William Williams, Bodaden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''William Williams, Bodaden''' yn gymeriad pur amlwg ym mhlwyf Llanwnda yn nechrau'r 19g. Yn fab i David Williams o'r Dinas ac Ellen Williams, me...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''William Williams, Bodaden''' yn gymeriad pur amlwg ym mhlwyf Llanwnda yn nechrau'r 19g.  
Roedd '''William Williams, Bodaden''' yn gymeriad pur amlwg ym mhlwyf [[Llanwnda]] yn nechrau'r 19g.  


Yn fab i David Williams o'r Dinas ac Ellen Williams, merch Evan Williams, Bodaden, roedd William yn hanu o deuluoedd o ffermwyr lled gefnog. Fe'i ganed ym 1772, ddwy flynedd ar ôl ei frawd hŷn, Evan. Er na wyddys lle cafodd ysgol mae'n sicr iddo gael addysg weddol dda yn ôl safonau'r cyfnod a gallai ysgrifennu'n rhwydd yn Gymraeg a Saesneg. Ymsefydlodd fel ffarmwr Bodaden ar farwolaeth ei dad ym 1811.
Yn fab i David Williams o'r [[Dinas]] ac Ellen Williams, merch Evan Williams, [[Bodaden]], roedd William yn hanu o deuluoedd o ffermwyr lled gefnog. Fe'i ganed ym 1772, ddwy flynedd ar ôl ei frawd hŷn, Evan. Er na wyddys lle cafodd ysgol mae'n sicr iddo gael addysg weddol dda yn ôl safonau'r cyfnod a gallai ysgrifennu'n rhwydd yn Gymraeg a Saesneg. Ymsefydlodd fel ffarmwr Bodaden ar farwolaeth ei dad ym 1811.


Er iddo lynu wrth yr Eglwys Wladol roedd traddodiad iddo chwarae rhan amlwg yn sefydlu'r Ysgol Sul ym Mryn'rodyn a Rhostryfan ac yn sicr nid oedd yn elyniaethus i'r Methodistiaid. Roedd yn ymhél hefyd â barddoni a chanddo grap ar y cynganeddion. Roedd yn aelod o gymdeithas farddol Cymdeithas yr Eryron a gyfarfyddai yn nhafarn y Bull yn Y Bontnewydd dan arweiniad Dafydd Ddu Eryri. Evan, brawd William Williams, a gadwai'r dafarn yn y cyfnod hwnnw ac roedd cryn ddiota'n mynd ymlaen yng nghyfarfodydd y gymdeithas - gyda'r tafarnwr ei hun yn waeth na neb, meddir. Yn wir, ni ddangosodd William Williams unrhyw ddiddordeb yn y mudiad dirwest a ddaeth yn gynyddol amlwg at ddiwedd ei oes.  
Er iddo lynu wrth yr Eglwys Wladol roedd traddodiad iddo chwarae rhan amlwg yn sefydlu'r Ysgol Sul ym [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Mryn'rodyn]] a [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan|Rhostryfan]] ac yn sicr nid oedd yn elyniaethus i'r Methodistiaid. Roedd yn ymhél hefyd â barddoni a chanddo grap ar y cynganeddion. Roedd yn aelod o gymdeithas farddol Cymdeithas yr Eryron a gyfarfyddai yn nhafarn y Bull yn [[Y Bontnewydd]] dan arweiniad [[Dafydd Ddu Eryri]]. Evan, brawd William Williams, a gadwai'r dafarn yn y cyfnod hwnnw ac roedd cryn ddiota'n mynd ymlaen yng nghyfarfodydd y gymdeithas - gyda'r tafarnwr ei hun yn waeth na neb, meddir. Yn wir, ni ddangosodd William Williams unrhyw ddiddordeb yn y mudiad dirwest a ddaeth yn gynyddol amlwg at ddiwedd ei oes.  


Ni hoffai William Williams y cweryla chwerw a ddigwyddai bryd hynny rhwng y gwahanol enwadau crefyddol a chyfieithodd lyfryn o waith Sais o'r enw Cornelius Cayley, yn galw am fwy o gytgord a chydweithio rhwng yr enwadau. Teitl y llyfryn Cymraeg oedd ''Y Gangen Olewydden Heddwch'' ac fe'i cyhoeddwyd ym 1821. (Mae'n sicr ei fod yn eithriadol brin erbyn hyn - hyd yn oed os oes copïau wedi goroesi o gwbl - tybed a oes gan rywun o ddarllenwyr Cof y Cwmwd gopi - byddai'n ddiddorol gwybod.)  
Ni hoffai William Williams y cweryla chwerw a ddigwyddai bryd hynny rhwng y gwahanol enwadau crefyddol a chyfieithodd lyfryn o waith Sais o'r enw Cornelius Cayley, yn galw am fwy o gytgord a chydweithio rhwng yr enwadau. Teitl y llyfryn Cymraeg oedd ''Y Gangen Olewydden Heddwch'' ac fe'i cyhoeddwyd ym 1821. (Mae'n sicr ei fod yn eithriadol brin erbyn hyn - hyd yn oed os oes copïau wedi goroesi o gwbl - tybed a oes gan rywun o ddarllenwyr '''Cof y Cwmwd''' gopi - byddai'n ddiddorol gwybod.)  


Roedd William Williams yn byw yn y cyfnod pan oedd y tiroedd comin yn cael eu hamgáu a thyddynwyr yn colli hawliau pori a oedd wedi bod yn eu meddiant ers cenedlaethau. Bu'n rhaid i dyddynwyr llethrau Llanwnda a Llandwrog dalu symiau o arian i'r Goron am y tir a ddalient a rhaid oedd cael syrfewyr i nodi'r terfynau. Gweithredodd William fel syrfewr ar lawer o'r tyddynnod a chanmolwyd cywirdeb a destlusrwydd ei waith. Byddai hefyd yn llunio llythyrau o gefnogaeth i dlodion a oedd yn gorfod mynd ar ofyn y plwyf am gymorth ariannol i'w cynnal.  
Roedd William Williams yn byw yn y cyfnod pan oedd y tiroedd comin yn cael eu hamgáu a thyddynwyr yn colli hawliau pori a oedd wedi bod yn eu meddiant ers cenedlaethau. Bu'n rhaid i dyddynwyr llethrau Llanwnda a [[Llandwrog]] dalu symiau o arian i'r Goron am y tir a ddalient a rhaid oedd cael syrfewyr i nodi'r terfynau. Gweithredodd William fel syrfewr ar lawer o'r tyddynnod a chanmolwyd cywirdeb a destlusrwydd ei waith. Byddai hefyd yn llunio llythyrau o gefnogaeth i dlodion a oedd yn gorfod mynd ar ofyn y plwyf am gymorth ariannol i'w cynnal.  


Ar ddiwedd ei oes dirywiodd amgylchiadau personol William Williams ym Modaden a dywedid ei fod wedi rhoi gormod o sylw i ofynion pobl eraill ar draul ei fusnes ei hun. Ym 1834 rhoddodd denantiaeth Bodaden i fyny a symud i Bryn Horeb, tŷ preifat yn Rhostryfan. Yno y treuliodd ei flynyddoedd olaf, ond bu farw ym 1847 yn Tryfan Bach, cartref merch i gefnder iddo. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanwnda ar 4 Mai 1847 yn 74 oed.<sup>[1]</sup>  
Ar ddiwedd ei oes dirywiodd amgylchiadau personol William Williams ym Modaden a dywedid ei fod wedi rhoi gormod o sylw i ofynion pobl eraill ar draul ei fusnes ei hun. Ym 1834 rhoddodd denantiaeth Bodaden i fyny a symud i Bryn Horeb, tŷ preifat yn [[Rhostryfan]]. Yno y treuliodd ei flynyddoedd olaf, ond bu farw ym 1847 yn Tryfan Bach, cartref merch i gefnder iddo. Fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda|Llanwnda]] ar 4 Mai 1847 yn 74 oed.<ref>Seiliwyd y wybodaeth uchod ar yr ysgrif "William Williams, Bodaden", yn W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', tt.146-51.</ref>  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Seiliwyd y wybodaeth uchod ar yr ysgrif "William Williams, Bodaden", yn W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', tt.146-51.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Amaethwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:51, 4 Mawrth 2022

Roedd William Williams, Bodaden yn gymeriad pur amlwg ym mhlwyf Llanwnda yn nechrau'r 19g.

Yn fab i David Williams o'r Dinas ac Ellen Williams, merch Evan Williams, Bodaden, roedd William yn hanu o deuluoedd o ffermwyr lled gefnog. Fe'i ganed ym 1772, ddwy flynedd ar ôl ei frawd hŷn, Evan. Er na wyddys lle cafodd ysgol mae'n sicr iddo gael addysg weddol dda yn ôl safonau'r cyfnod a gallai ysgrifennu'n rhwydd yn Gymraeg a Saesneg. Ymsefydlodd fel ffarmwr Bodaden ar farwolaeth ei dad ym 1811.

Er iddo lynu wrth yr Eglwys Wladol roedd traddodiad iddo chwarae rhan amlwg yn sefydlu'r Ysgol Sul ym Mryn'rodyn a Rhostryfan ac yn sicr nid oedd yn elyniaethus i'r Methodistiaid. Roedd yn ymhél hefyd â barddoni a chanddo grap ar y cynganeddion. Roedd yn aelod o gymdeithas farddol Cymdeithas yr Eryron a gyfarfyddai yn nhafarn y Bull yn Y Bontnewydd dan arweiniad Dafydd Ddu Eryri. Evan, brawd William Williams, a gadwai'r dafarn yn y cyfnod hwnnw ac roedd cryn ddiota'n mynd ymlaen yng nghyfarfodydd y gymdeithas - gyda'r tafarnwr ei hun yn waeth na neb, meddir. Yn wir, ni ddangosodd William Williams unrhyw ddiddordeb yn y mudiad dirwest a ddaeth yn gynyddol amlwg at ddiwedd ei oes.

Ni hoffai William Williams y cweryla chwerw a ddigwyddai bryd hynny rhwng y gwahanol enwadau crefyddol a chyfieithodd lyfryn o waith Sais o'r enw Cornelius Cayley, yn galw am fwy o gytgord a chydweithio rhwng yr enwadau. Teitl y llyfryn Cymraeg oedd Y Gangen Olewydden Heddwch ac fe'i cyhoeddwyd ym 1821. (Mae'n sicr ei fod yn eithriadol brin erbyn hyn - hyd yn oed os oes copïau wedi goroesi o gwbl - tybed a oes gan rywun o ddarllenwyr Cof y Cwmwd gopi - byddai'n ddiddorol gwybod.)

Roedd William Williams yn byw yn y cyfnod pan oedd y tiroedd comin yn cael eu hamgáu a thyddynwyr yn colli hawliau pori a oedd wedi bod yn eu meddiant ers cenedlaethau. Bu'n rhaid i dyddynwyr llethrau Llanwnda a Llandwrog dalu symiau o arian i'r Goron am y tir a ddalient a rhaid oedd cael syrfewyr i nodi'r terfynau. Gweithredodd William fel syrfewr ar lawer o'r tyddynnod a chanmolwyd cywirdeb a destlusrwydd ei waith. Byddai hefyd yn llunio llythyrau o gefnogaeth i dlodion a oedd yn gorfod mynd ar ofyn y plwyf am gymorth ariannol i'w cynnal.

Ar ddiwedd ei oes dirywiodd amgylchiadau personol William Williams ym Modaden a dywedid ei fod wedi rhoi gormod o sylw i ofynion pobl eraill ar draul ei fusnes ei hun. Ym 1834 rhoddodd denantiaeth Bodaden i fyny a symud i Bryn Horeb, tŷ preifat yn Rhostryfan. Yno y treuliodd ei flynyddoedd olaf, ond bu farw ym 1847 yn Tryfan Bach, cartref merch i gefnder iddo. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanwnda ar 4 Mai 1847 yn 74 oed.[1]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd y wybodaeth uchod ar yr ysgrif "William Williams, Bodaden", yn W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, tt.146-51.