Ysgol Sul Tŷ Glas (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cofnodir '''Ysgol Sul Tŷ Glas''' ymysg yr ysgolion Sul a gynhelid ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] ym 1847 adeg [[Brad y Llyfrau Gleision]], yn yr adroddiadau hynny. Roedd 22 o ddisgyblion dan 15 yn mynychu'r ysgol Sul honno a 30 o oedolion dros 15 - | Cofnodir '''Ysgol Sul Tŷ Glas''' ymysg yr ysgolion Sul a gynhelid ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] ym 1847 adeg [[Brad y Llyfrau Gleision]], yn yr adroddiadau hynny. Roedd 22 o ddisgyblion dan 15 yn mynychu'r ysgol Sul honno a 30 o oedolion dros 15 - roedd ymysg yr ysgolion Sul lleiaf a gofnodir. Ni wyddys fawr mwy am yr ysgol hon, ac mae'n ymddangos iddi gael ei chynnal yn ffermdy neu adeiladau fferm fach Tŷ Glas, sydd ond yn furddun erbyn heddiw ond a oedd y fferm fechan yn ucheldir Clynnog rhwng [[Bwlch Derwin]] a [[Tai'n Lôn]], nid nepell o ffrem Llwyn-gwanadl Isaf. | ||
Ni cheir unrhyw sôn am yr ysgol Sul hon yn llyfr [[William Hobley]] am Fethodistiaeth Arfon, ac felly roedd hi'n fyrhoedlog iawn neu ei | Ni cheir unrhyw sôn am yr ysgol Sul hon yn llyfr [[William Hobley]] am Fethodistiaeth Arfon, ac felly roedd hi'n fyrhoedlog iawn neu ei bod yn gysylltiedig â [[Capel Bwlchderwin (MC)|Chapel Bwlchderwin]] a oedd yn [[Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd]] ac felly y tu allan i faes llyfr Hobley. Diddorol yn y cyd-destun hwn felly yw nodi fod William Prichard, Llwyn-gwanadl (sef cymydog agosaf Tŷ Glas) yn un o flaenoriaid [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr|Capel Uchaf]] tua'r adeg hon.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.31</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:51, 17 Chwefror 2022
Cofnodir Ysgol Sul Tŷ Glas ymysg yr ysgolion Sul a gynhelid ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1847 adeg Brad y Llyfrau Gleision, yn yr adroddiadau hynny. Roedd 22 o ddisgyblion dan 15 yn mynychu'r ysgol Sul honno a 30 o oedolion dros 15 - roedd ymysg yr ysgolion Sul lleiaf a gofnodir. Ni wyddys fawr mwy am yr ysgol hon, ac mae'n ymddangos iddi gael ei chynnal yn ffermdy neu adeiladau fferm fach Tŷ Glas, sydd ond yn furddun erbyn heddiw ond a oedd y fferm fechan yn ucheldir Clynnog rhwng Bwlch Derwin a Tai'n Lôn, nid nepell o ffrem Llwyn-gwanadl Isaf.
Ni cheir unrhyw sôn am yr ysgol Sul hon yn llyfr William Hobley am Fethodistiaeth Arfon, ac felly roedd hi'n fyrhoedlog iawn neu ei bod yn gysylltiedig â Chapel Bwlchderwin a oedd yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd ac felly y tu allan i faes llyfr Hobley. Diddorol yn y cyd-destun hwn felly yw nodi fod William Prichard, Llwyn-gwanadl (sef cymydog agosaf Tŷ Glas) yn un o flaenoriaid Capel Uchaf tua'r adeg hon.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.31