Capel Horeb (W), Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Adeiladwyd '''Capel Horeb''' ar Ffordd y Sir, [[Pen-y-groes]] ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.<ref>Archifdy | Adeiladwyd '''Capel Horeb''' a welir heddiw ar Ffordd y Sir, [[Pen-y-groes]] ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.<ref>Archifdy Gwynedd, XD34/669</ref> | ||
Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaidd ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar [[Wesla Bach Llanllyfni]]) ond aeth yr achos i lawr oherwydd rhaniadau, a gwerthwyd y [[Capel Bethel (W), Pen-y-groes|capel]] i'r Calfiniaid ym 1847. Daliai ambell i aelod yn anfodlon i symud at enwad arall, ond bu'n rhaid disgwyl tan 1865-6 pan ddynododd Cyfarfod Cyllidol Wesleaid y Gogledd Ben-y-groes fel gorsaf y genhadaeth gartref.<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'', (Cyf.58, 1866), t.126</ref> Meddai sylwebydd yn y cyfarfod hwnnw: "yr oedd yn wir dda gennyf glywed y cais o Gaernarfon am genhadwr cartrefol, er mwyn ceisio cychwyn achos yn Penygroes, Llanllyfni, lle y mae galw taer amdanom, ac angen mawr am ein gwasanaeth."<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'', (Cyf.57, 1865), t.467</ref> Erbyn yr 1860au, roedd y Calfiniaid wedi codi capel newydd crand gerllaw ac, ym 1866, cymerwyd yr hen gapel ym Mhen-y-groes yn ei ôl ar gost o oddeutu £100 rhwng y pryniant ac atgyweiriadau, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gydag wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr ''Eurgrawn Wesleyaidd'', fodd bynnag, nis enwir y capel.<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'' (Cyf.58, 1866), t.347</ref> Ysywaeth, roedd y capel ar gyrion pellaf Pen-y-groes, a nifer helaeth o'r aelodau'n gorfod cerdded tair milltir un ffordd o [[Nantlle]], [[Tal-y-sarn]] a [[Llanllyfni]]; nid oedd y genhadaeth mor llwyddiannus ag yr hoffid, ac fe symudwyd y cenhadwr cyflogedig i Lanberis tua 1872 lle byddai, yn ôl y farn gyffredinol, yn cael mwy o lwyddiant. Ym 1875, dechreuwyd symudiad i godi capel newydd mewn man mwy canolog, gydag apêl fawr a blodeuog Hugh Jones, Bathafarn House, Caernarfon yn yr ''Eurgrawn'' yn gofyn am gyfraniadau.<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'', (Cyf.68, 1876), t.207</ref> | |||
Caewyd yr achos yn weddol fuan ar ôl dathlu canmlwyddiant yr adeilad, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau. | |||
Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb, a hynny ers y dechrau yn yr 1830au. | |||
Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 15: | Llinell 14: | ||
[[Categori:Capeli]] | [[Categori:Capeli]] | ||
[[Categori:Crefydd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:39, 10 Rhagfyr 2021
Adeiladwyd Capel Horeb a welir heddiw ar Ffordd y Sir, Pen-y-groes ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.[1]
Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaidd ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar Wesla Bach Llanllyfni) ond aeth yr achos i lawr oherwydd rhaniadau, a gwerthwyd y capel i'r Calfiniaid ym 1847. Daliai ambell i aelod yn anfodlon i symud at enwad arall, ond bu'n rhaid disgwyl tan 1865-6 pan ddynododd Cyfarfod Cyllidol Wesleaid y Gogledd Ben-y-groes fel gorsaf y genhadaeth gartref.[2] Meddai sylwebydd yn y cyfarfod hwnnw: "yr oedd yn wir dda gennyf glywed y cais o Gaernarfon am genhadwr cartrefol, er mwyn ceisio cychwyn achos yn Penygroes, Llanllyfni, lle y mae galw taer amdanom, ac angen mawr am ein gwasanaeth."[3] Erbyn yr 1860au, roedd y Calfiniaid wedi codi capel newydd crand gerllaw ac, ym 1866, cymerwyd yr hen gapel ym Mhen-y-groes yn ei ôl ar gost o oddeutu £100 rhwng y pryniant ac atgyweiriadau, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gydag wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr Eurgrawn Wesleyaidd, fodd bynnag, nis enwir y capel.[4] Ysywaeth, roedd y capel ar gyrion pellaf Pen-y-groes, a nifer helaeth o'r aelodau'n gorfod cerdded tair milltir un ffordd o Nantlle, Tal-y-sarn a Llanllyfni; nid oedd y genhadaeth mor llwyddiannus ag yr hoffid, ac fe symudwyd y cenhadwr cyflogedig i Lanberis tua 1872 lle byddai, yn ôl y farn gyffredinol, yn cael mwy o lwyddiant. Ym 1875, dechreuwyd symudiad i godi capel newydd mewn man mwy canolog, gydag apêl fawr a blodeuog Hugh Jones, Bathafarn House, Caernarfon yn yr Eurgrawn yn gofyn am gyfraniadau.[5]
Caewyd yr achos yn weddol fuan ar ôl dathlu canmlwyddiant yr adeilad, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.
Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb, a hynny ers y dechrau yn yr 1830au.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma