Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy''' | Sefydlwyd '''Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy''' o ganlyniad i Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid 1865<ref> Mae copi o'r ddeddf ar gael i'w ddarllen yma:[https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1865/121/pdfs/ukpga_18650121_en.pdf]</ref> i reoli pysgota am eogiaid rhwng [[Trwyn-y-tâl]] ger [[Trefor]] a Phwynt Garth, Bangor, ynghyd ag aberoedd ac afonydd Seiont, [[Afon Gwyrfai|Gwyrfai]] a [[Afon Llyfnwy|Llyfnwy]] a'u holl flaen-nentydd a llednentydd. Roedd yr ardal i gynnwys hanner Afon Menai ar ochr Sir Gaernarfon o [[Abermenai]] ymlaen. Wrth i'r ardal gael ei phennu, lleisiwyd pryderon gan dirfeddianwyr fod y cynllun yn cynnwys llawer o lednentydd a oedd â hawliau pysgota cwbl breifat arnynt, ac y byddai hynny'n achosi trafferth mawr i fwrdd y bysgodfa. Serch hynny, a Spencer Bulkeley, 3ydd [[Arglwydd Newborough]] yn gadeirydd y Llys Chwarter a oedd â'r cyfrifoldeb o weithredu'r ddeddf a sefydlu'r bwrdd, fe basiwyd i dderbyn yr argymhelliad yn llawn. | ||
Gosodwyd tymor atal pysgota eogiaid gyda rhwydi a gwialenni pysgota gan y | Gosodwyd tymor atal pysgota eogiaid gyda rhwydi a gwialenni pysgota gan y bysgodfa rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill bob blwyddyn. | ||
Ym 1875, er gwaethaf pryderon y gallai ardal ehangach fod yn anodd i'w gweinyddu o ran pysgota eogiaid, ehangwyd ardal y bysgodfa i gynnwys arfordir gogledd-orllewinol Afon Menai ar ei hyd ac arfordir Ynys Môn hyd at Falltraeth.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansS/9</ref> | Ym 1875, er gwaethaf pryderon y gallai ardal ehangach fod yn anodd i'w gweinyddu o ran pysgota eogiaid, ehangwyd ardal y bysgodfa i gynnwys arfordir gogledd-orllewinol Afon Menai ar ei hyd ac arfordir Ynys Môn hyd at Falltraeth.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansS/9</ref> | ||
Ym 1889, erlynodd Bwrdd Cadwraethwyr Ardal Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy dri o ddynion, D.Roberts, J.Thomas ac O.W.Williams, a honnai fod ganddynt hawl i bysgota ar [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle]] gan fod y llyn yn dir comin, ac felly y tu allan i diriogaeth y Bwrdd. Cawsant eu hamddiffyn yn Llys Ynadon Caernarfon gan [[David Lloyd George]].<ref>Archifdy Gwladol, LG/A/6/3/4; ''North Wales Observer'', Mai 1889.</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 11: | Llinell 13: | ||
[[Categori:Pysgota]] | [[Categori:Pysgota]] | ||
[[Categori:Helwriaeth]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:03, 17 Ionawr 2022
Sefydlwyd Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy o ganlyniad i Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid 1865[1] i reoli pysgota am eogiaid rhwng Trwyn-y-tâl ger Trefor a Phwynt Garth, Bangor, ynghyd ag aberoedd ac afonydd Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy a'u holl flaen-nentydd a llednentydd. Roedd yr ardal i gynnwys hanner Afon Menai ar ochr Sir Gaernarfon o Abermenai ymlaen. Wrth i'r ardal gael ei phennu, lleisiwyd pryderon gan dirfeddianwyr fod y cynllun yn cynnwys llawer o lednentydd a oedd â hawliau pysgota cwbl breifat arnynt, ac y byddai hynny'n achosi trafferth mawr i fwrdd y bysgodfa. Serch hynny, a Spencer Bulkeley, 3ydd Arglwydd Newborough yn gadeirydd y Llys Chwarter a oedd â'r cyfrifoldeb o weithredu'r ddeddf a sefydlu'r bwrdd, fe basiwyd i dderbyn yr argymhelliad yn llawn.
Gosodwyd tymor atal pysgota eogiaid gyda rhwydi a gwialenni pysgota gan y bysgodfa rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill bob blwyddyn.
Ym 1875, er gwaethaf pryderon y gallai ardal ehangach fod yn anodd i'w gweinyddu o ran pysgota eogiaid, ehangwyd ardal y bysgodfa i gynnwys arfordir gogledd-orllewinol Afon Menai ar ei hyd ac arfordir Ynys Môn hyd at Falltraeth.[2]
Ym 1889, erlynodd Bwrdd Cadwraethwyr Ardal Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy dri o ddynion, D.Roberts, J.Thomas ac O.W.Williams, a honnai fod ganddynt hawl i bysgota ar Lyn Nantlle gan fod y llyn yn dir comin, ac felly y tu allan i diriogaeth y Bwrdd. Cawsant eu hamddiffyn yn Llys Ynadon Caernarfon gan David Lloyd George.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma