Caer Williamsburg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae [[Caer Williamsburg]] yn gaer sylweddol ac yn adeilad rhestredig Gradd II o fewn [[Parc Glynllifon]]. | Mae [[Caer Williamsburg]] yn gaer sylweddol ac yn adeilad rhestredig Gradd II o fewn [[Parc Glynllifon]]. | ||
Adeiladwyd Caer Williamsburg ym 1761 gan Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough|Syr Thomas Wynn]], [[Glynllifon]] a gwnaed ychwanegiadau iddi ym 1773-76. Roedd Thomas yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon, yn Gwnstabl Castell Caernarfon ac yn Arglwydd Raglaw'r sir. Roedd hefyd yn cymryd ei gyfrifoldebau dros drefnu Milisia'r Sir yn gwbl o ddifrif, gan sicrhau ei bod yn ymarfer yn gyson ac wedi'i harfogi'n briodol. Roedd Caer Williamsburg felly'n ganolbwynt i weithgaredd y milisia yn yr ardal a bwriedid iddi fod yn safle amddiffynnol o bwys pe bai ymosodiad o'r môr ar y rhan hon o Sir Gaernarfon. | Adeiladwyd Caer Williamsburg ym 1761 gan [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough|Syr Thomas Wynn]], [[Glynllifon]] a gwnaed ychwanegiadau iddi ym 1773-76. Roedd Thomas yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon, yn Gwnstabl Castell Caernarfon ac yn Arglwydd Raglaw'r sir. Roedd hefyd yn cymryd ei gyfrifoldebau dros drefnu Milisia'r Sir yn gwbl o ddifrif, gan sicrhau ei bod yn ymarfer yn gyson ac wedi'i harfogi'n briodol. Roedd Caer Williamsburg felly'n ganolbwynt i weithgaredd y milisia yn yr ardal a bwriedid iddi (fel [[Caer Belan]]ger [[Abermenai]]) fod yn safle amddiffynnol o bwys pe bai ymosodiad o'r môr ar y rhan hon o Sir Gaernarfon. Roedd y lle hwn hefyd yn fan cyfarfod i’r ‘Society or Garrison of Fort Williamsburg’ a’r ‘Holy Order of Sisterhood’, cymdeithasau milwrol a/neu saer-rhyddiaethol eu naws ar gyfer cyfeillion yr Arglwydd Newborough.<ref>Jones, E. Alfred ''The Society or Garrison of Fort Williamsburg'' Y Cymmrodor Cyf. 44. 1935.</ref> | ||
Mae'r gaer yn sgwâr i bob pwrpas o ran ei chynllun gyda bastiynau'n ymwthio allan yn y corneli ac wedi'u cysylltu â rhagfuriau. Mae ffos ddofn hefyd yn amgylchynu'r gaer. Mae'r giatws i'r gaer yn drawiadol iawn, ac yn debyg i bafiliwn gardd yn hytrach na rhan o safle milwrol. O fewn y gaer ceir nifer o adeiladau domestig a milwrol eu natur a'i phrif nodwedd yw'r tŵr uchel trillawr. Mae hwn wedi'i baentio'n olau ac yn amlwg o bell, a cheir golygfeydd trawiadol o'i ben draw i gyfeiriad [[Yr Eifl]] ar y chwith, am Gaernarfon a'r cylch i'r dde, a dros [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]] ac Ynys Môn yn syth ymlaen.<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/cy/site/26460/details/fort-williamsburgh-caer-williamsburg]; RCAHMW Caernarvonshire Inventory II (1960), 187-8</ref> Roedd yr Arfdy, adeilad mawr hirsgwar, yn cael ei ddefnyddio fel storfa archifau rhwng 1974 a 2000. | Mae'r gaer yn sgwâr i bob pwrpas o ran ei chynllun gyda bastiynau'n ymwthio allan yn y corneli ac wedi'u cysylltu â rhagfuriau. Mae ffos ddofn hefyd yn amgylchynu'r gaer. Mae'r giatws i'r gaer yn drawiadol iawn, ac yn debyg i bafiliwn gardd yn hytrach na rhan o safle milwrol. O fewn y gaer ceir nifer o adeiladau domestig a milwrol eu natur a'i phrif nodwedd yw'r tŵr uchel trillawr. Mae hwn wedi'i baentio'n olau ac yn amlwg o bell, a cheir golygfeydd trawiadol o'i ben draw i gyfeiriad [[Yr Eifl]] ar y chwith, am Gaernarfon a'r cylch i'r dde, a dros [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]] ac Ynys Môn yn syth ymlaen.<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/cy/site/26460/details/fort-williamsburgh-caer-williamsburg]; RCAHMW Caernarvonshire Inventory II (1960), 187-8</ref> Roedd yr Arfdy, adeilad mawr hirsgwar, yn cael ei ddefnyddio fel storfa archifau rhwng 1974 a 2000. | ||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Tua 2000, trosglwyddwyd y gaer o ofal y Cyngor Sir i Goleg Meirion Dwyfor ar eu hanogaeth hwy, gan rwystro mynediad i'r cyhoedd. Beth bynnag am hynny, oherwydd bod cyflwr y gaer wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw'r cyhoedd yn cael mynediad iddi ar hyn o bryd.<ref>Gwybodaeth gan gyn-archifydd lleol</ref> | Tua 2000, trosglwyddwyd y gaer o ofal y Cyngor Sir i Goleg Meirion Dwyfor ar eu hanogaeth hwy, gan rwystro mynediad i'r cyhoedd. Beth bynnag am hynny, oherwydd bod cyflwr y gaer wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw'r cyhoedd yn cael mynediad iddi ar hyn o bryd.<ref>Gwybodaeth gan gyn-archifydd lleol</ref> | ||
Ar 17 Mai 1834 cynhaliwyd gwledd fawr yng Nghaer Williamsburg i weithwyr yr ystad, a hynny ar achlysur dathlu priodas Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough. Un o'r rhai a wahoddwyd i'r wledd oedd Eben Fardd ac yn ei ddyddiadur ceir adroddiad pur fanwl ganddo am yr achlysur. Dyma ran ohono yn Saesneg gwreiddiol y bardd: | Ar 17 Mai 1834 cynhaliwyd gwledd fawr yng Nghaer Williamsburg i weithwyr yr ystad, a hynny ar achlysur dathlu priodas [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]]. Un o'r rhai a wahoddwyd i'r wledd oedd [[Eben Fardd]] ac yn ei ddyddiadur ceir adroddiad pur fanwl ganddo am yr achlysur. Dyma ran ohono yn Saesneg gwreiddiol y bardd: | ||
"We then went towards the fort, where the dinner was prepared. The fort is a round tower, not very high, defended by a battery of 5 or 6 mortars or cannons, with a subterranean passage leading eastward to the champaign where the officers' Messroom or Mess Marquee is situated, and in which about 40 sat down to dinner, among which I had the honour to sit down. The major part of the company, about 160, dined in the long tent and two other small tents pitched on the champaign field for that purpose and surmounted with Union flags." < | "We then went towards the fort, where the dinner was prepared. The fort is a round tower, not very high, defended by a battery of 5 or 6 mortars or cannons, with a subterranean passage leading eastward to the champaign where the officers' Messroom or Mess Marquee is situated, and in which about 40 sat down to dinner, among which I had the honour to sit down. The major part of the company, about 160, dined in the long tent and two other small tents pitched on the champaign field for that purpose and surmounted with Union flags." <ref> ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'', E.G. Millward (gol.), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.22.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | [[Categori:Safleoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Milwrol]] | [[Categori:Milwrol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:22, 1 Chwefror 2022
Mae Caer Williamsburg yn gaer sylweddol ac yn adeilad rhestredig Gradd II o fewn Parc Glynllifon.
Adeiladwyd Caer Williamsburg ym 1761 gan Syr Thomas Wynn, Glynllifon a gwnaed ychwanegiadau iddi ym 1773-76. Roedd Thomas yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon, yn Gwnstabl Castell Caernarfon ac yn Arglwydd Raglaw'r sir. Roedd hefyd yn cymryd ei gyfrifoldebau dros drefnu Milisia'r Sir yn gwbl o ddifrif, gan sicrhau ei bod yn ymarfer yn gyson ac wedi'i harfogi'n briodol. Roedd Caer Williamsburg felly'n ganolbwynt i weithgaredd y milisia yn yr ardal a bwriedid iddi (fel Caer Belanger Abermenai) fod yn safle amddiffynnol o bwys pe bai ymosodiad o'r môr ar y rhan hon o Sir Gaernarfon. Roedd y lle hwn hefyd yn fan cyfarfod i’r ‘Society or Garrison of Fort Williamsburg’ a’r ‘Holy Order of Sisterhood’, cymdeithasau milwrol a/neu saer-rhyddiaethol eu naws ar gyfer cyfeillion yr Arglwydd Newborough.[1]
Mae'r gaer yn sgwâr i bob pwrpas o ran ei chynllun gyda bastiynau'n ymwthio allan yn y corneli ac wedi'u cysylltu â rhagfuriau. Mae ffos ddofn hefyd yn amgylchynu'r gaer. Mae'r giatws i'r gaer yn drawiadol iawn, ac yn debyg i bafiliwn gardd yn hytrach na rhan o safle milwrol. O fewn y gaer ceir nifer o adeiladau domestig a milwrol eu natur a'i phrif nodwedd yw'r tŵr uchel trillawr. Mae hwn wedi'i baentio'n olau ac yn amlwg o bell, a cheir golygfeydd trawiadol o'i ben draw i gyfeiriad Yr Eifl ar y chwith, am Gaernarfon a'r cylch i'r dde, a dros Fae Caernarfon ac Ynys Môn yn syth ymlaen.[2] Roedd yr Arfdy, adeilad mawr hirsgwar, yn cael ei ddefnyddio fel storfa archifau rhwng 1974 a 2000.
Tua 2000, trosglwyddwyd y gaer o ofal y Cyngor Sir i Goleg Meirion Dwyfor ar eu hanogaeth hwy, gan rwystro mynediad i'r cyhoedd. Beth bynnag am hynny, oherwydd bod cyflwr y gaer wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw'r cyhoedd yn cael mynediad iddi ar hyn o bryd.[3]
Ar 17 Mai 1834 cynhaliwyd gwledd fawr yng Nghaer Williamsburg i weithwyr yr ystad, a hynny ar achlysur dathlu priodas Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough. Un o'r rhai a wahoddwyd i'r wledd oedd Eben Fardd ac yn ei ddyddiadur ceir adroddiad pur fanwl ganddo am yr achlysur. Dyma ran ohono yn Saesneg gwreiddiol y bardd:
"We then went towards the fort, where the dinner was prepared. The fort is a round tower, not very high, defended by a battery of 5 or 6 mortars or cannons, with a subterranean passage leading eastward to the champaign where the officers' Messroom or Mess Marquee is situated, and in which about 40 sat down to dinner, among which I had the honour to sit down. The major part of the company, about 160, dined in the long tent and two other small tents pitched on the champaign field for that purpose and surmounted with Union flags." [4]