Evan Jones, Plas Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Un o brif adeiladwyr a chontractwyr yr ardal yn y 19g. oedd '''Evan Jones''' a fu'n byw ym Mhlas Dolydd yn nhreflan [[Dolydd]]. Bu'r busnes yn weithgar hyd | [[Delwedd:Evan Jones a'i deulu.jpg|bawd|de|400px|Evan Jones a'i deulu]] | ||
Un o brif adeiladwyr a chontractwyr yr ardal yn y 19g. oedd '''Evan Jones''' (1833-1926) a fu'n byw ym Mhlas Dolydd yn nhreflan [[Dolydd]]. Bu'r busnes yn weithgar hyd flynyddoedd cynnar yr 20g dan enw ''Evan Jones a'i fab''. Y mab dan sylw oedd John W. Jones, Glyn Carrog, Dolydd. Ganwyd Evan Jones yn [[Llanllyfni]] a bu'n byw ym [[Maen Coch]] am sbel, cyn symud i [[Plas Dolydd|Blas Dolydd]] | |||
Ym 1876, cafodd brydles gan [[Ystad Glynllifon]] ar ddarn o un o gaeau Tyddyn Dafydd yn [[Y Groeslon]], ar gornel sgwar y pentref gyferbyn â'r [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf]] er mwyn codi 8 o dai teras. Dyma rai o'r tai cyntaf i ffurfio canol y pentref modern.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6659</ref> Dair blynedd yn ddiweddarach cafodd brydles arall gan yr un ystad ar ddarn o dir fferm Plas Mawr, yr ochr arall i'r rheilffordd, ar gyfer codi dau dŷ arall.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6665</ref> Ym 1890 cafodd gyfle i werthu llefydd tân i [[Frederick George Wynn]], sgweier Glynllifon pan oedd yn codi estyniad mawr i'w blas.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/11018</ref> | |||
Roedd y busnes yn gyfrifol am godi sawl adeilad a chapel ar raddfa fwy, o Lŷn i Lerpwl, yn cynnwys (fe dybir) festri newydd i'r Capel Coch, Llanberis, ym 1907.<ref>Archifdy Caernarfon, XD49/1/106</ref> Cododd [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] ym 1879. Cododd festri i Fryn'rodyn a thŷ'r Gweinidog, Llys Myfyr, ym 1901. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am wal a mynedfa [[Mynwent Bryn'rodyn]] ar gyfer y Cyngor Plwyf. | |||
Gwnaed gwaith coed ar gyfer ei adeiladau ac ati yn ei weithdy yn Y Groeslon. Llosgwyd y gweithdy gwreiddiol, a oedd ar draws y groesfan reilffordd i'r pentref, ym 1879, ond fe'i hailgodwyd, yn adeilad mawr deulawr, gyda ffenestri mawr yn ei oleuo. Yn ddiweddarach (tua 1990) fe'i trowyd yn dŷ gan saer lleol, ac fe'i gelwir erbyn hyn yn ''Coed y Glyn''. | |||
Roedd yn un o bileri'r achos yng nghapel [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon|Bryn'rodyn]], yn flaenor ac yn ysgrifennydd yr eglwys.<ref>Seilir yr erthygl hon, oni nodir yn wahanol, ar ''Hanes Y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), tt.38-9.</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Adeiladwyr]] | [[Categori:Adeiladwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:33, 8 Chwefror 2022
Un o brif adeiladwyr a chontractwyr yr ardal yn y 19g. oedd Evan Jones (1833-1926) a fu'n byw ym Mhlas Dolydd yn nhreflan Dolydd. Bu'r busnes yn weithgar hyd flynyddoedd cynnar yr 20g dan enw Evan Jones a'i fab. Y mab dan sylw oedd John W. Jones, Glyn Carrog, Dolydd. Ganwyd Evan Jones yn Llanllyfni a bu'n byw ym Maen Coch am sbel, cyn symud i Blas Dolydd
Ym 1876, cafodd brydles gan Ystad Glynllifon ar ddarn o un o gaeau Tyddyn Dafydd yn Y Groeslon, ar gornel sgwar y pentref gyferbyn â'r orsaf er mwyn codi 8 o dai teras. Dyma rai o'r tai cyntaf i ffurfio canol y pentref modern.[1] Dair blynedd yn ddiweddarach cafodd brydles arall gan yr un ystad ar ddarn o dir fferm Plas Mawr, yr ochr arall i'r rheilffordd, ar gyfer codi dau dŷ arall.[2] Ym 1890 cafodd gyfle i werthu llefydd tân i Frederick George Wynn, sgweier Glynllifon pan oedd yn codi estyniad mawr i'w blas.[3]
Roedd y busnes yn gyfrifol am godi sawl adeilad a chapel ar raddfa fwy, o Lŷn i Lerpwl, yn cynnwys (fe dybir) festri newydd i'r Capel Coch, Llanberis, ym 1907.[4] Cododd Capel Bwlan (MC), Llandwrog ym 1879. Cododd festri i Fryn'rodyn a thŷ'r Gweinidog, Llys Myfyr, ym 1901. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am wal a mynedfa Mynwent Bryn'rodyn ar gyfer y Cyngor Plwyf.
Gwnaed gwaith coed ar gyfer ei adeiladau ac ati yn ei weithdy yn Y Groeslon. Llosgwyd y gweithdy gwreiddiol, a oedd ar draws y groesfan reilffordd i'r pentref, ym 1879, ond fe'i hailgodwyd, yn adeilad mawr deulawr, gyda ffenestri mawr yn ei oleuo. Yn ddiweddarach (tua 1990) fe'i trowyd yn dŷ gan saer lleol, ac fe'i gelwir erbyn hyn yn Coed y Glyn.
Roedd yn un o bileri'r achos yng nghapel Bryn'rodyn, yn flaenor ac yn ysgrifennydd yr eglwys.[5]