw yn y Record of Carnarvon, lle'i nodir fel y felin ar gyfer trigolion Nancall, Caer Du a Bodychain. Dyddiad y cofnod hwn yw 1470.[1]
Ceir sôn wedyn am Felin Bryn-y-gro mewn trosglwyddiad o forgais dyddiedig 1769 i deulu Bulkeley, Baron Hill ger Biwmares. Erbyn hynny, roedd yn rhan o ystad fechan yn cynnwys Graeanog, Bachwen, Henbont a Choch-y-big, ynghyd â'r New Inn ym mhlwyf Clynnog, ychydig o dyddynnod ym mhlwyf Llanllyfni a llawer o dir yn Sir Fôn.[2]
Ym 1865, Richard Parry oedd tenant y felin hon, ynghyd â saith acer o dir. Y perchennog oedd O.J.E. Nanney.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gweler dan Bodellog ar y wefan hon.
- ↑ Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510
- ↑ Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr