George Twisleton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Swyddog ym myddin y senedd oedd George Twistleon (1618-1667). Ganwyd yn Barley Hall, Sir Efrog i John Twistleton. Buodd yn gwasanaethu o dan y Cadfridog M...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Swyddog ym myddin y senedd oedd George Twistleon (1618-1667). Ganwyd yn Barley Hall, Sir Efrog i John Twistleton. Buodd yn gwasanaethu o dan y Cadfridog Mytton, a cynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill Castell Dinbych. Roedd yn lywydd ar y Castell yn 1647. Priododd â Mari Glyn, merch William Glyn, Y Lleuar a disgynnydd i William Glynn y Sarsiant. Roedd yn nodedig am ymgyrchu yn erbyn cefnogwyr Siarl frenin, a bu yn ymladd ar y Dalar Hir yn Llandegai ar 5 Mehefin 1648. Roedd yn aelod o’r Uchel Lys, ac gwnaed ef yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn 1659. Ymsefydlodd yn y Lleuar, a bu farw ar 12 Mai 1667. Claddwyd ef yn eglwys Clynnog, lle gwelir ei fedd hyd heddiw.
Swyddog ym myddin y Senedd oedd '''George Twisleton''' (1618 – 12 Mai 1667).
 
Fe'i ganed yn Barley Hall, Sir Efrog yn fab i John Twisleton. Gwasanaethodd o dan y Cadfridog Mytton, a chynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill Castell Dinbych. Roedd yn llywydd ar y Castell yn 1647. Priododd â Mari Glyn, merch William Glyn, [[Lleuar Fawr]] a disgynnydd i [[William Glynn (Y Sarsiant)]]. Bu'n amlwg mewn sawl ymgyrch yng Ngwynedd yn erbyn lluoedd y brenin Siarl ac ef oedd yn arwain milwyr y Senedd yn yr ymladdfa  ar y Dalar Hir ger Llandýgai ar 5 Mehefin 1648. Ei wrthwynebydd yn y frwydr oedd y brenhinwr Syr John Owen o'r Clenennau yn Eifionydd. Lladdwyd nifer ar faes y frwydr a chlwyfwyd John Owen yn ddrwg a'i ddal yn garcharor. Daeth Twistleton yn aelod o’r Uchel Lys, a gwnaed ef yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn Senedd 1654, 1656 a 1659. Ar ôl yr Adferiad ymsefydlodd yn y Lleuar ac nid ymddengys iddo gael ei erlid o gwbl er ei deyrngarwch i achos y Senedd.  Bu farw ar 12 Mai 1667.<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [http://yba.llgc.org.uk/en/s-TWIS-GEO-1618.html]</ref> Claddwyd ef yn eglwys [[Clynnog Fawr]], lle gwelir ei fedd hyd heddiw.
 
Weithiau sillebir y cyfenw'n ''Twistleton''.
 
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Milwrol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:58, 31 Ionawr 2022

Swyddog ym myddin y Senedd oedd George Twisleton (1618 – 12 Mai 1667).

Fe'i ganed yn Barley Hall, Sir Efrog yn fab i John Twisleton. Gwasanaethodd o dan y Cadfridog Mytton, a chynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill Castell Dinbych. Roedd yn llywydd ar y Castell yn 1647. Priododd â Mari Glyn, merch William Glyn, Lleuar Fawr a disgynnydd i William Glynn (Y Sarsiant). Bu'n amlwg mewn sawl ymgyrch yng Ngwynedd yn erbyn lluoedd y brenin Siarl ac ef oedd yn arwain milwyr y Senedd yn yr ymladdfa ar y Dalar Hir ger Llandýgai ar 5 Mehefin 1648. Ei wrthwynebydd yn y frwydr oedd y brenhinwr Syr John Owen o'r Clenennau yn Eifionydd. Lladdwyd nifer ar faes y frwydr a chlwyfwyd John Owen yn ddrwg a'i ddal yn garcharor. Daeth Twistleton yn aelod o’r Uchel Lys, a gwnaed ef yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn Senedd 1654, 1656 a 1659. Ar ôl yr Adferiad ymsefydlodd yn y Lleuar ac nid ymddengys iddo gael ei erlid o gwbl er ei deyrngarwch i achos y Senedd. Bu farw ar 12 Mai 1667.[1] Claddwyd ef yn eglwys Clynnog Fawr, lle gwelir ei fedd hyd heddiw.

Weithiau sillebir y cyfenw'n Twistleton.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein, [1]