Bae Caernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Bae Caernarfon''' yw enw'r darn o fôr sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac arfordir cwmwd [[Uwchgwyrfai]], sef rhwng Ynys Lawd a Phortinlläen. Mae'n ffurfio darn triongl o fôr, ac yn ei gornel mae [[Abermenai]], lle mae Afon Menai yn ymarllwys i'r môr. Mae'r "bar", sef y banciau tywod wrth geg yr afon yn gorwedd beth pellter o Abermenai, fodd bynnag, rhwng [[Dinas Dinlle]] ac [[Ynys Llanddwyn]]. Mae Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon wedi bod yn gyfrifol yn unol â deddf seneddol am gynnal y bwâu rhwng Pwll Ceris yn Afon Menai a Bar Caernarfon yn y bae ers 1794, ac maent yn dal i weithredu'r un swyddogaeth.
'''Bae Caernarfon''' yw enw'r darn o fôr sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac arfordir cwmwd [[Uwchgwyrfai]], sef rhwng Ynys Lawd a Phortinlläen. Mae'n ffurfio darn triongl o fôr, ac yn ei gornel mae [[Abermenai]], lle mae Afon Menai yn ymarllwys i'r môr. Mae'r "bar", sef y banciau tywod wrth geg yr afon, yn gorwedd beth pellter o Abermenai, fodd bynnag, rhwng [[Dinas Dinlle]] ac Ynys Llanddwyn. Mae Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon wedi bod yn gyfrifol, yn unol â deddf seneddol, am gynnal y bwâu rhwng Pwll Ceris yn Afon Menai a Bar Caernarfon yn y bae ers 1794, ac maent yn dal i weithredu'r un swyddogaeth.


Nid oes fawr o longau yn ymweld â'r darn hwn o fôr bellach, heblaw am rai sy'n cysgodi rhag y stormydd gwaethaf pan chwŷth y gwynt o'r dwyrain. Gwelir nifer o gychod pleser a chychod bach pysgota yno, fodd bynnag, gan fod Portinlläen, [[Trefor]], [[Belan]] a Chaernarfon yn cynnig angorfeydd a glanfeydd. Hyd at y 19g, fodd bynnag, pan oedd llongau hwylio a gariai nwyddau'n llai o lawer, fe arferid glanio ar nifer o draethau Uwchgwyrfai megis [[Aberdesach]] i ollwng y cargo - glo yn bennaf - trwy hwylio i mewn ar y llanw, aros i'r traeth sychu, dadlwytho, ac wedyn hwylio i ffwrdd ar y llanw nesaf.  
Nid oes fawr o longau yn ymweld â'r darn hwn o fôr bellach, heblaw am rai sy'n cysgodi rhag y stormydd gwaethaf pan chwyth y gwynt o'r dwyrain. Gwelir nifer o gychod pleser a chychod bach pysgota yno, fodd bynnag, gan fod Portinlläen, [[Trefor]], [[Belan]] a Chaernarfon yn cynnig angorfeydd a glanfeydd. Hyd at y 19g, fodd bynnag, pan oedd llongau hwylio a gariai nwyddau'n llai o lawer, fe arferid glanio ar nifer o draethau Uwchgwyrfai megis [[Aberdesach]] i ollwng y cargo - glo yn bennaf - trwy hwylio i mewn ar y llanw, aros i'r traeth sychu, dadlwytho, ac wedyn hwylio i ffwrdd ar y llanw nesaf.  


Roedd cynlluniau yn y 19g i greu glanfa yn Ninas Dinlle i dderbyn ac allforio cynnyrch chwareli llechi [[Dyffryn Nantlle]], ond yn y diwedd, penderfynwyd cludo'r cerrig ar hyd rheilffordd i borthladd Caernarfon. Yr unig allforion sylweddol o Fae Caernarfon o fewn cof felly oedd y llwythi o ithfaen a gludwyd o Drefor ac ambell i lanfa ger [[Gurn Goch]].
Roedd cynlluniau yn y 19g i greu glanfa yn Ninas Dinlle i dderbyn ac allforio cynnyrch chwareli llechi [[Dyffryn Nantlle]] ond, yn y diwedd, penderfynwyd cludo'r cerrig ar hyd rheilffordd i borthladd Caernarfon. Yr unig allforion sylweddol o Fae Caernarfon o fewn cof felly oedd y llwythi o ithfaen a gludwyd o Drefor ac ambell i lanfa ger [[Gurn Goch]].


Dywedir fod pysgota da i'w cael yn y bae, er nad oes ond ambell i bysgotwr masnachol wrthi bellach. Mae'r dŵr yn enwog am fecryll a chathod môr, ac mae perchnogion cychod pysgota er pleser yn honni bod llawer o ledod, pengyrnod, lledod tywod neu dabs,torbytiaid, morgwn gleision, picydiaid a chŵn môr yno i'w dal.<ref>Gwefan BadBoyz [[https://angleseycharterfishing.co.uk/caernarfon-bay-fishing/]] adalwyd 11.04.2018</ref> Yn y gorffennol, bu'r bae'n enwog am benwaig a helltyd ac a werthid yn Nefyn ymysg lleoedd eraill.
Dywedir fod pysgota da i'w cael yn y bae, er nad oes ond ambell i bysgotwr masnachol wrthi bellach. Mae'r dŵr yn enwog am fecryll a chathod môr, ac mae perchnogion cychod pysgota er pleser yn honni bod llawer o ledod, pengyrnod, lledod tywod neu dabs, torbytiaid, morgwn gleision, picydiaid a chŵn môr yno i'w dal.<ref>Gwefan BadBoyz [https://angleseycharterfishing.co.uk/caernarfon-bay-fishing/], adalwyd 11.04.2018</ref> Yn y gorffennol, bu'r bae'n enwog am benwaig a helltid ac a werthid yn Nefyn ymysg lleoedd eraill.


Bu nifer o longddrylliadau ar y banciau tywod ac ar y traethau.
Bu nifer o longddrylliadau ar y banciau tywod ac ar y traethau.


Tua 1880 codwyd gwesty yn Ninas Dinlle a'i galw'n "[[Gwesty'r Caernarfon Bay]]".<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.46</ref>
Tua 1880 codwyd gwesty yn Ninas Dinlle a'i alw'n "[[Gwesty'r Caernarfon Bay]]".<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.46</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:53, 17 Ionawr 2022

Bae Caernarfon yw enw'r darn o fôr sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac arfordir cwmwd Uwchgwyrfai, sef rhwng Ynys Lawd a Phortinlläen. Mae'n ffurfio darn triongl o fôr, ac yn ei gornel mae Abermenai, lle mae Afon Menai yn ymarllwys i'r môr. Mae'r "bar", sef y banciau tywod wrth geg yr afon, yn gorwedd beth pellter o Abermenai, fodd bynnag, rhwng Dinas Dinlle ac Ynys Llanddwyn. Mae Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon wedi bod yn gyfrifol, yn unol â deddf seneddol, am gynnal y bwâu rhwng Pwll Ceris yn Afon Menai a Bar Caernarfon yn y bae ers 1794, ac maent yn dal i weithredu'r un swyddogaeth.

Nid oes fawr o longau yn ymweld â'r darn hwn o fôr bellach, heblaw am rai sy'n cysgodi rhag y stormydd gwaethaf pan chwyth y gwynt o'r dwyrain. Gwelir nifer o gychod pleser a chychod bach pysgota yno, fodd bynnag, gan fod Portinlläen, Trefor, Belan a Chaernarfon yn cynnig angorfeydd a glanfeydd. Hyd at y 19g, fodd bynnag, pan oedd llongau hwylio a gariai nwyddau'n llai o lawer, fe arferid glanio ar nifer o draethau Uwchgwyrfai megis Aberdesach i ollwng y cargo - glo yn bennaf - trwy hwylio i mewn ar y llanw, aros i'r traeth sychu, dadlwytho, ac wedyn hwylio i ffwrdd ar y llanw nesaf.

Roedd cynlluniau yn y 19g i greu glanfa yn Ninas Dinlle i dderbyn ac allforio cynnyrch chwareli llechi Dyffryn Nantlle ond, yn y diwedd, penderfynwyd cludo'r cerrig ar hyd rheilffordd i borthladd Caernarfon. Yr unig allforion sylweddol o Fae Caernarfon o fewn cof felly oedd y llwythi o ithfaen a gludwyd o Drefor ac ambell i lanfa ger Gurn Goch.

Dywedir fod pysgota da i'w cael yn y bae, er nad oes ond ambell i bysgotwr masnachol wrthi bellach. Mae'r dŵr yn enwog am fecryll a chathod môr, ac mae perchnogion cychod pysgota er pleser yn honni bod llawer o ledod, pengyrnod, lledod tywod neu dabs, torbytiaid, morgwn gleision, picydiaid a chŵn môr yno i'w dal.[1] Yn y gorffennol, bu'r bae'n enwog am benwaig a helltid ac a werthid yn Nefyn ymysg lleoedd eraill.

Bu nifer o longddrylliadau ar y banciau tywod ac ar y traethau.

Tua 1880 codwyd gwesty yn Ninas Dinlle a'i alw'n "Gwesty'r Caernarfon Bay".[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau}]

  1. Gwefan BadBoyz [1], adalwyd 11.04.2018
  2. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.46