Pont Tŷ Nant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Pont Tŷ Nant''' neu Pont | Mae '''Pont Tŷ Nant''', neu Pont Tŷ'n-y-nant, yn croesi [[Afon Llifon]] ym mhlwyf [[Llandwrog]] ger y tŷ o'r un enw ar Lôn Cefn Glyn, sef y lôn sy'n mynd ar draws rhwng y ffyrdd sy'n arwain at Bwllheli a Phenmorfa. Dichon mai'r bont dan y ffordd a guddir gan [[Wal Glynllifon]] ger Pen'rallt<ref>Archifdy Gwynedd, XD88/1/2</ref> yw'r un y cyfeirir ati mewn dogfennau. Ym 1837 adeiladwyd pont newydd sbon ar y safle yn lle'r bont a oedd yno gynt a hynny i gynllun a wnaed gan John Lloyd, syrfewr y sir. Yr adeiladwr oedd Thomas Humphreys, Plas Mawr, [[Y Groeslon]], ffermwr lleol, a thalwyd £69 am y gwaith. Diddorol yw sylwi, er bod cynllun a manyleb wedi eu paratoi ar gyfer y gwaith, nid oedd Humphreys yn gallu llofnodi'r dogfennau gan ei fod yn anllythrennog. <ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/46</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:06, 14 Ionawr 2022
Mae Pont Tŷ Nant, neu Pont Tŷ'n-y-nant, yn croesi Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog ger y tŷ o'r un enw ar Lôn Cefn Glyn, sef y lôn sy'n mynd ar draws rhwng y ffyrdd sy'n arwain at Bwllheli a Phenmorfa. Dichon mai'r bont dan y ffordd a guddir gan Wal Glynllifon ger Pen'rallt[1] yw'r un y cyfeirir ati mewn dogfennau. Ym 1837 adeiladwyd pont newydd sbon ar y safle yn lle'r bont a oedd yno gynt a hynny i gynllun a wnaed gan John Lloyd, syrfewr y sir. Yr adeiladwr oedd Thomas Humphreys, Plas Mawr, Y Groeslon, ffermwr lleol, a thalwyd £69 am y gwaith. Diddorol yw sylwi, er bod cynllun a manyleb wedi eu paratoi ar gyfer y gwaith, nid oedd Humphreys yn gallu llofnodi'r dogfennau gan ei fod yn anllythrennog. [2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma