George Twisleton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Swyddog ym myddin y | Swyddog ym myddin y Senedd oedd '''George Twisleton''' (1618 – 12 Mai 1667). | ||
Fe'i ganed yn Barley Hall, Sir Efrog yn fab i John | Fe'i ganed yn Barley Hall, Sir Efrog yn fab i John Twisleton. Gwasanaethodd o dan y Cadfridog Mytton, a chynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill Castell Dinbych. Roedd yn llywydd ar y Castell yn 1647. Priododd â Mari Glyn, merch William Glyn, [[Lleuar Fawr]] a disgynnydd i [[William Glynn (Y Sarsiant)]]. Bu'n amlwg mewn sawl ymgyrch yng Ngwynedd yn erbyn lluoedd y brenin Siarl ac ef oedd yn arwain milwyr y Senedd yn yr ymladdfa ar y Dalar Hir ger Llandýgai ar 5 Mehefin 1648. Ei wrthwynebydd yn y frwydr oedd y brenhinwr Syr John Owen o'r Clenennau yn Eifionydd. Lladdwyd nifer ar faes y frwydr a chlwyfwyd John Owen yn ddrwg a'i ddal yn garcharor. Daeth Twistleton yn aelod o’r Uchel Lys, a gwnaed ef yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn Senedd 1654, 1656 a 1659. Ar ôl yr Adferiad ymsefydlodd yn y Lleuar ac nid ymddengys iddo gael ei erlid o gwbl er ei deyrngarwch i achos y Senedd. Bu farw ar 12 Mai 1667.<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [http://yba.llgc.org.uk/en/s-TWIS-GEO-1618.html]</ref> Claddwyd ef yn eglwys [[Clynnog Fawr]], lle gwelir ei fedd hyd heddiw. | ||
Weithiau sillebir y cyfenw'n ''Twistleton''. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Milwrol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:58, 31 Ionawr 2022
Swyddog ym myddin y Senedd oedd George Twisleton (1618 – 12 Mai 1667).
Fe'i ganed yn Barley Hall, Sir Efrog yn fab i John Twisleton. Gwasanaethodd o dan y Cadfridog Mytton, a chynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill Castell Dinbych. Roedd yn llywydd ar y Castell yn 1647. Priododd â Mari Glyn, merch William Glyn, Lleuar Fawr a disgynnydd i William Glynn (Y Sarsiant). Bu'n amlwg mewn sawl ymgyrch yng Ngwynedd yn erbyn lluoedd y brenin Siarl ac ef oedd yn arwain milwyr y Senedd yn yr ymladdfa ar y Dalar Hir ger Llandýgai ar 5 Mehefin 1648. Ei wrthwynebydd yn y frwydr oedd y brenhinwr Syr John Owen o'r Clenennau yn Eifionydd. Lladdwyd nifer ar faes y frwydr a chlwyfwyd John Owen yn ddrwg a'i ddal yn garcharor. Daeth Twistleton yn aelod o’r Uchel Lys, a gwnaed ef yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn Senedd 1654, 1656 a 1659. Ar ôl yr Adferiad ymsefydlodd yn y Lleuar ac nid ymddengys iddo gael ei erlid o gwbl er ei deyrngarwch i achos y Senedd. Bu farw ar 12 Mai 1667.[1] Claddwyd ef yn eglwys Clynnog Fawr, lle gwelir ei fedd hyd heddiw.
Weithiau sillebir y cyfenw'n Twistleton.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma