Pen-y-gaer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Pen-y-gaer''' yw enw un o'r pum copa yng ngrŵp bryniau neu fynyddoedd isel Gurn Ddu. Mae hefyd yn enw ar y bryngaer sydd yn amgylchynu holl ben y...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Pen-y-gaer''' yw enw un o'r pum copa yng ngrŵp bryniau neu fynyddoedd isel [[Gurn Ddu]]. Mae hefyd yn enw ar y | '''Pen-y-gaer''' yw enw un o'r pum copa yng ngrŵp bryniau neu fynyddoedd isel [[Gurn Ddu]]. Mae hefyd yn enw ar y fryngaer sydd yn amgylchynu holl ben y bryn. Mae'n sefyll ar gyrion mwyaf dwyreiniol plwyf [[Llanaelhaearn]]. Ei uchder yw 1270 troedfedd neu 387 metr uwchben lefel y môr. Ar ei lethr ogleddol ceir olion hen waith manganîs.<ref>Map Ordnans</ref> | ||
Mae'r fryngaer yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn. Mae mur trwchus o gerrig, sydd hyd at 4.5 metr o led mewn mannau, yn amgylchynu pen y bryn gan amgáu o'i fewn tua dwsin o safleoedd cytiau crwn. Ceir grŵp arall o gytiau cynhanesyddol gerllaw, wrth droed y bryn ger fferm Tyddyn-mawr. Ceir caeau cynhanesyddol ger y cytiau ac, er nad oes modd profi eu bod yn gysylltiedig â'r gaer, mae'n debyg eu bod.<ref>Christopher Houlder, ''Wales: an archaeological guide'' (Faber & Faber, 1977), tud. 51; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.103</ref> | |||
Yn arwain at y fryngaer o gyfeiriad y gogledd-ddwyrain mae hen drac neu ffordd sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y fryngaer ei hun. Dyma yn ôl pob tebyg y lôn wreiddiol at y fryngaer a dyma un o ddim ond dwy ffordd o'r Oes Haearn yn Sir Gaernarfon (mae'r llall yn arwain at [[Tre'r Ceiri|Dre'r Ceiri]]). Mae'r olion yn cychwyn ar ochr y bryn nid nepell o ble mae lôn gefn [[Mynachdy Gwyn]] yn ymuno â'r lôn heibio [[Cwm]] a [[Hengwm]]. Mae'r lôn at Ben-y-gaer bron yn syth am hanner milltir ac, ar ôl diflannu am ychydig, mae'n gwyro ychydig at borth y gaer. Am ran o'r ffordd mae'r lôn yn rhedeg rhwng waliau isel a oedd yn ffurfio rhan o system o gaeau.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.lxv</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 9: | Llinell 13: | ||
[[Categori:Hanes]] | [[Categori:Hanes]] | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | ||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:31, 31 Ionawr 2022
Pen-y-gaer yw enw un o'r pum copa yng ngrŵp bryniau neu fynyddoedd isel Gurn Ddu. Mae hefyd yn enw ar y fryngaer sydd yn amgylchynu holl ben y bryn. Mae'n sefyll ar gyrion mwyaf dwyreiniol plwyf Llanaelhaearn. Ei uchder yw 1270 troedfedd neu 387 metr uwchben lefel y môr. Ar ei lethr ogleddol ceir olion hen waith manganîs.[1]
Mae'r fryngaer yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn. Mae mur trwchus o gerrig, sydd hyd at 4.5 metr o led mewn mannau, yn amgylchynu pen y bryn gan amgáu o'i fewn tua dwsin o safleoedd cytiau crwn. Ceir grŵp arall o gytiau cynhanesyddol gerllaw, wrth droed y bryn ger fferm Tyddyn-mawr. Ceir caeau cynhanesyddol ger y cytiau ac, er nad oes modd profi eu bod yn gysylltiedig â'r gaer, mae'n debyg eu bod.[2]
Yn arwain at y fryngaer o gyfeiriad y gogledd-ddwyrain mae hen drac neu ffordd sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y fryngaer ei hun. Dyma yn ôl pob tebyg y lôn wreiddiol at y fryngaer a dyma un o ddim ond dwy ffordd o'r Oes Haearn yn Sir Gaernarfon (mae'r llall yn arwain at Dre'r Ceiri). Mae'r olion yn cychwyn ar ochr y bryn nid nepell o ble mae lôn gefn Mynachdy Gwyn yn ymuno â'r lôn heibio Cwm a Hengwm. Mae'r lôn at Ben-y-gaer bron yn syth am hanner milltir ac, ar ôl diflannu am ychydig, mae'n gwyro ychydig at borth y gaer. Am ran o'r ffordd mae'r lôn yn rhedeg rhwng waliau isel a oedd yn ffurfio rhan o system o gaeau.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma