John Roberts, Lleiniau Hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Ychydig a wyddom am '''John Roberts''', un o feirdd yr [[Hendra]] (gwaelod plwyf [[Llanaelhaearn]]). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ychydig a wyddom am '''John Roberts''', un o feirdd [[Yr Hendra]] (gwaelod plwyf [[Llanaelhaearn]]). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen.  
Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:01, 12 Chwefror 2022

Ychydig a wyddom am John Roberts, un o feirdd Yr Hendra (gwaelod plwyf Llanaelhaearn). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen.

Ym 1832 aeth i Sasiwn Pwllheli lle pregethai John Elias o Fôn ag arddeliad arbennig ar 'Berson Crist'. Cafodd y bregeth ysgytwol hon effaith fawr ar John ac yn ystod yr awr ginio yn yr ysgol y diwrnod dilynol, eisteddodd ar ben camfa ger y capel a'r plant yn chwarae o'i amgylch. Cyfansoddodd y pennill hwn, seiliedig ar bregeth John Elias :


Mab uniganedig, un odiaeth,
'R un fath ei naturiaeth â'r Tad,
'R un oedran, 'r un anian, 'r un enw,
'R un ddelw - hardd loyw, 'r un wlad ;
'R un iaith, yr un waith, yr un ethol,
'R un 'wyllys i'w bobl gael byw,
'R un nerth, yr un gwerth, yr un gwyrthiau,
'R un geiriau, 'r un deddfau, 'r un Duw.


Ar ôl yr ysgol y diwrnod hwnnw, aeth John draw i hen fferm Gwynus ger Pistyll at hen wreigan dduwiol oedd yn byw yno, ac adrodd ei bennill newydd wrthi. Aeth y ddau i orfoleddu a moliannu wrth ganmol Crist. Yr hen wraig honno gofiodd y pennill.