Drws-y-coed Uchaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Safai ffermdy nodedig '''Drws-y-coed Uchaf''' ar ben [[Bwlch y Gylfin]], sy'n gwahanu rhannau uchaf [[Dyffryn Nantlle]] oddi wrth wastadedd [[Rhyd-ddu]]. | |||
Wrth ddod i fyny'r ffordd o Ryd-ddu drwy Fwlch y Gylfin i gyfeiriad Dyffryn Nantlle, | Wrth ddod i fyny'r ffordd o Ryd-ddu drwy Fwlch y Gylfin i gyfeiriad Dyffryn Nantlle, safai hen ffermdy Drws-y-coed Uchaf ar ochr dde'r ffordd, ryw chwarter milltir o ben y bwlch. Fodd bynnag aeth yn adfeilion ac fe'i dymchwelwyd rai blynyddoedd yn ôl i wneud lle i faes parcio i bysgotwyr ar Lyn y Dywarchen. Y tu ôl i safle'r hen ffermdy mae [[Llyn y Dywarchen]], sydd hefyd yn gronfa ddŵr fechan. Ceir cyfeiriadau at hynodrwydd y llyn hwn gan Gerallt Gymro yn hanes ei daith drwy Gymru, a ysgrifennwyd yn y ddeuddegfed ganrif, ac roedd hyd yn oed yr awdur cynnar o'r nawfed ganrif, Nennius, wedi clywed amdano. Er na welodd Gerallt y llyn â'i lygaid ei hun, clywodd gan drigolion lleol fod arno ynys a oedd yn symud yn ôl a blaen ar ei wyneb drwy rym y gwyntoedd. Dyma'r disgrifiad a geir yng nghyfieithiad Yr Athro Thomas Jones o Ladin gwreiddiol Gerallt; "[ceir arno] ynys wibiol y sydd yn crwydro ar brydiau, gan rym y gwyntoedd yn ei gyrru, i rannau cyferbyn y llyn. Yma bydd y bugeiliaid yn rhyfeddu'n aml ddarfod trosglwyddo'n sydyn eu gyrroedd wrth bori, i fannau pell i ffwrdd." <ref>Thomas Jones, ''Gerallt Gymro'' (Caerdydd, 1938), t.</ref> Pan ymwelodd y teithiwr William Bingley â'r ardal ar droad y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr ynys bryd hynny tuag wyth i naw llath o hyd meddai, gyda choeden helygen fechan yn tyfu arni. Fodd bynnag, mae wedi diflannu bellach. | ||
Cysylltir ardal Drws-y-coed â'r Tylwyth Teg yn ogystal. Yn ôl un stori priododd gŵr Drws-y-coed ag un o ferched y Tylwyth Teg; Penelope oedd ei henw ac fe ymddengys fod hwnnw'n enw pur boblogaidd ymysg merched y bobl bach. A sonnir bod dyn arall o'r un ffermdy, mewn cenhedlaeth arall, wedi cael profiad pur od gyda'r un Tylwyth ar ei ffordd adref un noson o ffair Beddgelert. (Ond efallai'n wir mai ffrwyth heidden tafarnau Beddgelert oedd i gyfrif am hynny.) Mae ardal Rhyd-ddu a'r cyffiniau yn llawn o straeon a choelion gwerin amryfal, a cheir mwy am ryfeddodau'r fro yn llyfr D.E. Jenkins, ''Beddgelert, its Facts, Fairies, and Folk-lore'', cyfrol fechan sydd yn bur brin erbyn hyn. | Cysylltir ardal Drws-y-coed â'r Tylwyth Teg yn ogystal. Yn ôl un stori priododd gŵr Drws-y-coed ag un o ferched y Tylwyth Teg; Penelope oedd ei henw ac fe ymddengys fod hwnnw'n enw pur boblogaidd ymysg merched y bobl bach. A sonnir bod dyn arall o'r un ffermdy, mewn cenhedlaeth arall, wedi cael profiad pur od gyda'r un Tylwyth ar ei ffordd adref un noson o ffair Beddgelert. (Ond efallai'n wir mai ffrwyth heidden tafarnau Beddgelert oedd i gyfrif am hynny.) Mae ardal Rhyd-ddu a'r cyffiniau yn llawn o straeon a choelion gwerin amryfal, a cheir mwy am ryfeddodau'r fro yn llyfr D.E. Jenkins, ''Beddgelert, its Facts, Fairies, and Folk-lore'', cyfrol fechan sydd yn bur brin erbyn hyn. | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Tra bo careg ar ei gilydd. [cadwyd yr orgraff wreiddiol] | Tra bo careg ar ei gilydd. [cadwyd yr orgraff wreiddiol] | ||
Roedd William | Roedd William Griffith yn ddyn diwylliedig a llengar ac roedd yn uchel ei barch yng ngolwg y bardd Dafydd Ddu Eryri, a gyfansoddodd englyn coffa ar ei fedd ym mynwent Beddgelert. Un arall a'i hadwaenai oedd y bardd clasurol nodedig, Goronwy Owen, ac fe yrrodd Goronwy nifer o englynion ato unwaith, ar gais rhyw gyfaill arall, yn gofyn am "Gosyn Llaeth-geifr". (Mae hyn yn tystio hefyd fod ffermydd yr ardal fynyddig hon yn cadw geifr ar y llechweddau yn y ddeunawfed ganrif ac yn cynhyrchu caws o'u llaeth.) Ond er cymaint oedd bri William Griffith yn ei ddydd fel cyfaill i feirdd a llenorion, ei grefydd anghydffurfiol, a'i gysylltiadau crefyddol tra arbennig, sydd wedi dod â hynodrwydd iddo'n bennaf. Daeth ei gartref anghysbell yn ganolbwynt i genhadaeth grefyddol y [[Morafiaid Drws-y-coed|Morafiaid]] yn yr ardal hon. (Roedd y Morafiaid yn blaid neu sect grefyddol a gychwynnodd ym Morafia (rhan o'r Weriniaeth Tsiec bellach) yn y bymthegfed ganrif dan arweiniad Jan Hus. Wedi cyfnod o drai fe'i hadfywiwyd yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif gan y Cownt Zinzendorf o Sacsoni yn Yr Almaen ac yn fuan roedd cenhadon y Morafiaid yn gweithredu ar hyd a lled Ewrop, gan gynnwys Cymru.) I Ddrws-y-coed y daeth y cenhadwr Morafaidd David Mathias, o Sir Benfro, a chafodd groeso cynnes ar yr aelwyd gan William Griffith a'i wraig Alice. Roedd hi'n ferch Tyddyn Mawr yng Nghwm Pennant, ac roedd yr un pennill â'r un uwchben drws Drws-y-coed uwchben drws y Tyddyn Mawr hefyd. Roedd Alice Griffith eisoes yn hynod bleidiol i'r Methodistiaid ac i Deulu Trefeca Howel Harris, ond ymroes yn llwyr i genhadaeth y Morafiaid yn ddiweddarach. Ceir yr hanes yn llawn yng nghyfrol R.T. Jenkins ''The Moravian Brethren in North Wales''. | ||
Aeth rhai o blant William ac Alice Griffith drosodd i Iwerddon i fyw, ac mae lle i gredu bod y cenedlaetholwr Gwyddelig, [[Arthur Griffith]], yn un o'u disgynyddion. Roedd Arthur Griffith (1871 - 1922) yn awdur, golygydd papur newydd a gwleidydd, ac ef sefydlodd blaid wleidyddol Sinn Féin. Arweiniodd y ddirprwyaeth Wyddelig yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Eingl-Wyddelig 1921, a sefydlodd Wladwriaeth Rydd Iwerddon (Irish Free State), gyda statws dominiwn iddi yn hytrach na gweriniaeth lwyr annibynnol. Bu'n Llywydd senedd Iwerddon, Dáil Éireann o fis Ionawr 1921 tan ei farwolaeth yn Awst y flwyddyn honno yn ddim ond 51 oed. | |||
== Cyfeiriadau == | ==Cyfeiriadau== | ||
{{ | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Ffermydd]] | [[Categori:Ffermydd]] | ||
[[Categori:Chwedloniaeth]] | [[Categori:Chwedloniaeth]] | ||
[[Categori:Safleoedd | [[Categori:Safleoedd nodedig]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:36, 24 Tachwedd 2021
Safai ffermdy nodedig Drws-y-coed Uchaf ar ben Bwlch y Gylfin, sy'n gwahanu rhannau uchaf Dyffryn Nantlle oddi wrth wastadedd Rhyd-ddu.
Wrth ddod i fyny'r ffordd o Ryd-ddu drwy Fwlch y Gylfin i gyfeiriad Dyffryn Nantlle, safai hen ffermdy Drws-y-coed Uchaf ar ochr dde'r ffordd, ryw chwarter milltir o ben y bwlch. Fodd bynnag aeth yn adfeilion ac fe'i dymchwelwyd rai blynyddoedd yn ôl i wneud lle i faes parcio i bysgotwyr ar Lyn y Dywarchen. Y tu ôl i safle'r hen ffermdy mae Llyn y Dywarchen, sydd hefyd yn gronfa ddŵr fechan. Ceir cyfeiriadau at hynodrwydd y llyn hwn gan Gerallt Gymro yn hanes ei daith drwy Gymru, a ysgrifennwyd yn y ddeuddegfed ganrif, ac roedd hyd yn oed yr awdur cynnar o'r nawfed ganrif, Nennius, wedi clywed amdano. Er na welodd Gerallt y llyn â'i lygaid ei hun, clywodd gan drigolion lleol fod arno ynys a oedd yn symud yn ôl a blaen ar ei wyneb drwy rym y gwyntoedd. Dyma'r disgrifiad a geir yng nghyfieithiad Yr Athro Thomas Jones o Ladin gwreiddiol Gerallt; "[ceir arno] ynys wibiol y sydd yn crwydro ar brydiau, gan rym y gwyntoedd yn ei gyrru, i rannau cyferbyn y llyn. Yma bydd y bugeiliaid yn rhyfeddu'n aml ddarfod trosglwyddo'n sydyn eu gyrroedd wrth bori, i fannau pell i ffwrdd." [1] Pan ymwelodd y teithiwr William Bingley â'r ardal ar droad y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr ynys bryd hynny tuag wyth i naw llath o hyd meddai, gyda choeden helygen fechan yn tyfu arni. Fodd bynnag, mae wedi diflannu bellach.
Cysylltir ardal Drws-y-coed â'r Tylwyth Teg yn ogystal. Yn ôl un stori priododd gŵr Drws-y-coed ag un o ferched y Tylwyth Teg; Penelope oedd ei henw ac fe ymddengys fod hwnnw'n enw pur boblogaidd ymysg merched y bobl bach. A sonnir bod dyn arall o'r un ffermdy, mewn cenhedlaeth arall, wedi cael profiad pur od gyda'r un Tylwyth ar ei ffordd adref un noson o ffair Beddgelert. (Ond efallai'n wir mai ffrwyth heidden tafarnau Beddgelert oedd i gyfrif am hynny.) Mae ardal Rhyd-ddu a'r cyffiniau yn llawn o straeon a choelion gwerin amryfal, a cheir mwy am ryfeddodau'r fro yn llyfr D.E. Jenkins, Beddgelert, its Facts, Fairies, and Folk-lore, cyfrol fechan sydd yn bur brin erbyn hyn.
Mae i ffermdy Drws-y-coed Uchaf le pwysig hefyd yn hanes crefydd ym mlaenau Dyffryn Nantlle yn y ddeunawfed ganrif. William Gruffydd a drigai yno yn ail hanner y ganrif honno, ac mae'n debyg mai ef a gododd y tŷ presennol tua 1780, ychydig cyn ei farw. Mae ei enw ar lechen uwchben y drws ac ar y llechen hefyd cerfiwyd y pennill a ganlyn:
Dymuniad calon 'r adeiladydd, 'Rhwn ath wnaeth o ben bwygilydd, Fod yma groeso i Dduw a'i grefydd Tra bo careg ar ei gilydd. [cadwyd yr orgraff wreiddiol]
Roedd William Griffith yn ddyn diwylliedig a llengar ac roedd yn uchel ei barch yng ngolwg y bardd Dafydd Ddu Eryri, a gyfansoddodd englyn coffa ar ei fedd ym mynwent Beddgelert. Un arall a'i hadwaenai oedd y bardd clasurol nodedig, Goronwy Owen, ac fe yrrodd Goronwy nifer o englynion ato unwaith, ar gais rhyw gyfaill arall, yn gofyn am "Gosyn Llaeth-geifr". (Mae hyn yn tystio hefyd fod ffermydd yr ardal fynyddig hon yn cadw geifr ar y llechweddau yn y ddeunawfed ganrif ac yn cynhyrchu caws o'u llaeth.) Ond er cymaint oedd bri William Griffith yn ei ddydd fel cyfaill i feirdd a llenorion, ei grefydd anghydffurfiol, a'i gysylltiadau crefyddol tra arbennig, sydd wedi dod â hynodrwydd iddo'n bennaf. Daeth ei gartref anghysbell yn ganolbwynt i genhadaeth grefyddol y Morafiaid yn yr ardal hon. (Roedd y Morafiaid yn blaid neu sect grefyddol a gychwynnodd ym Morafia (rhan o'r Weriniaeth Tsiec bellach) yn y bymthegfed ganrif dan arweiniad Jan Hus. Wedi cyfnod o drai fe'i hadfywiwyd yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif gan y Cownt Zinzendorf o Sacsoni yn Yr Almaen ac yn fuan roedd cenhadon y Morafiaid yn gweithredu ar hyd a lled Ewrop, gan gynnwys Cymru.) I Ddrws-y-coed y daeth y cenhadwr Morafaidd David Mathias, o Sir Benfro, a chafodd groeso cynnes ar yr aelwyd gan William Griffith a'i wraig Alice. Roedd hi'n ferch Tyddyn Mawr yng Nghwm Pennant, ac roedd yr un pennill â'r un uwchben drws Drws-y-coed uwchben drws y Tyddyn Mawr hefyd. Roedd Alice Griffith eisoes yn hynod bleidiol i'r Methodistiaid ac i Deulu Trefeca Howel Harris, ond ymroes yn llwyr i genhadaeth y Morafiaid yn ddiweddarach. Ceir yr hanes yn llawn yng nghyfrol R.T. Jenkins The Moravian Brethren in North Wales.
Aeth rhai o blant William ac Alice Griffith drosodd i Iwerddon i fyw, ac mae lle i gredu bod y cenedlaetholwr Gwyddelig, Arthur Griffith, yn un o'u disgynyddion. Roedd Arthur Griffith (1871 - 1922) yn awdur, golygydd papur newydd a gwleidydd, ac ef sefydlodd blaid wleidyddol Sinn Féin. Arweiniodd y ddirprwyaeth Wyddelig yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Eingl-Wyddelig 1921, a sefydlodd Wladwriaeth Rydd Iwerddon (Irish Free State), gyda statws dominiwn iddi yn hytrach na gweriniaeth lwyr annibynnol. Bu'n Llywydd senedd Iwerddon, Dáil Éireann o fis Ionawr 1921 tan ei farwolaeth yn Awst y flwyddyn honno yn ddim ond 51 oed.
Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Jones, Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), t.