Edgar Christian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Edgar Christian''' yn fwy enwog yng Nghanada nac yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu far...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Edgar Christian''' yn fwy enwog yng Nghanada nac yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn. Yr oedd ei deulu wedi symud i ardal [[Clynnog Fawr]] rai blynyddoedd ynghynt ym 1919.
[[Delwedd:EChristian.jpg|bawd|300px|de|Edgar Christian]]
[[Delwedd:Dyddiadur EC.jpg|bawd|300px|Tudalen gyntaf y dyddiadur]]
[[Delwedd:Unflinching.jpg|300px|chwith]]
[[Delwedd:Dyddiadur EC olaf.jpg|bawd|300px|Tudalen olaf y dyddiadur]]
 
Mae '''Edgar Vernon Christian''' (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nag yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn.
 
Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA, a'i wraig Marguerite (Hornby cyn iddi briodi). Roedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol ragbaratoawl yn Folkestone cyn iddo fynd i ysgol fonedd Coleg Dofr yn Swydd Caint ym 1924. Yr oedd ei deulu wedi symud i [[Bron Dirion|Fron Dirion]] ym [[Brynaerau|Mrynaerau]] ger [[Pontlyfni]] rai blynyddoedd ynghynt, ym 1919, a threuliodd wyliau ysgol felly yn [[Uwchgwyrfai]].
 
Gadawodd Goleg Dofr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gyfyrder, John Hornby (1880-1927 - a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard (1898-1927), ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Mae'n dod yn gynyddol amlwg, a barnu oddi wrth lythyrau gan y teulu a'r ffaith fod rhai darnau o'r dyddiadur wedi cael eu cadw'n gyfrinachol, fod perthynas rywiol rhwng Christian a Hornby, er na ddylid disystyrru'r posibilrwydd mai arwr-addoliad ar ran Edgar oedd sail y berthynas. Beth bynnag, roedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ôl lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Cafwyd hyd i gaban pren ond methodd y criw â dod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban, ynghyd â llythyrau at ei dad. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>Y prif ffeithiau i'w cael ar dudalen Wikipedia a gwefan Cow Boy Song [http://www.cowboysong.com/christian/dontblame.html].</ref>
 
Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dofr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth ohono mewn llyfr, ''Unflinching'', sydd wedi dod yn glasur ymysg llyfrau antur Canada.<ref>Edgar Christian, ''Unflinching: A Diary of Tragic Adventure'' (gol. B Dew Roberts, Llundain, 1937)</ref> Mae'r stori wedi ei hail-adrodd mewn sawl man, ac er nad yw Christian a'i gysylltiadau Cymreig yn hysbys iawn, bu'r hanesydd lleol Wilfred Williams, a hanai o Glynnog Fawr, yn ymddiddori yn yr hanes, gan symbylu Helen Williams-Ellis, Glasfryn, i wneud rhaglen deledu amdano ar gyfer S4C.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>
 


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 6: Llinell 18:


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Anturiaethwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:31, 10 Ionawr 2022

Edgar Christian
Tudalen gyntaf y dyddiadur
Tudalen olaf y dyddiadur

Mae Edgar Vernon Christian (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nag yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn.

Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA, a'i wraig Marguerite (Hornby cyn iddi briodi). Roedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol ragbaratoawl yn Folkestone cyn iddo fynd i ysgol fonedd Coleg Dofr yn Swydd Caint ym 1924. Yr oedd ei deulu wedi symud i Fron Dirion ym Mrynaerau ger Pontlyfni rai blynyddoedd ynghynt, ym 1919, a threuliodd wyliau ysgol felly yn Uwchgwyrfai.

Gadawodd Goleg Dofr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gyfyrder, John Hornby (1880-1927 - a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard (1898-1927), ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Mae'n dod yn gynyddol amlwg, a barnu oddi wrth lythyrau gan y teulu a'r ffaith fod rhai darnau o'r dyddiadur wedi cael eu cadw'n gyfrinachol, fod perthynas rywiol rhwng Christian a Hornby, er na ddylid disystyrru'r posibilrwydd mai arwr-addoliad ar ran Edgar oedd sail y berthynas. Beth bynnag, roedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ôl lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Cafwyd hyd i gaban pren ond methodd y criw â dod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban, ynghyd â llythyrau at ei dad. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.[1]

Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dofr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth ohono mewn llyfr, Unflinching, sydd wedi dod yn glasur ymysg llyfrau antur Canada.[2] Mae'r stori wedi ei hail-adrodd mewn sawl man, ac er nad yw Christian a'i gysylltiadau Cymreig yn hysbys iawn, bu'r hanesydd lleol Wilfred Williams, a hanai o Glynnog Fawr, yn ymddiddori yn yr hanes, gan symbylu Helen Williams-Ellis, Glasfryn, i wneud rhaglen deledu amdano ar gyfer S4C.[3]


Cyfeiriadau

  1. Y prif ffeithiau i'w cael ar dudalen Wikipedia a gwefan Cow Boy Song [1].
  2. Edgar Christian, Unflinching: A Diary of Tragic Adventure (gol. B Dew Roberts, Llundain, 1937)
  3. Gwybodaeth bersonol