Hendref (Llanaelhaearn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Yr Hendra)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hendref, neu Yr Hendref, yw hen enw rhan isaf plwyf Llanaelhaearn, lle ceir pentref Trefor heddiw. Ni sefydlwyd y pentref tan yr 1850au, a chyn hynny casgliad o ffermydd a thyddynnod oedd yn yr ardal. Mae llawer o drigolion Trefor a'r cylch yn cyfeirio at yr ardal fel "'Rhendra" hyd heddiw. Mae'r enw "Hendre" ei hun yn golygu fferm y gaeaf, lle cedwid y stoc dros y gaeaf. Yn yr haf, byddid yn gyrru'r anifeiliaid i dir uwch i bori tra tyfid cnydau a gwair ar y tir isel gorau yn yr hendre. Gellir gweld mor addas yw ardal Trefor fel man i sefydlu hendre oherwydd mae'r rhan fwyaf o blwyf Llanaelhaearn yn fwy mynyddig a/neu gorsiog.

Deillia'r enw hwn o fferm Tŷ Newydd, oedd gerllaw, ac a elwid hefyd yn "Hendre", a dros amser fe ddaeth yr enw "Pen Hendra" yn gyffredin i ddynodi'r groesffordd ar ganol pentref Trefor.