New Inn, Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd y '''New Inn''' yn un o ddwy dafarn [[Clynnog Fawr]]. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, yn union i'r de o fynwent yr eglwys. Erbyn heddiw fe'i gelwir yn "Bod Fasarn". Mae hen ddresel a fu ym Mod Fasarn wedi iddo beidio â bod yn dafarn i'w gweld yn yr Ysgoldy, [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]].
Roedd y '''New Inn''' yn un o dafarnau pentref [[Clynnog Fawr]]. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, yn union i'r de o fynwent yr eglwys. Erbyn heddiw fe'i gelwir yn "Bod Fasarn". Mae hen ddresel a fu ym Mod Fasarn wedi iddo beidio â bod yn dafarn i'w gweld yn yr Ysgoldy, [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]].


Nid oes sicrwydd ers pa oes oedd y New Inn wedi bod yn dafarn, ond mae hi'n cael ei henwi mewn gweithred dyddiedig 1769, pan oedd hi'n cael ei chyfeirio ati fel "New Inn alias Tŷ Cerrig". Ar y pryd roedd yn gysylltiedig â thiroedd eraill yn cynnwys [[Bachwen]], [[Graeanog]], [[Melin Bryn-y-gro]], [[Melin Faesog]], Coch-y-big a Henbont yn y plwyf, a llawer o dir yn Sir Fôn.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510</ref>  
Nid oes sicrwydd ers pa oes oedd y New Inn wedi bod yn dafarn, ond mae hi'n cael ei henwi mewn gweithred dyddiedig 1769, pan gyfeiriwyd ati fel "New Inn alias Tŷ Cerrig". Ar y pryd roedd yn gysylltiedig â thiroedd eraill yn cynnwys [[Bachwen]], [[Graeanog]], [[Melin Bryn-y-gro]], [[Melin Faesog]], [[Coch-y-Big]] a Henbant yn y plwyf, a llawer o dir yn Sir Fôn.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510</ref>  


Ceir cofnod ym mis Medi 1824 ymysg bondiau yn amodrwymo tafarnwyr Sir Gaernarfon mai Margaret Thomas oedd y sawl a gadwai'r dafarn yr adeg honno.<ref>Archifdy Caernarfon, XQA/L/1/848</ref>
Ceir cofnod ym mis Medi 1824, ymysg bondiau yn amodrwymo tafarnwyr Sir Gaernarfon, yn tystio i'r ffaith mai Margaret Thomas oedd y sawl a gadwai'r dafarn yr adeg honno.<ref>Archifdy Caernarfon, XQA/L/1/848</ref>


Erbyn 1832 os nad cynt, roedd y dafarn yn gysylltiedig yn benodol â Bachwen, pan werthwyd y ddau eiddo gan Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley o Faron Hill, Biwmares i Griffith Jones o Blas Tan-yr-allt.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6324</ref>
Erbyn 1832, os nad cynt, roedd y dafarn yn gysylltiedig yn benodol â Bachwen, pan werthwyd y ddau eiddo gan Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley o Baron Hill, Biwmares i Griffith Jones o Blas Tan-yr-allt.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6324</ref>


Adeg creu'r mapiau degwm tua 1840, roedd Bachwen a'r New Inn yn cael eu rhestru fel eiddo Griffith Jones, yswain, a nodwyd mai Robert John Thomas oedd tenant y New Inn. Ynghyd â'r dafarn ei hun yr oedd 4 cae bach yn ymestyn dros tua 4 acer o dir, a'r rheiny'n borfa, dol a thir âr.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer Clynnog Fawr</ref>
Adeg creu'r mapiau degwm tua 1840, roedd Bachwen a'r New Inn yn cael eu rhestru fel eiddo i Griffith Jones, yswain, a nodwyd mai Robert John Thomas oedd tenant y New Inn. Ynghyd â'r dafarn ei hun yr oedd 4 cae bach yn ymestyn dros tua 4 acer o dir, a'r rheiny'n borfa, dôl a thir âr.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer Clynnog Fawr</ref>


Erbyn 1895, roedd y dafarn yn eiddo i A.H. Acland [[Syr Arthur Acland]]). Mae'n bur debyg iddo ei phrynu ym 1880. Ysgrifenodd Acland at [[Frederick G. Wynn]], [[Glynllifon]], ym 1895 i'w hysbysu fel cyfaill na fyddai'n edrych i ail drwyddedu'r dafarn gan fod [[Gwesty'r Beuno]], eiddo i Wynn, yn dafarn barchus a na fynnai weld cystadleuaeth. Roedd John Roberts, medai Acland, yn ddyn o gymeriad gwael ac na hoffai ei weld yn codi tafarn newydd ar dir Maesglas, Clynnog, fel y bwriedid, ac felly byddai'n gwrthwynebu hynny.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/21352</ref> Yn bur debyg, fel gwleidydd Rhyddfrydol ar adeg mawr dirwest yng Nghymru, roedd yn ddigon hapus i weld trwydded yn dod i ben hyd yn oed ar ei eiddo ei hun.
Erbyn 1895, roedd y dafarn yn eiddo i [[Syr Arthur Acland|A.H. Acland]]. Mae'n bur debyg iddo ei phrynu ym 1880. Ysgrifennodd Acland at [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]], [[Glynllifon]], ym 1895 i'w hysbysu fel cyfaill fod ei denant John Roberts, landlord y New Inn, am adael ac na fyddai'n edrych i ail-drwyddedu'r dafarn gan fod [[Gwesty'r Beuno]], eiddo i Wynn, yn dafarn barchus ac na fynnai weld cystadleuaeth. Roedd John Roberts, meddai Acland, yn ddyn o gymeriad gwael ac na hoffai ei weld yn codi tafarn newydd ar dir Maesglas, Clynnog, fel y bwriedid, ac felly byddai'n gwrthwynebu hynny.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/21352</ref> Yn bur debyg, fel gwleidydd Rhyddfrydol ar adeg pan oedd dirwest mewn bri yng Nghymru, roedd yn ddigon hapus i weld trwydded yn dod i ben hyd yn oed ar ei eiddo ei hun.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


[[Categeori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarndai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:04, 30 Ionawr 2022

Roedd y New Inn yn un o dafarnau pentref Clynnog Fawr. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, yn union i'r de o fynwent yr eglwys. Erbyn heddiw fe'i gelwir yn "Bod Fasarn". Mae hen ddresel a fu ym Mod Fasarn wedi iddo beidio â bod yn dafarn i'w gweld yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Nid oes sicrwydd ers pa oes oedd y New Inn wedi bod yn dafarn, ond mae hi'n cael ei henwi mewn gweithred dyddiedig 1769, pan gyfeiriwyd ati fel "New Inn alias Tŷ Cerrig". Ar y pryd roedd yn gysylltiedig â thiroedd eraill yn cynnwys Bachwen, Graeanog, Melin Bryn-y-gro, Melin Faesog, Coch-y-Big a Henbant yn y plwyf, a llawer o dir yn Sir Fôn.[1]

Ceir cofnod ym mis Medi 1824, ymysg bondiau yn amodrwymo tafarnwyr Sir Gaernarfon, yn tystio i'r ffaith mai Margaret Thomas oedd y sawl a gadwai'r dafarn yr adeg honno.[2]

Erbyn 1832, os nad cynt, roedd y dafarn yn gysylltiedig yn benodol â Bachwen, pan werthwyd y ddau eiddo gan Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley o Baron Hill, Biwmares i Griffith Jones o Blas Tan-yr-allt.[3]

Adeg creu'r mapiau degwm tua 1840, roedd Bachwen a'r New Inn yn cael eu rhestru fel eiddo i Griffith Jones, yswain, a nodwyd mai Robert John Thomas oedd tenant y New Inn. Ynghyd â'r dafarn ei hun yr oedd 4 cae bach yn ymestyn dros tua 4 acer o dir, a'r rheiny'n borfa, dôl a thir âr.[4]

Erbyn 1895, roedd y dafarn yn eiddo i A.H. Acland. Mae'n bur debyg iddo ei phrynu ym 1880. Ysgrifennodd Acland at F.G. Wynn, Glynllifon, ym 1895 i'w hysbysu fel cyfaill fod ei denant John Roberts, landlord y New Inn, am adael ac na fyddai'n edrych i ail-drwyddedu'r dafarn gan fod Gwesty'r Beuno, eiddo i Wynn, yn dafarn barchus ac na fynnai weld cystadleuaeth. Roedd John Roberts, meddai Acland, yn ddyn o gymeriad gwael ac na hoffai ei weld yn codi tafarn newydd ar dir Maesglas, Clynnog, fel y bwriedid, ac felly byddai'n gwrthwynebu hynny.[5] Yn bur debyg, fel gwleidydd Rhyddfrydol ar adeg pan oedd dirwest mewn bri yng Nghymru, roedd yn ddigon hapus i weld trwydded yn dod i ben hyd yn oed ar ei eiddo ei hun.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510
  2. Archifdy Caernarfon, XQA/L/1/848
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/6324
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer Clynnog Fawr
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/21352