Plas Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif '''Plas Llanwnda''' ar y lôn rhwng [[Dinas]], [[Llanwnda]] a [[Felinwnda]]. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel | Saif '''Plas Llanwnda''' ar y lôn rhwng [[Dinas]], [[Llanwnda]] a [[Felinwnda]]. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel rheol fe gyfeirir ato fel "Plas", ond bu'n un o blastai pwysicaf y plwyf yn y 16-18g. Yn wreiddiol roedd yn perthyn i deulu Wynn, [[Pengwern]], ond cafwyd ffrae fawr rhwng dwy gangen y teulu ar ddechrau'r 17g, sef rhwng mab hynaf Huw Gwyn, Huw Wynn, a disgynyddion Owen Meredydd (a berthynai i deulu [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]). Y canlyniad oedd rhannu'r ystâd rhwng y ddwy gangen, gydag un ochr yn cael plasty'r Pengwern a'r llall, Plas Llanwnda. | ||
Ni ddylid cymysgu y Plas Llanwnda hwn efo Plas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon (a oedd yn rhan o adran Addysg y Cyngor Sir | Beth bynnag am hynny, mae'n amlwg fod Plas Llanwnda yn ei amser wedi bod yn blasty o bwys. Ym marwnad Rhisiart Cynwal i Huw Gwyn (tua 1600) mae'n nodi gwychder plastai Huw Gwyn yn Llanarmon (Coed Cae Mawr) a Llanwnda<ref>W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.4, 1942-3), tt.22-3 </ref>: | ||
Cadwai blas crair urddas cred | |||
Coed Cae Mawr, cu ymwared; | |||
A phlas arall diball da | |||
Llawn iawnder yn Llanwnda. | |||
Fe briododd yr aeres olaf, Ann Wynn, â'r Cadben Richard Garnons, [[Pant Du]], tad y [[Richard Garnons]] a fu'n ymhel â'r diwydiant llechi ac a ddaeth wedyn yn berchennog y plas a byw yno.<ref>J.E. Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.240</ref> | |||
Ni ddylid cymysgu y Plas Llanwnda hwn efo Plas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon (a oedd yn rhan o adran Addysg y Cyngor Sir hyd yn ddiweddar). Hwn oedd y tŷ tref a godwyd gan y Wynniaid pan oedd hi'n ffasiynol ac yn gyfleus i foneddigion gael annedd ym mhrif dref y sir.<ref>W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.4, 1942-3), t.27</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:10, 28 Ionawr 2022
Saif Plas Llanwnda ar y lôn rhwng Dinas, Llanwnda a Felinwnda. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel rheol fe gyfeirir ato fel "Plas", ond bu'n un o blastai pwysicaf y plwyf yn y 16-18g. Yn wreiddiol roedd yn perthyn i deulu Wynn, Pengwern, ond cafwyd ffrae fawr rhwng dwy gangen y teulu ar ddechrau'r 17g, sef rhwng mab hynaf Huw Gwyn, Huw Wynn, a disgynyddion Owen Meredydd (a berthynai i deulu Mynachdy Gwyn, Clynnog Fawr). Y canlyniad oedd rhannu'r ystâd rhwng y ddwy gangen, gydag un ochr yn cael plasty'r Pengwern a'r llall, Plas Llanwnda.
Beth bynnag am hynny, mae'n amlwg fod Plas Llanwnda yn ei amser wedi bod yn blasty o bwys. Ym marwnad Rhisiart Cynwal i Huw Gwyn (tua 1600) mae'n nodi gwychder plastai Huw Gwyn yn Llanarmon (Coed Cae Mawr) a Llanwnda[1]:
Cadwai blas crair urddas cred Coed Cae Mawr, cu ymwared; A phlas arall diball da Llawn iawnder yn Llanwnda.
Fe briododd yr aeres olaf, Ann Wynn, â'r Cadben Richard Garnons, Pant Du, tad y Richard Garnons a fu'n ymhel â'r diwydiant llechi ac a ddaeth wedyn yn berchennog y plas a byw yno.[2]
Ni ddylid cymysgu y Plas Llanwnda hwn efo Plas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon (a oedd yn rhan o adran Addysg y Cyngor Sir hyd yn ddiweddar). Hwn oedd y tŷ tref a godwyd gan y Wynniaid pan oedd hi'n ffasiynol ac yn gyfleus i foneddigion gael annedd ym mhrif dref y sir.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.4, 1942-3), tt.22-3
- ↑ J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.240
- ↑ W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.4, 1942-3), t.27