Edmund Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ychwanegiadau
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 11 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd Capten '''Edmund Glynn''' (ganed c. 1619) o’r Hendre, Llanwnda, yn aelod o deulu’r Glyniaid ([[Teulu Glynn (Glynllifon)]]) o Lynllifon. Roedd yn chweched mab i [[Syr William Glyn]] (Uwch Siryf Ynys Mon tua 1597). Bu'n frwdfrydig yn ei ymdrechion gyda’r lluoedd Piwritanaidd, a gwasanaethodd fel Ustus Heddwch dros gyfnod yr Weriniaeth. Priododd Elizabeth,merch Humphrey Meredydd o Fynachdy Gwyn, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog-fawr]]..  
Roedd Capten '''Edmund Glynn''' (1615 - 1685) o’r [[Hendre (Llanwnda)|Hendre, Llanwnda]], yn aelod o deulu’r Glyniaid ([[Teulu Glynn (Glynllifon)]]) o Lynllifon. Roedd yn chweched mab i [[Syr William Glynn]], Glynllifon (Uwch Siryf Ynys Mon tua 1597), a fu farw pan nad oedd Edmund ond yn bedair oed. Ni wyddys nemor ddim am ei addysg, ond o'i gyfrifoldebau yn nes ymlaen yn ei fywyd - ac a barnu oddi wrth ei lawysgrifen - gellir barnu iddo dderbyn addysg o safon uchel, os nad mewn prifysgol neu letyau'r llys ("inns of court"), o leiaf mewn ysgol ramadeg neu wrth draed tiwtor preifat.

==Cyfeiriadau==
==Gyrfa gyhoeddus==
 
Fe ddechreuodd ei yrfa gyhoeddus tua 1641, pan gafodd swydd leol yn sgil diddymiad Llys y Mers. Bu'n gadben ym myddin y brenin ar ddechrau Rhyfel y Pleidiau Seisnig, nes iddo newid ochr ac ymladd gyda byddin y senedd. Cafodd yrfa bwysig fel ynad heddwch ar adeg pan oedd ynadon heddwch yn rheoli'r sir gymaint ag yr oeddynt yn cynnal llysoedd barn. Wedi 1660 chwaraeodd rôl dawelach o lawer ym mywyd y sir.
 
==Priodi a phrynu ei gartref==
 
Priododd (tua 1646) ag Elizabeth,merch Humphrey Meredydd o [[Mynachdy Gwyn|Fynachdy Gwyn]], ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog-fawr]]. Prynodd yr Hendre ym 1652 oddi wrth Cadwaladr Vaughan, Penybryn, plwyf Llanwnda; ac aeth ati i ehangu'r tŷ'n sylweddol. Cyn hynny bu'r par priod yn byw yn Nhyddyn Tudur, cartref traddodiadol gweddwon Plas Glynllifon, nid nepell o'r prif blas, gan rannu'r tŷ gyda'i fam, Dâm Siân (neu Dame Jane Glynne, gweddw Syr William). 
 
==Dyletswyddau cyhoeddus==
 
Dechreuodd ar ei yrfa gyhoeddus wrth gael ei enwi'n Cofrestrydd  Llys y Siawnsri ar gyfer siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Môn ym 1641. Bu'n frwdfrydig yn ei ymdrechion gyda’r lluoedd Piwritanaidd, a gwasanaethodd fel Ustus Heddwch dros gyfnod yr Weriniaeth. Bu'n un o ddau aelod gweithredol y Pwyllgor Sirol cyn i Gromwell ddod i rym.
 
Gadawodd ddau fab, y naill (William) yntau'n ynad heddwch nes iddo farw ym 1716; a'r llall, (Thomas) yn gweithredu fel Clerc yr Heddwch dros y sir o 1704 ymlaen.
 
==Ffynonellau==

[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GLYN-LLI-0850.html ''Y Bywgraffiadur Arlein'' Llyfrgell Genedlaethol Cymru]

Griffiths, J.E. ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Llundain, 1914)

==Erthygl fanwl ar hanes Edmund Glynn==
'''EDMWND GLYNNE O’R HENDRE 1615 – 1685'''
''[Darllenwyd y sgwrs ganlynol o flaen Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn neuadd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ym mis Mawrth 2013]''
Ym 1949 ysgrifennodd Gilbert Williams, hanesydd plwyfi Llanwnda a Llandwrog, lythyr at Emyr Gwynne Jones, llyfrgellydd Coleg Bangor, yn cynnwys y frawddeg hon: “Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, byddwn yn arfer mynd heibio i’r hen olion [ar fferm yr Hendre] ac yn ceisio dyfalu beth a allent fod - nid oeddwn yn gwybod fawr am yr Hendre y pryd hynny.” Bu Gilbert yn ddiwyd yn canfod yr hyn oedd ar gael ar y pryd am ŵr yr Hendre, gan adael ar ei ôl ffeil denau yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am Edmwnd Glynne, a rhaid diolch i Gilbert, mae’n debyg, am y rhan fwyaf o’r ychydig gyfeiriadau at Edmwnd Glynne sydd mewn print.
Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd yn Sir Gaernarfon nifer weddol fawr o fân dirfeddianwyr ac aelodau o hen deuluoedd bonheddig -chwech neu saith yn aml mewn plwyf, neu ryw dri chant ar draws y sir.  Roeddynt yn ddynion gyda rhyw fymryn o gyfoeth, fel arfer yn llythrennog, ac roeddynt yn cyflawni mân ddyletswyddau cyhoeddus.  Asgwrn cefn y gymdeithas wledig ar lefel y plwyf oedd y dynion hyn. Fodd bynnag, roedd cyfnod rhwng canol pedwar degau’r ail ganrif ar bymtheg a 1660, cyfnod y Rhyfel Gartref a theyrnasiad Cromwell, yn gyfnod pan oedd cyfleoedd ar gael i rai o’r dosbarth ail-reng hwn i lenwi sgidiau prif arweinwyr arferol y sir. Yr oedd y rheiny, penaethiaid yr ystadau mawr, yn eglwyswyr a brenhinwyr i raddau helaeth, ac ni allai’r Weriniaeth dan Cromwell ymddiried ynddynt. 
Un o’r dynion mwy distadl a gymerodd eu lle oedd Edmwnd Glynne, o’r Hendre ym mhlwyf Llanwnda.  Yn chweched fab i deulu Glynllifon, roedd yn ofynnol iddo ganfod ei safle a’i gyfoeth ei hun yn y byd. Trwy gymysgedd o amgylchiadau teuluol a digwyddiadau anarferol yr oes gythryblus honno, cafodd safle o bwysigrwydd yn y gymdeithas wledig a fodolai ar y pryd yn Sir Gaernarfon.
Hyd y gwyddys, nid oes unrhyw ddogfennau personol o eiddo Edmwnd ar gael - dim llythyrau, cyfrifon  na dyddiaduron er enghraifft, dim hyd yn oed ewyllys – er bod rhestr o’i eiddo wedi iddo farw ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fel ynad heddwch, fodd bynnag, ysgrifennodd lawer o ddogfennau cyfreithiol sydd wedi goroesi ymysg papurau’r llys chwarter. Wrth gribinio’n fân yma ac acw ymysg archifau sydd wedi dod i’r fei dros y blynyddoedd, ceir ambell i gyfeiriad arall ato ac felly mae’n bosibl dechrau creu darlun gweddol gyflawn o’i fywyd – bywyd sy’n drych o’r amseroedd cythryblus hynny ac o’r dosbarth o fân ysweiniaid y cafodd ei hun yn aelod ohono.
===Bywyd cynnar ac addysg===
Ganed Edmwnd ym 1615, yn chweched fab (ac unfed plentyn ar ddeg) i Syr William Glynne, Glynllifon a Siân ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn eglwys Llandwrog y diwrnod cyntaf o Hydref y flwyddyn honno. Roedd yn ddyn o dras felly, ei dad wedi bod yn uchel siryf Môn ym 1597, ac yn berchen ar ystâd gryno, yng ngwaelodion plwyf Llandwrog yn bennaf - yr oedd hyn ymhell cyn i Glynllifon fynd yn ganolfan, trwy gyfrwng briodasau doeth, i’r ystâd eang a chefnog a fodolai yn oes Fictoria. Nid oedd gan Edmwnd fel y chweched mab, fodd bynnag, unrhyw obaith o etifeddu’r stad. Bu farw ei dad, Syr William, yn 1620, yn ŵr cymharol ifanc gan adael ei gyfoeth yn bennaf i’r mab hynaf, Thomas Glynne, a oedd eisoes wedi dod i’w oed. Dywedir bod galaru cyffredinol ar ôl Syr William ac mae’n amlwg bod y beirdd o leiaf yn gweld y byddant ar eu colled, gyda sawl un yn canu marwnad iddo. Yn y farwnad o eiddo Gruffudd Hafren, cafodd Edmwnd ei enwi ar ddiwedd rhestr o blant amddifaid y sgweier:
“Edmwnt yw deimwnt arall
A’r ieua’ corff, ara’ call...”
Dyna yn wir y sôn olaf a geir am Edmwnd am bron i ugain mlynedd. Ni wyddwn ddim yn wir am ei addysg, er, o farnu oddi wrth ei lawysgrifen, ei ddefnydd cain o’r iaith fain a’i ddealltwriaeth o’r gyfraith ac o Ladin, mae’n amlwg iddo dderbyn addysg o safon. Aeth Thomas ei frawd hynaf i Rydychen a’r ail frawd, John, i’r Inns of Court ond nid oes cofnod o Edmwnd yn mynychu’r un o’r ddau le. Mae’n debyg nad oedd sefyllfa’r teulu yn caniatáu iddo grwydro mor bell â’i frodyr hŷn am ei addysg gan fod ei dad wedi marw.
Arhosai ei frawd Thomas yn hen lanc am flynyddoedd , ond rhywbryd tua 1640 fe’i priododd, ac roedd yn ofynnol i’w fam Dâm Siân, ynghyd ag Edmwnd oedd erbyn hyn tua phump ar hugain oed, symud allan i wneud lle i’r wraig newydd.  Aethant i fyw i Dyddyn Tudur, tŷ a adawyd yn ewyllys ei dad, mae’n ymddangos, i’r ail fab John. Chwalwyd Tyddyn Tudur tua 1820 ond safai ryw chwarter milltir i’r de o Glynllifon.
O droi am foment at frodyr hynaf Edmwnd, roeddynt yn prysur ddyfod yn ddynion o bwys a dylanwad. Ys dywedodd y bardd yn y farwnad:
“O’r rhain [sef plant Syr William Glynn]
O’r rhain wrth fodd rhieni
Daw egin ieirll, da y gwn i.”
===Ei frodyr===
Os na ddaeth yr un yn iarll, cawsant swyddi a theitlau teilwng o’u huchel dras. Roedd Thomas yr hynaf yn uchel siryf sir Gaernarfon mor gynnar â 1622 a chadarnhaodd ddylanwad gwleidyddol y teulu trwy gael ei ethol yn aelod seneddol y flwyddyn ganlynol; bu hefyd yn aelod o’r Senedd Fyr a’r Senedd Hir yn y 1640au. Er iddo gefnogi’r Brenin ar ddechrau’r Rhyfel Cartref ym 1642, trodd yn y man yn gefnogwr i blaid y senedd a Cromwell. Fe’i hystyrid yn lleol fel un a oedd yn ddigon goddefgar o’r grefydd fwy radical a oedd yn ennill tir. Bu farw ym 1648, ac roedd yr Athro T Jones Pierce yn ddigon dilornus ohono, gan ei alw’n “man of no outstanding qualities” er, diolch i raddau helaeth i ymchwil fy nghyfaill Dewi Jones rydym bellach yn cofio am Thomas Glynne fel un o lysieuwyr mwyaf blaenllaw ei ddydd. Gadawodd dyaid o blant a gweddw ifanc ar ei ôl. Fel yr unig frawd  a oedd, mae’n ymddangos, yn dal i fyw yn y cyffiniau, mae’n debyg y byddai Edmwnd yn helpu ei chwaer yng nghyfraith a’i theulu ifanc draw yng Nglynllifon gyda materion y stad. Yn sicr, mae dogfennau llys ar gael sy’n dangos ei fod yn ymwelydd cyson yno. 
Cafodd waith cyffelyb yn edrych ar ôl tiroedd ei ail frawd, John, sef y Sarsiant John Glynne, a wnaeth enw a gyrfa iddo ei hun yn yr Inns of Court. Daeth yn ddyn cyfoethog, ac yn gefnogwr i Cromwell a’i penododd o’n Arglwydd Brif Ustus. Roedd yn frenhinwr o ran egwyddor a bu’n awyddus i weld coroni Oliver Cromwell. Wedi i hwnnw farw trodd i gefnogi’r hen frenhiniaeth, gan ymuno yn y ddirprwyaeth a aeth drosodd i’r cyfandir i wahodd mab y diweddar frenin i ddychwelyd a hawlio ei etifeddiaeth. Cafodd ei godi’n farwnig gan y Brenin am ei deyrngarwch newydd-anedig, ond y canfyddiad cyffredinol oedd ei fod yn dipyn o Sioni Bob Ochr - bu Samuel Pepys yn ei lambastio wrth sôn amdano’n syrthio oddi ar ei geffyl adeg y Coroni: “which people do please themselves to see how just God is to punish the rogue at such a time as this.”  Prynodd Sir John ystâd Castell Penarlâg,  gan sefydlu dynasti a orffennodd wrth gwrs pan briododd y Miss Glynne olaf â Mr Gladstone. Yn ei ewyllys dyddiedig 1664, mae John yn cadarnhau’r darlun o’r brawd adref yn gwasanaethu’r teulu, gan roi iddo unrhyw renti  a oedd heb eu trosglwyddo, ar yr amod “he deliver a perfect rent rolle of my lands in Angleshey and Carnarvonshire to my sonne Thomas Glynne and be helpfull to him to bring in my rents”.
===Dyletswyddau cyhoeddus cynnar a Rhyfel y Pleidiau Seisnig===
Roedd hynny, fodd bynnag, ar ôl i Edmwnd gyflawni llawer o’r hyn a fyddai’n sicrhau ei le yn y sir. Mae’r cofnod cynharaf sydd gennym am Edmwnd yn oedolyn i’w gael yn ewyllys Hugh Roberts, ficer Llandwrog ym 1639. Fel cynrychiolydd prif deulu’r plwyf, cafodd y ddyletswydd o lofnodi’r ewyllys fel tyst.
Yn fuan wedyn, cychwynnodd ei yrfa gyhoeddus pan ddiddymwyd Cyngor y Mers. Ar 13 Awst 1641, pasiodd y Senedd fod “Mr. Edmund Glyn of Dinley, shall be named the first modern Register, in the Bill for the Principality of Wales, for the Court of Chancery to be erected in the Counties of Merionith, Anglesea, and Caernarvon; to hold the said Office, so long as he shall behave himself well therein.” Mae’n bur amlwg bod dylanwad ei frawd yr aelod seneddol y tu ôl i hyn, ond roedd hyn yn swydd o bwys i ddyn ifanc, ac yn awgrymu bod Edmwnd wedi derbyn addysg gyfreithiol o ryw fath. Y swydd hon efallai oedd ei rodd fwyaf Thomas yr aelod Seneddol i Edmwnd.
O hynny ymlaen mae ei enw’n ymddangos o dro i dro yn cyflawni ambell i fân swyddogaeth i gefnogi achos y Brenin, megis gweithredu fel un o’r comisiynwyr recriwtio ar gyfer ei fyddin. Yn ôl Gilbert Williams, edrychid ar y ddau frawd, Thomas yr aelod seneddol ac Edmwnd, o gychwyn helyntion y pedwar degau ymlaen fel rhai a oedd â rhywfaint o gydymdeimlad cudd tuag at Anghydffurfiaeth ac yn amharod i fynd yr ail filltir dros y Brenin.
Dros y pedair blynedd nesaf ceir ambell gip ar Edmwnd yn gwasanaethu fel mân swyddog sirol yn y milisia, ac roedd ei frawd Thomas wedi derbyn swydd cyrnol yn y fyddin frenhinol. Yn Ebrill 1646, fodd bynnag, daeth chwildro yn nheyrngarwch bonedd Gwynedd wrth i’r Archesgob John Williams o deulu Cochwillan newid o gefnogi’r Brenin i ochri gyda’r senedd, a dilynwyd ei esiampl gan nifer o brif deuluoedd y sir yn cynnwys Thomas Glynne o Lynllifon.  Newidiodd Edmwnd yntau ei deyrngarwch, heb fod angen fawr o berswâd mae’n debyg.
O fewn dau fis, roedd tref a chastell Caernarfon yn nwylo byddin y Senedd a phenodwyd Thomas Glynne yn llywodraethwr y dref ac yn is-lyngesydd Gogledd Cymru. Penodwyd gŵr o swydd Efrog, uwch swyddog ym myddin y Senedd, George Twistleton, yn rheolwr y castell. Yn y man, priododd Twistleton  gyfyrderes Edmwnd o’r Lleuar Fawr a chododd gyfeillgarwch agos rhwng y ddau.
Roedd Edmwnd wedi cyrraedd y rheng o gapten cyn newid ochrau ac fe barhaodd i weithredu fel swyddog ym myddin y Senedd. Roedd yn un o swyddogion gweithredol pwysicaf yn y sir. Fis Chwefror 1648 ysgrifennodd Syr Thomas Fairfax at Edmwnd, yn gorchymyn iddo’n bersonol ddadfyddino’r milwyr yn nhre a chastell Caernarfon; a’r mis canlynol ceir yr Archesgob Williams yn cyfeirio at “my cousin” Capten Glyn fel pennaeth lluoedd y Senedd yn y sir. Hyd y gwyddys, daeth o’r fyddin yn ddianaf ac arferai arddel ei statws milwrol weddill ei oes: fe elwid yn “Capten Glynne” yn gyffredinol ar dafod leferydd yn y fro.
Wedi i blaid y Senedd ennill grym, cafodd Edmwnd ambell swydd weinyddol. Fe’i henwebwyd yn un o dri aelod y Pwyllgor Sirol oedd yn llywodraethu’r sir ar ran plaid y Senedd a chodi arian i gynnal y drefn newydd. Ynghyd â’i frodyr Thomas a John, roedd hefyd yn aelod o’r pwyllgor a asesai drethi’r sir, er mae’n debyg mai Edmwnd oedd yr unig un o’r tri i weithredu. Roedd o’n magu enw iddo fo ei hun fel un y gellid ymddiried ynddo i gynnal y drefn oedd bellach ohoni, ac yn fuan fe’i penodwyd ef yn ynad heddwch. Cyn trafod hynny, fodd bynnag, mae angen sôn ychydig am ei fywyd teuluol.
===Priodi===
Erbyn canol y pedwar degau, ac yntau’n tynnu at ei dri deg oed, trodd ei feddwl at briodi. Roedd yn dal i fyw yng nghartref ei fam, sef Tyddyn Tudur, oedd yn eiddo serch hynny i’w frawd John, ac nid oedd hi’n debygol y byddai Edmwnd yn etifeddu’r tŷ felly. Dan yr amgylchiadau, gellid maddau iddo am chwilio am etifeddes a fyddai’n dod â rhywfaint o dir ac arian i’r uniad, fel y gallai godi yn y byd. Ar y llaw arall, roedd yr amseroedd yn gythryblus, ac Edmwnd gydag enw o fod â thueddiadau anghydffurfiol a gwleidyddol na fyddai’n dderbyniol ar lawer o aelwydydd bonheddig.  Nid oedd yn medru cynnig bywyd cyfforddus na fawr o statws i ddynes ychwaith. Roedd dwy o’i chwiorydd wedi priodi dau fab Hwmffre Meredydd o Fynachdy Gwyn yn nhopiau plwyf Clynnog - cangen o hen deulu’r Pengwern, Llanwnda, ond teulu oedd yn dechrau colli ei safle cymdeithasol. Penderfynodd Edmwnd ddilyn yr un trywydd â’i chwiorydd, gan ddewis ei chwaer yng nghyfraith, Elisabeth Meredydd o’r Mynachdy Gwyn yn wraig.
Nid oedd fawr o fantais i’r un o’r ddau deulu fod Edmwnd wedi ei dewis, sy’n awgrymu mai cariad ac nid cyfoeth oedd sail y berthynas. Bu iddynt briodi, o bosibl, yn ystod hanner cyntaf 1646, tua’r adeg pan oedd teyrngarwch gwleidyddol Edmwnd yn newid a’i duedd at Bresbyteriaeth yn dod yn fwy agored.
Nid oedd gan Elisabeth ddewis ond mynd i fyw ar aelwyd ei mam yng nghyfraith, Dâm Siân a fu farw, mae’n debyg, ym 1648. Ni adawodd fawr i Edmwnd yn ei hewyllys: cafodd ei mab John, y cyfreithiwr yn Llundain a pherchennog yr eiddo, bron yr holl ddodrefn a’r llestri arian ac aeth y stoc ac unrhyw arian ac effeithiau personol i Thomas; y cwbl a gafodd Edmwnd oedd gwely plu, gobennydd, dwy flanced a’r gist orau gyda’r holl liain oedd ynddi - sef yr hyn yr oedd o ac Elizabeth ei angen fel lodjars fwy neu lai!
Erbyn Mawrth 1647, ac Edmwnd yn dal yn y fyddin, roedd gan y cwpl fab, William, ac yn eu tro cafwyd Jane, Catherine, Mary, Thomas a John, gyda dwy flynedd rhwng bob un. Rhaid bod Edmwnd wedi dechrau teimlo’r rheidrwydd o sicrhau cartref oedd yn eiddo iddo fo ei hun. Hawl am oes yn unig oedd gan ei fam ar Dyddyn Tudur; fodd bynnag, roedd John Glynn y perchennog draw yn Llundain, ac wrthi'n cronni eiddo yn Surrey, Middlesex a Swydd Rhydychen, a phrin y byddai angen Tyddyn Tudur arno ond fel rhyw droedle yn ei hen sir; gwelwyd eisoes fod Edmwnd yn cynorthwyo ei frawd fel stiward ar gyfer ei eiddo yng Ngogledd Cymru, a dichon fod yr arfer hwn eisoes ar droed. Arhosai teulu Edmwnd yno hyd 1652, beth bynnag, hyd nes iddo ddod o hyd i rywle addas y gellid ei brynu.
Yn 1649 roedd Andrew Brereton, Llanfair Isgaer, wedi gadael “Tyddyn yr Hendre” yn ei ewyllys i’w ŵyr Cadwaladr Vaughan, Penybryn, Llanwnda ac ym 1652 fe’i gwerthwyd i Edmwnd am y swm o £100.
Roedd (ac mae) Tyddyn yr Hendre ar y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda - ffarm o ryw 20 erw ynghyd â thŷ bychan oedd ar lan yr afon Carrog ac ar fin yr hen lôn o Gaernarfon i Ddyffryn Nantlle – sef yr “hen olion” y soniodd Gilbert Williams amdanynt. ‘Fuodd yr Hendre erioed yn rhan o stad sylweddol, ond am dair cenhedlaeth o leiaf, byddai’n gartref i gangen Edmwnd o deulu Glynllifon. Hyd at 1652, roedd y dogfennau cyfreithiol a luniwyd ganddo fel ynad yn cael eu hysgrifennu yn Nhyddyn Tudur; o 1652 ymlaen, Hendre yw’r cyfeiriad a nodwyd oni fyddai ar ryw drywydd ac oddi cartref.
Er nad oedd tyddyn y pryd hynny yn golygu’n union yr un peth ag y mae heddiw, sef fferm ran-amser neu smallholding, gollyngodd Edmwnd y rhan honno o’r enw rhag blaen, a Hendre sy’n ymddangos yn ddi-ffael ar ddogfennau yn llaw Edmwnd Glynn. Aeth ati yn weddol fuan i ehangu’r tŷ, ac (a barnu oddi wrth y cyfeiriad Tyddyn Tudur sy’n ymddangos ar ddogfennau a ysgrifennwyd gan Edmwnd ym 1654) symudodd y teulu yn ôl i Dyddyn Tudur am rai misoedd yn ystod y flwyddyn honno wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
===Edmund Glynn yr Ynad Heddwch===
Gadewch i ni nawr droi ein sylw’n ôl i 1648. Tua diwedd y flwyddyn honno, bu farw ei frawd Thomas, gan adael mab 5 oed, John. Mae’n amlwg y bu Edmwnd, fel ei ewythr, yn gefn i’r teulu bach yn y plas nes i’r John ifanc dyfu’n ddyn. Galwyd ar Edmwnd i lenwi sgidiau ei frawd mewn maes arall hefyd. Roedd Thomas wedi bod yn ynad heddwch ar fainc y sir fel ei dad o’i flaen; yn wir, bron na honnai prif deuluoedd y sir fod ganddynt hawl i gynrychiolaeth ar y fainc, a chafodd Edmwnd, fel y brawd lleol, y lle. Fe’i rhoddwyd ar Gomisiwn yr Heddwch fis Gorffennaf 1649. Aeth ati ar unwaith gydag egni a diddordeb - ac, o farnu oddi wrth gofnodion y llys chwarter, gweithredai’n ddyfal gyda chryn fesur o drugaredd a doethineb.
Roedd nifer y rhai y gellid ymddiried ynddynt i gynnal deddfau a moesau’r Piwritaniaid yn gyfyngedig iawn, a chan ei fod yn byw yn agos at y dref sirol lle cynhaliwyd yr eisteddiadau ffurfiol, mae ei enw i’w gweld yn amlach nag odid un o’i gymheiriaid. Wrth ddewis ar hap un tymor chwarterol o’r llys chwarter, sef sesiwn y Pasg 1657, cofnodwyd bod Edmwnd Glynne wedi bod â rhan mewn 29 achos, William Williams y Faenol 10, Griffith Jones Castellmarch 8, William Stodart 4, Thomas Madrin 3 a Griffith Williams Penrhyn, 1 achos yn unig. Nid mater o eistedd yn y llys yn unig oedd hyn, ond roedd yr ynadon hyn wedi gorfod derbyn cwynion, rhoi warantau i arestio’r rhai dan amheuaeth, cymryd datganiadau a chaniatáu mechnïaeth wrth symud pob achos yn eu blaen.
Rhaid cofio bod yr ynadon yn gyfrifol am weinyddu Deddfau’r Tlodion, gweinyddu mewn priodasau, trwyddedu tafarndai, gwobrwyo’r sawl a ddaliai fermin, a chynnal pontydd ymysg materion eraill a ystyrir heddiw yn faes y Cyngor Sir. Felly, yr oedd Edmwnd yn un o lywodraethwyr y sir yn ogystal ag aelod o’r farnwriaeth. Un ddyletswydd benodol oedd ystyried hawliadau cyn-filwyr am iawndal am eu clwyfau. Dyma le’r oedd Edmwnd y cyn-filwr a’u cyd-ynadon yn dangos eu hochr; gwrthodwyd pob cais gan gyn-gefnogwyr y Brenin, ond cytunid i roi pensiynau i’r rhai a glwyfwyd wrth ymladd ar ochr y Senedd.
Wrth droi at ochr droseddol ei waith, gwelwn fod Edmwnd Glynne yn ymwneud yn gyson ag achosion o ardal eang - sonnir am Gaernarfon, Llandwrog, Llanwnda, Clynnog, Llanaelhaearn, Llanllyfni a Threflys yn ein sampl ni yn unig – ond mae’n amlwg o’r cofnodion bod y nifer fwyaf o achosion a ddeuai i sylw’r llys chwarter yn deillio o’r ardaloedd hynny lle oedd ynad yn byw . Nid oes yr un ardal yn y sir lle nodwyd cymaint o achosion â phlwyfi Llanwnda a Llandwrog, sef yr ardal ar stepen drws Edmwnd Glynne –  nid oherwydd pechadusrwydd cynhenid y trigolion ond oherwydd agosrwydd yr ardal at fan cyfarfod y llys chwarter a’r ffaith fod ynad gweithgar a gofnodai ei achosion yn drylwyr yn byw yno.
Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y byddai ynadon yn delio gyda mân achosion yn ddiannod, trwy lusgo’r troseddwr gerbron yr ynad lleol i’w ddirwyo yn y fan a’r lle. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod yn well gan Edmwnd Glynne drosrwymo troseddwr i gadw’r heddwch am gyfnod os oedd rhyw fân drosedd dan sylw. Roedd y broses hon yn golygu gosod gofyniad ar y troseddwr i dalu swm sylweddol, fel arfer dwy bunt - sef, tua gwerth hanner dwsin o ddefaid - pe byddai’n torri’r gyfraith yn y dyfodol. Byddai dau o ffrindiau’r troseddwr hefyd yn cytuno y byddent yn talu swm ychwanegol pe bai eu ffrind yn mynd dros y tresi.  Yr oedd rhaid i’r sawl a drosrwymir fod yn bresennol o flaen yr ynad, ac felly gellir dychmygu nifer helaeth o ddihirod yr ardal yn galw heibio’r Hendre yn eu tro.  Proses debyg oedd rhoi mechnïaeth i ddrwgweithredwr ymddangos yn y llys chwarter nesaf os oedd y drosedd yn fwy difrifol.  Deuai’r gwaith hwn â nifer sylweddol o bobl o bob lefel yn y gymdeithas at ddrws Edmwnd, ac roedd yn arfer ganddo ymdrin â’r busnes hefyd lle bynnag y byddai ar y pryd - yn Nyddyn Tudur, yng Nglynllifon gyda’i chwaer yng nghyfraith a’i theulu ifanc, neu hyd yn oed mewn mannau megis Betws Gwernrhiw, sef tafarn ar lôn Pwllheli nid nepell o blas Glynllifon. 
At ei gilydd, mân achosion o ddwyn, meddwdod a threfn gyhoeddus a ddeuai i sylw’r ynad gwledig. Disgrifiai Bob Owen un o achosion hollol nodweddiadol Edmwnd ym 1652 fel un a alwodd am “archwilio a dirwyo tri o bobl am ysbleddachu mewn cyfeddach ar y Sul”. Roedd torri’r Saboth yn boen gyson i bob un o ynadon yr oes honno, ac roedd pwysau o gyfeiriad Cromwell ei hun i fynd ar ôl y rhai a dorrai’r Saboth, naill ai trwy ysbleddachu, llymeitian, chwarae gemau neu trwy ei ddefnyddio fel unrhyw ddiwrnod gwaith arall.
Enghraifft o ddull Edmwnd o ymwneud â’r gwaith yw cyfres o achosion yn ymwneud ag anghydfod cyson rhwng teulu’r Wynniaid, mân fonheddwyr o’r Llystynrhyn, plwyf Dolbenmaen a Huw ap Wiliam, iwmon a’i deulu o Dderwyn Fechan, sy’n wynebu Llystynrhyn ar draws y dyffryn. Roedd dadlau rhwng aelodau’r ddau deulu am hawliau’r naill a’r llall, gyda blocio lonydd, cwffio, tresbasu a thorri i mewn i gaeau’r teulu arall. Fel arfer, byddai’r ochr a deimlai ar y pryd eu bod wedi cael cam yn dod draw i Lanwnda i osod cwyn gerbron Edmwnd Glynne. Mae’n debyg iddo wybod yn iawn amdanynt a’u helbulon, gan nad oedd cartref ei deulu yng nghyfraith ym Mynachdy Gwyn ond yr ochr arall i Fynydd Cennin rhyw filltir i ffwrdd fel eheda’r frân. Ymddengys mai ffordd Edmwnd o setlo’r helynt am y tro fyddai trosrwymo’r ddwy ochr i gadw’r heddwch, yn hytrach na’u dirwyo neu eu hanfon ymlaen at y Sesiwn Chwarter, yn y gobaith y byddai pethau’n tawelu nes i gyfnod y trosrwymiad ddod i ben. Ym mis Mai 1654, fodd bynnag, cododd rywbeth oedd fel mêl ar fysedd Elis Wynne. Clywodd fod anterliwt yn cael ei berfformio yn nhŷ Huw ap Wiliam, “two ... men & one ladde ...appearinge in severall changes of apparell...and deliveringe severall parts by heart for an houre or two togither”.  Anfonodd Wynne dyst draw i adrodd yr hanes wrth Edmwnd Glynne, gan fod y fath beth yn hollol groes i ddaliadau’r gyfundrefn Biwritanaidd, a gellid disgwyl y byddai erlyn ar yr actorion, ac y byddai teulu Derwyn Fechan dan glo am roi lloches ac anogaeth i’r fath giwed. Mae’r ffaith mai dewis Glynne oedd peidio â mynd ar ôl yr actorion a gadael traed Huw ap Wiliam yn rhydd yn awgrymu ei fod yn derbyn nad oedd modd rhoi stop ar bethau fel hyn, ac, er eu bod yn groes i’r ddeddf, efallai nad oedd o’n gweld fawr o ddrwg ynddynt - ac mae’n debyg y gwelodd Glynne adroddiad Elis Wynne am hyn ydoedd, sef cyfle arall i bardduo enw ei gymdogion.
Mae tystiolaeth ymysg papurau’r llys chwarter ,ar ffurf llythyr gan neb llai na Cromwell ei hun, bod disgwyl i ynadon gynnal moesoldeb y sir yn ogystal â chyfraith a threfn, ac er gwaethaf achos Derwyn Fechan, mae’n glir oddi wrth achosion eraill bod Glynne yn gweithredu’n unol â’r anogaeth hon pan oedd rhaid.
Beth bynnag am foesoldeb o ran ymddygiad a chrefydd, mae’n amlwg nad oedd defnyddio ei safle i hybu ei ddiddordebau a’i gysylltiadau ei hun yn beth gwrthun ganddo.
Roedd o’n ddigon parod ym 1657 i yrru Morris Parry, labrwr o Landwrog, i sefyll ei brawf yn y llys chwarter am aflonyddu ar Elen Glynne, Glynllifon, er i Elen fod yn chwaer yng nghyfraith iddo. Dau fis yn ddiweddarach, bu’n holi a charcharu un Wiliam ab Ieuan a fu’n was i Elen am ddwyn cibyn o halen oddi wrthi. Ar achlysur arall, y flwyddyn gynt, roedd Edmwnd wedi bod yn ddigon parod i awdurdodi warant i arestio Gaynor ferch Robert, morwyn Huw Meredydd, Mynachdy Gwyn, ei frawd yng nghyfraith, gan ei bod hi wedi cymryd y goes a gadael Mynachdy Gwyn, heb wasanaethu am y tymor cyfan.
Nid oedd datgan diddordeb yn gysyniad a fyddai’n ddealladwy yn yr oes honno, mae’n debyg - ond o leiaf gellid dweud bod Edmwnd Glynne yn deg at bob ochr.
Roedd ei gyfyrder, Thomas Glynn o Blas Newydd, Llandwrog, yn frenhinwr ac yn wrth-biwritanaidd i’r graddau iddo yn ei ewyllys orchymyn nad oedd ei weddw i briodi ag unrhyw ffanatig, na mab, tad, brawd, ewythr, cefnder neu gyfyrder i ffanatig - ond eto, pan ddaeth cŵyn bod Catherin ferch Dafydd a Marsli Owen wedi bod yn dwyn ŷd Thomas Glynne wrth iddynt ddyrnu ym Mhlas Newydd, roedd Edmwnd Glynne yn ddigon hapus i ddelio â’r ddwy, er nad oedd o a Thomas prin yn siarad â’i gilydd.
Yr achos mwyaf rhyfeddol - ar sawl gownt - lle dylai Edmwnd fod wedi sefyll i un ochr oedd mewn mater priodasol. Rhwng 1653 a 1660, nid oedd priodi mewn eglwys yn unig yn gyfreithlon. Rhaid oedd i ynad heddwch weinyddu defod briodasol, cyn i gofrestrydd lleol gwblhau’r cofnod. Fis Ebrill 1655, mewn cyfarfod o’r llys chwarter, roedd wyth ynad heddwch yn bresennol ac Edmwnd Glynne yn eu mysg. Roedd yr achos oedd gerbron wedi’i gyflwyno gan Gruffith Jones, cofrestrydd Eifionydd, a gwynodd am gamweinyddiad mewn priodas. Mae’r ddogfen wreiddiol yn gryno ac yn esbonio’r sefyllfa i’r dim:
<small>“One John Jones of Trefan ...was intermarried to one Elizabeth Annwyl of Llanerch y gest ...by a minister & then by a justice of the peace...he the sayd John Jones ... being a fatherlesse & motherlesse infant ...of the age of fourteene yeares seaven monthes and noe more first by a minister then by Edmwnd Glynne esq one of the justices of peace ... without due publicacion or registring of the sayd marriage...and without the Consent of the guardians of the said John Jones ... and that the sayd Ellizabeth Annwyl, Jane Wynne of Llanerch y gest widow & Ellis Roberts of Nysken gent did by fraud steal & take away the said John Jones...with intent to marry him to the sayd Ellizabeth.”</small>
Rhaid gofyn beth oedd wedi dod dros ben Edmwnd Glynne i fod yn rhan o’r fath beth. Byddai’n gwbl amlwg (petai o heb fod yn gwbl gyfarwydd â’r teuluoedd) fod y bachgen yn iau o lawer na’r un ar hugain oed oedd yn ofynnol i briodi heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad. Serch hyn, cymerodd Edmwnd ei le ar y fainc i ddisgyblu Elizabeth, Jane Wynne ei mam ac Ellis Roberts, Ynysgain.
Roedd dyfarniad 5 o’r 7 ynad arall yn eglur - ac, yn anarferol braidd, nodir dyfarniad pob un yn unigol: Roedd y briodas yn cael ei diddymu; roedd y tri i fforffedu eu holl diroedd a hanner eu nwyddau i’r Weriniaeth, tra oedd hanner arall y nwyddau i’w rhoi i’r bachgen John Jones. Roedd y tri i wynebu carchar am oes mewn ‘house of correction’. Roedd 2 arall o’r farn bod Jane y fam yn ddieuog. O’r wyth, dim ond Edmwnd Glynne a oedd am eu gollwng i gyd yn rhydd: “Edmwnd Glynne esq findes that the marriadge is voide but that the parties are not to undergoe the penaltie of the statute.” Prin y gallai fod wedi dyfarnu fel arall, ac yntau, ar y gorau, wedi bod yn llai na doeth os nad yn barod i wneud cam mawr â bachgen ifanc. Nid oedd ei gymhellion yn priodi’r ddau nac yn yr achos dilynol yn ddilychwyn, ychwaith. Roedd Jane Wynne, mam Elizabeth Annwyl, yn chwaer mae’n ymddangos i Mary Meredydd, mam yng nghyfraith Edmwnd Glynne.  Beth bynnag, roedd diwedd hapus i’r stori: cyn pen y flwyddyn roedd y tri’n rhydd a chyn bo hir priododd Elizabeth a John Jones unwaith yn rhagor, gan fagu 5 o blant yn Nhrefan.
Nid oedd Edmwnd yn wahanol i ddynion eraill ei oes wrth gwrs ac mi fyddai wedi gweld ei wasanaeth cyhoeddus fel ffordd o gefnogi ei deulu a’i ffrindiau, a hefyd fe ddisgwylid iddo sicrhau gafael awdurdodau’r weriniaeth ar y wlad. Ond o fewn y terfynau hynny, a chyda’r achosion di-ri lle nad oedd ganddo unrhyw ddiddordeb personol i gymylu ei farn, mae’n ymddangos yn ynad cyfiawn, cydwybodol, a lled Piwritanaidd. Ni fu Glynne erioed yn eithafwr, fodd bynnag. Mae helynt a gododd ym 1655 yn dangos hyn: gwnaed cwynion amdano ef, ynghyd â Gruffith Jones Castellmarch a Griffith Williams, Penrhyn, am beidio â chydymffurfio’n ddigonol gyda pholisi’r Piwritaniaid ac yn wir mi fuodd y tri yn erlyn Piwritaniaid eithafol yn y sir. Dichon, fodd bynnag, nad oedd gan y gyfundrefn ddewis yn sir Gaernarfon ond dibynnu ar rai cymedrol i wneud y gwaith a chwta flwyddyn yn ddiweddarach, roedd y tri yn rhan o bwyllgor asesu’r sir a benodwyd gan y Senedd.
Erbyn 1660, roedd y Weriniaeth ar ben a’r Brenin Siarl yr ail yn esgyn i’r orsedd, ac yr oedd rhaid i Edmwnd addasu neu golli ei le ar y fainc. Roedd ei frawd hŷn, Sarsiant John Glynne, wedi gwneud ei benderfyniad eisoes wrth gwrs, wrth fod yn rhan o’r mudiad i wahodd Siarl yn ôl i Loegr. Wnaeth Edmwnd ddilyn ei esiampl.
===Edmund Glynn yr Ynad Heddwch ar ôl adferiad y frenhiniaeth===
Adnewyddwyd Comisiwn yr Heddwch yn ystod Medi neu Hydref 1660, a chodwyd nifer o frenhinwyr i’r fainc gan ddisodli’r anghydffurfwyr mwyaf cadarn - Cyrnol Twistleton, Richard Edwards Nanhoron, Jeffrey Parry Rhydolion, a’u bath. Dim ond Griffith Jones, Castellmarch, Griffith Williams, Y Faenol, Richard Griffith, Plas Llanfair ac Edmwnd Glynne a gadwodd eu lle ar y fainc, trwy gyfaddawdu i wasanaethu dan y drefn newydd.
Roedd Edmwnd wedi bod yn gefnogwr pendant i’r drefn grefyddol anghydffurfiol ei naws, a nawr gwelwyd yr hen Anglicaniaeth yn codi ei ben. Mae achos [[Ellis Rowlands]], ficer Clynnog a Llanwnda, ac felly yn ficer ar Edmwnd,  a glowyd allan o’i eglwys ei hun yn dangos fel yr oedd teimladau’n rhedeg yn uchel a bod cyfran helaeth o’i blwyfolion yn croesawu’r hen drefn yn ôl. Pan ddaeth y mater i’r llys ar ddechrau 1661, roedd Edmwnd Glynne a’i gyd-ynadon yn fodlon cyfeirio’r mater at yr Esgob, a oedd wedi ei ail-sefydlu ym Mangor, ond cafodd Rowlands barhau fel ficer yn y cyfamser.
Prif ddiflastod plwyfolion Clynnog, yn ôl dogfennau’r llys, oedd y ffaith na ddefnyddid y llyfr gweddi yn yr eglwys. Daliodd un o’r protestwyr Feibl i fyny, gan ddangos nad oedd y llyfr gweddi wedi cynnwys yn y gyfrol, gan weiddi “Ni a fynnwn weled llosci y bibles sydd heb y common prayer ynddynt” gan ychwanegu “dyma fo”.
Roedd Edmwnd eisoes wedi dangos ei fod o’r un farn ag Ellis Rowlands lle'r oedd y llyfr gweddi yn y cwestiwn, gan iddo fynd i helynt yng nghwmni’r ficer a rhai o’i braidd yn ystod angladd Mrs Jane Griffith, Plas Llanfair, chwaer yng nghyfraith Ellis Rowlands a pherthynas trwy briodas i Edmwnd Glynne hefyd. Clywyd Edmwnd yn cwyno wrth y lleill am William Davies, ficer Caernarfon oedd wedi defnyddio trefn y gwasanaeth angladd yn y Llyfr Gweddi; “when I came to church I thought the fellow was conjuring” oedd ei union eiriau. Gwnaed cŵyn am Edmwnd wrth ddau o’i gyd-ynadon, Syr Richard Wynn a William Griffith, Cefnamwlch. Achubwyd croen Edmwnd, mae’n debyg, oherwydd ei gysylltiadau teuluol a’i statws fel ynad. Serch hynny, a braidd yn annheg, fe garcharwyd y lleill oedd yn y cwmni am rai wythnosau.
Nid heb rywfaint o anhawster felly y llwyddodd Edmwnd i gyfaddasu ei safbwynt ond, o gydymffurfio, cadwodd ei le ym mywyd cyhoeddus y sir. Arweiniodd hyn at brofiadau annymunol; heb os, fe’i cafodd hi’n anodd pan ddaeth yr angen am weithredu, ar y cyd â’i gyfaill Griffith Jones Castellmarch, yn erbyn ei gyn-gyd-ynadon Jeffrey Parry, Rhydolion a Richard Edwards, Nanhoron, cefnogwyr di-ildio y “blaid dduwiol”, a oedd yn cael eu hamau o guddio arfau.
Cyfnod ansicr a helbulus oedd hi’n gyffredinol ac nid oedd y cyfnod hwn heb ei ofidiau preifat i Edmwnd Glynne ychwaith. Ar yr wythfed ar hugain o Fehefin, 1660, ymosodwyd arno wrth iddo deithio adref, o’r llys yng Nghaernarfon yn ôl pob tebyg. Mae datganiad o’r ffeithiau a gyflwynwyd i’r ynadon yn y llys chwarter ar gael ac mae’n cychwyn trwy nodi bod yr ymosodwr, dyn o’r enw Thomas Hawkins, yn “lewd dissolute person, full of debauchednesse, a common quarreller, an infringer of his Majesty’s peace, a night walker, one walkinge as well by night as day, armed with a gunne and other fire armes”; roedd Hawkins yn arfer sarhau ei gymdogion a gwerthu cwrw heb drwydded yng Nghaernarfon a hynny “unto common tipplers upon the Lord’s dayes”. Ar y noson dan sylw, roedd Hawkins a dau ffrind wedi creu helynt yn nhafarn Betws Gwernrhiw ac wedi cael eu harestio gan y gwarchodwr oedd yn digwydd bod yno, ond ymosododd Hawkins arno gan ddianc o’i afael a chychwynnodd y tri dihiryn am y dref.
Ar ôl rhyw ddwy filltir, daethant ar draws Edmwnd Glynne ar y lôn ger Glanrhyd, rhyw filltir o’r Hendre, gan ymosod arno, gan ei daro dros ei ben gyda phastwn.  Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd Edmwnd ar y fainc wrth ochr ei ffrind Griffith Jones, a lluniodd hwnnw warant i arestio Hawkins. Nid oedd Hawkins yn ddiarth i Edmwnd ychwaith. Roedd o wedi arfer â gweithio fel gof yng Nghaernarfon, yn arbenigo mewn gwneud a thrwsio gynnau – byddai dyn fel Glynne gyda’i gysylltiadau â’r milisia’n siŵr o wybod amdano. Rydym hefyd yn gwybod iddo fod yn rhan o achos o flaen Edmwnd a Gruffith Jones ym 1656. Mae’n demtasiwn i feddwl bod rhywfaint o hanes y tu ôl i’r holl fater er nad oes tystiolaeth o hyn; tybed oedd Hawkins wedi meddwl bod y newidiadau gwleidyddol oedd ar droed yn cynnig cyfle iddo fentro setlo rhyw hen ddicter?
Ar ôl 1660, mae’n anos dilyn bywyd a gyrfa Edmwnd. Roedd yr hen deuluoedd cefnog a dylanwadol yn y sir bellach yn gymeradwy ac nid oedd angen troi at Edmwnd a’i fath i lenwi ‘r holl uwch-swyddi gweinyddol yn y sir; er edrych yn y calendrau o bapurau’r Wladwriaeth, nid yw ei enw’n codi o gwbl. Mae dogfennau’r llys chwarter ar goll i raddau helaeth, a chodwyd Edmwnd Glynne arall, o Fryn-y-Gwdion, Llanllyfni ar y fainc hefyd. Mae’n anodd yn aml bod yn sicr pa Edmwnd Glynne a sonnir amdano mewn dogfen er ei bod hi’n amlwg bod Edmwnd yr Hendre yn dal ati gyda gwaith ynad, a hynny’n weddol gyson.
Cawn sôn amdano ar y fainc yn sesiwn chwarter Hydref 1662, ac eto ym 1666, er nad oedd o mor weithgar fel ynad â chynt . Mae ffeil y llys ar gael ar gyfer 1674 ac erbyn hynny roedd mor weithgar ag y bu yn ystod y pum degau. Ym 1676, bu ar y fainc pan ddirwywyd deg o ‘Sentars’ am gynnal cyfarfod yn Llangybi lle pregethwyd gan James Owen  “contrary to the forme of the Church of England”. Parhaodd yn ynad hyd 1680, ac yntau’n chwe deg pump oed. Cyhoeddwyd comisiwn newydd y flwyddyn honno, a rhoddwyd ei fab William ar y fainc yn ei le.
===Ei fywyd wedi 1660===
Ychydig o sôn sydd mewn ffynonellau eraill i’n helpu i lenwi hanes Edmwnd ar ôl 1660. Bu’n ymwneud â phrynu tir yn Elernion ym 1665. Mae ei enw’n ymddangos ar ambell weithred arall neu ewyllys fel tyst, ond fawr ddim arall.  Bu farw'r Cyrnol George Twistleton, Lleuar Fawr, gŵr i gyfyrderes Edmwnd, ym 1667. Roedd Edmwnd yn dyst i’w ewyllys, ac yn honno fe’i penodwyd i oruchwylio gweinyddiad y stad. Mae o hefyd yn ymddangos fel parti cefnogol mewn ambell weithred o stad Penarlâg yn ystod y chwedegau, ac mae’n amlwg ei fod yn dal i gynorthwyo ei frawd John a’i deulu yno.
Roedd enw Edmwnd ymysg y rhai a oedd yn talu’r Dreth Aelwyd ym mhlwyf Llanwnda. Ym 1673, mae ei enw ar restr o’r 71 ‘nobility and gentry’ pwysicaf yn Sir Gaernarfon.
Ym 1674, wnaeth Edmwnd a’i wraig Elizabeth drosglwyddo i William Thomas, Coed Helen forgais a roddwyd ganddynt ym 1650 ar diroedd yn Eithinog, Llanllyfni a Phennarth yn y swm o £135. Roedd £135 yn swm weddol sylweddol, sy’n dangos bod Edmwnd wedi crynhoi tipyn o gyfoeth yn weddol gynnar yn ei fywyd –neu efallai dyna’r arian a ddaeth iddo o’r Mynachdy Gwyn wrth briodi ei wraig flwyddyn neu ddwy ynghynt. Beth bynnag, ac yntau ar fin cyrraedd ei chwe deg oed, dichon fod mwy o angen arian parod arno, er iddo barhau i ffarmio. Y cofnod olaf i ddod i’r fei amdano yw un sy’n dyddio o 1679, pan oedd arno ddwybunt i Richard Griffith, gŵr bonheddig o Daleithinfynydd, Llanllyfni.
Dwy ddogfen sy’n aros, ond mae’r rheiny’n rhai pwysig. Ni adawodd Edmwnd ewyllys, sy’n awgrymu y gallai fo wedi marw’n ddisymwth. Rhoddwyd llythyrau gweinyddu ei stad i Elizabeth ei weddw a’i fab hynaf, William ar y pedwerydd o Awst 1685, ychydig fisoedd cyn y byddai fo wedi cyrraedd oed yr addewid. Disgrifiwyd William fel gŵr bonheddig - gentleman - yn wahanol i’w dad, a arddelai statws uwch fel yswain - esquire. Er i William ddilyn ei dad ar y fainc, sy’n awgrymu i Edmwnd greu dechreuadau dynasti iddo’i hun, mae’r disgrifiad o statws William yn arwydd o deulu’n dechrau suddo i lawr trwy rengoedd cymdeithas.
Mae’r ail ddogfen yn dweud llawer iawn mwy wrthym. Dyma restr o eiddo Edmwnd, a luniwyd gan ddau ŵr bonheddig lleol, Owen Brereton a William Prichard. Roedd holl stad Edmwnd werth £33 ac un swllt ar ddeg, swm sy’n dangos nad oedd o, o ran eiddo, ddim gwell na’r rhelyw o fân foneddigion y sir. Mae’n amlwg iddo barhau i ffarmio ar raddfa debyg i lawer iawn o fonheddwyr ac iwmyn eraill. Roedd ganddo 5 buwch a thri llo, a dwy o heffrod ddwy oed, ynghyd â 5 o ddefaid a thri oen. Mae’r lefel a’r math o stoc yn awgrymu ffarmio ymgynhaliol i raddau, gan gynhyrchu gwlân a nwyddau o’r llaethdy y gellid eu gwerthu mewn ffair neu farchnad. Nid oedd ganddo ddim offer ffarmio ar wahân i ambell i gaib a rhaw ac og. Roedd yn ddibynnol, fel llawer o ffermwyr yr oes honno, ar ffermwyr mwy am gael benthyg tarw, ac mae’n amlwg, gan fod ganddo og, ei fod yn tyfu rhywfaint o gnydau a byddai angen benthyg aradr a cheffyl neu ychen i droi ei dir. Roedd ganddo ddwy gaseg, a dichon y defnyddid un i fynd i’r dref, a’r llall, efallai, i gario nwyddau i’w gwerthu. 
Mae’r rhestr eiddo yn dangos bod y tŷ wedi ei ehangu - clywir sôn am y ‘New House’ a’r ‘Old House’, ond eto mae’n amlwg mai dwy ran o’r un adeilad oeddynt. Roedd gan y tŷ tua 8 neu 9 o ystafelloedd, nifer barchus mewn oes pan fyddai’r werin yn byw mewn bythynnod un ystafell ond eto tipyn yn llai na phlastai’r mawrion megis teulu’r Faenol. Roedd rhywfaint o drefn y tŷ modern yn perthyn i’r Hendre. Cedwid ystafelloedd at ddibenion penodol, ac roedd y gwelyau i gyd i fyny’r grisiau - peth pur anarferol yn y dyddiau hynny. Gelwid y brif ystafell, a oedd yn y darn newydd, yn ‘Drawing Room’, ac yno yr oedd y dodrefn mwyaf arwyddocaol - byrddau, stolion a chadeiriau. Hon, mae’n debyg, oedd yr ystafell fusnes yn ogystal â’r ystafell lle estynnid croeso i bobl. Tybed ai oherwydd diffyg ystafell o’r fath y codwyd yr estyniad yn ystod y pum degau pan oedd Edmwnd ar ei fwyaf prysur fel ynad. Mae gweddill y dodrefn yn y tŷ yn ddigonol ond nid oedd fawr o foethusrwydd heblaw am welyau plu i bawb yn y teulu, cynfasau a napcynnau o liain ac ychydig o lestri piwter - a byddai unrhyw iwmon llewyrchus yn disgwyl medru ymgyrraedd at safon o’r fath. Nid oedd unrhyw eitemau yno a dystiai i fywyd moethus - roedd gan bron bob gŵr bonheddig ychydig o lestri neu lwyau arian; yn wir, roedd yn un o arwyddion diffiniol o statws, ond doedd dim byd o’r fath yn yr Hendre. Roedd Edmwnd Glynne wedi llwyddo i greu enw a statws iddo fo ei hun a rhoi rhywfaint o gyfle i’w blant ddilyn yn ôl ei draed, ond o ran pethau materol, roedd prynu’r Hendre a’i ehangu gymaint ag y llwyddodd i wneud mewn bywyd gweddol hir.
===Ei etifeddion===
Parhaodd ei fab William i eistedd fel ynad a bu farw ym 1716. Yn 1704 codwyd ail fab Edmwnd, Thomas Glynne yn Glerc yr Heddwch, sef swyddog gweinyddol y llys chwarter. Mae hyn yn awgrymu ei fod wedi derbyn addysg ffurfiol glasurol er mwyn ymdopi â’r dogfennau cyfreithiol, yn ogystal â hyfforddiant yn y gyfraith. Roedd hyn yn gyfle i ennill ffioedd a manteisio ar gostau’r swydd, ond roedd yn arferol i’r glercyddiaeth gael ei rhoi i rywun parchus o dras ddilys ond un na fyddai’n medru, oherwydd ei lefel gymdeithasol, hawlio ei le ar y fainc.  Am flynyddoedd wedi marwolaeth Edmwnd ac Elizabeth, parhaodd Thomas a’i wraig i fyw yn yr Hendre gyda’i frawd William oedd, mae’n ymddangos, heb briodi, nes i Thomas a’i deulu symud i Lwyngwalch, plasty bychan arall cyfagos. Bu farw Thomas ym 1710, gan adael dau blentyn, Edmwnd a aned ym 1691 ac Anne. Hyd yma nid oes dim wedi dod i’r golwg am hanes y ddau blentyn hyn ac erbyn 1772 os oedd yna ddisgynyddion i Edmwnd Glynne yn dal yn fyw, nid oeddent yn berchen ar, nac yn byw yn, yr Hendre, a oedd yn nwylo dynes o Gaernarfon. Yn ddiweddar, cefais awgrym gan fy nghyfaill Alister Williams y gallai William, mab hynaf Edmwnd, fod wedi gadael teulu ar ei ôl, er teulu y tu allan i briodas fyddai hynny. Ceir cofnod o’r gangen bosibl hon yn symud i Lwyn Piod, ger pentref y Groeslon heddiw, lle bu Rowland ap John ap William ap Edmwnd yn dilyn galwedigaeth fel gwehydd. Yr arferiad oedd i blant anghyfreithlon beidio ag arddel cyfenw’r tad, ond defnyddio’r ffurf batronymig. Cafodd fab Rowland ap John, Isaac, ei fedyddio ym 1740, ac yn y man, bu’r Isaac Rowlands hwn yn felinydd ym Melin Glynllifon. Os gwir yr honiad hwn, roedd yna or-or-ŵyr i Edmwnd yn was cyflog ar stad ei gyndadau. 
Yr unig hanesydd i sôn llawer am Edmwnd Glynne oedd Gilbert Williams, ac felly, addas yw dwyn y sylwadau hyn i ben gyda’i ddisgrifiad o Edmwnd. “Er cymaint ei sêl dros Bresbyteriaeth ac er dyfned ei argyhoeddiad gwrth-frenhinol, gweinyddai gyfiawnder gyda llawer o drugaredd, a chaffai’r gair o fod yn ystyriol tuag at y tlawd a’r diamddiffyn.” Mae’r sylw yma’n rhy simplistaidd gen i, yng ngoleuni’r hyn sy’n hysbys am Edmwnd erbyn hyn. Roedd y ffordd gymedrol, bragmataidd yr addasodd ei hun i adferiad y frenhiniaeth ym 1660 yn gwneud i rywun amau dyfnder ei argyhoeddiad, er enghraifft.  Ond cadwodd ei ben uwchben y dŵr pan oedd eraill yn suddo; ei oes aur, heb os, oedd gwasanaethu pan oedd gwir angen am rai y gallai’r Weriniaeth dan Cromwell ymddiried ynddynt, a’i lwyddiant oedd cynnal ei le yng nghymdeithas y sir hyd ddiwedd ei oes, er gwaethaf ei gychwyniad ansicr fel chweched mab y plas.

[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:45, 2 Ionawr 2018

Roedd Capten Edmund Glynn (1615 - 1685) o’r Hendre, Llanwnda, yn aelod o deulu’r Glyniaid (Teulu Glynn (Glynllifon)) o Lynllifon. Roedd yn chweched mab i Syr William Glynn, Glynllifon (Uwch Siryf Ynys Mon tua 1597), a fu farw pan nad oedd Edmund ond yn bedair oed. Ni wyddys nemor ddim am ei addysg, ond o'i gyfrifoldebau yn nes ymlaen yn ei fywyd - ac a barnu oddi wrth ei lawysgrifen - gellir barnu iddo dderbyn addysg o safon uchel, os nad mewn prifysgol neu letyau'r llys ("inns of court"), o leiaf mewn ysgol ramadeg neu wrth draed tiwtor preifat.

Gyrfa gyhoeddus

Fe ddechreuodd ei yrfa gyhoeddus tua 1641, pan gafodd swydd leol yn sgil diddymiad Llys y Mers. Bu'n gadben ym myddin y brenin ar ddechrau Rhyfel y Pleidiau Seisnig, nes iddo newid ochr ac ymladd gyda byddin y senedd. Cafodd yrfa bwysig fel ynad heddwch ar adeg pan oedd ynadon heddwch yn rheoli'r sir gymaint ag yr oeddynt yn cynnal llysoedd barn. Wedi 1660 chwaraeodd rôl dawelach o lawer ym mywyd y sir.

Priodi a phrynu ei gartref

Priododd (tua 1646) ag Elizabeth,merch Humphrey Meredydd o Fynachdy Gwyn, ym mhen uchaf plwyf Clynnog-fawr. Prynodd yr Hendre ym 1652 oddi wrth Cadwaladr Vaughan, Penybryn, plwyf Llanwnda; ac aeth ati i ehangu'r tŷ'n sylweddol. Cyn hynny bu'r par priod yn byw yn Nhyddyn Tudur, cartref traddodiadol gweddwon Plas Glynllifon, nid nepell o'r prif blas, gan rannu'r tŷ gyda'i fam, Dâm Siân (neu Dame Jane Glynne, gweddw Syr William).

Dyletswyddau cyhoeddus

Dechreuodd ar ei yrfa gyhoeddus wrth gael ei enwi'n Cofrestrydd Llys y Siawnsri ar gyfer siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Môn ym 1641. Bu'n frwdfrydig yn ei ymdrechion gyda’r lluoedd Piwritanaidd, a gwasanaethodd fel Ustus Heddwch dros gyfnod yr Weriniaeth. Bu'n un o ddau aelod gweithredol y Pwyllgor Sirol cyn i Gromwell ddod i rym.

Gadawodd ddau fab, y naill (William) yntau'n ynad heddwch nes iddo farw ym 1716; a'r llall, (Thomas) yn gweithredu fel Clerc yr Heddwch dros y sir o 1704 ymlaen.

Ffynonellau

Y Bywgraffiadur Arlein Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Griffiths, J.E. Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Llundain, 1914)

Erthygl fanwl ar hanes Edmund Glynn

EDMWND GLYNNE O’R HENDRE 1615 – 1685

[Darllenwyd y sgwrs ganlynol o flaen Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn neuadd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ym mis Mawrth 2013]

Ym 1949 ysgrifennodd Gilbert Williams, hanesydd plwyfi Llanwnda a Llandwrog, lythyr at Emyr Gwynne Jones, llyfrgellydd Coleg Bangor, yn cynnwys y frawddeg hon: “Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, byddwn yn arfer mynd heibio i’r hen olion [ar fferm yr Hendre] ac yn ceisio dyfalu beth a allent fod - nid oeddwn yn gwybod fawr am yr Hendre y pryd hynny.” Bu Gilbert yn ddiwyd yn canfod yr hyn oedd ar gael ar y pryd am ŵr yr Hendre, gan adael ar ei ôl ffeil denau yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am Edmwnd Glynne, a rhaid diolch i Gilbert, mae’n debyg, am y rhan fwyaf o’r ychydig gyfeiriadau at Edmwnd Glynne sydd mewn print.

Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd yn Sir Gaernarfon nifer weddol fawr o fân dirfeddianwyr ac aelodau o hen deuluoedd bonheddig -chwech neu saith yn aml mewn plwyf, neu ryw dri chant ar draws y sir. Roeddynt yn ddynion gyda rhyw fymryn o gyfoeth, fel arfer yn llythrennog, ac roeddynt yn cyflawni mân ddyletswyddau cyhoeddus. Asgwrn cefn y gymdeithas wledig ar lefel y plwyf oedd y dynion hyn. Fodd bynnag, roedd cyfnod rhwng canol pedwar degau’r ail ganrif ar bymtheg a 1660, cyfnod y Rhyfel Gartref a theyrnasiad Cromwell, yn gyfnod pan oedd cyfleoedd ar gael i rai o’r dosbarth ail-reng hwn i lenwi sgidiau prif arweinwyr arferol y sir. Yr oedd y rheiny, penaethiaid yr ystadau mawr, yn eglwyswyr a brenhinwyr i raddau helaeth, ac ni allai’r Weriniaeth dan Cromwell ymddiried ynddynt. Un o’r dynion mwy distadl a gymerodd eu lle oedd Edmwnd Glynne, o’r Hendre ym mhlwyf Llanwnda. Yn chweched fab i deulu Glynllifon, roedd yn ofynnol iddo ganfod ei safle a’i gyfoeth ei hun yn y byd. Trwy gymysgedd o amgylchiadau teuluol a digwyddiadau anarferol yr oes gythryblus honno, cafodd safle o bwysigrwydd yn y gymdeithas wledig a fodolai ar y pryd yn Sir Gaernarfon.

Hyd y gwyddys, nid oes unrhyw ddogfennau personol o eiddo Edmwnd ar gael - dim llythyrau, cyfrifon na dyddiaduron er enghraifft, dim hyd yn oed ewyllys – er bod rhestr o’i eiddo wedi iddo farw ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fel ynad heddwch, fodd bynnag, ysgrifennodd lawer o ddogfennau cyfreithiol sydd wedi goroesi ymysg papurau’r llys chwarter. Wrth gribinio’n fân yma ac acw ymysg archifau sydd wedi dod i’r fei dros y blynyddoedd, ceir ambell i gyfeiriad arall ato ac felly mae’n bosibl dechrau creu darlun gweddol gyflawn o’i fywyd – bywyd sy’n drych o’r amseroedd cythryblus hynny ac o’r dosbarth o fân ysweiniaid y cafodd ei hun yn aelod ohono.

Bywyd cynnar ac addysg

Ganed Edmwnd ym 1615, yn chweched fab (ac unfed plentyn ar ddeg) i Syr William Glynne, Glynllifon a Siân ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn eglwys Llandwrog y diwrnod cyntaf o Hydref y flwyddyn honno. Roedd yn ddyn o dras felly, ei dad wedi bod yn uchel siryf Môn ym 1597, ac yn berchen ar ystâd gryno, yng ngwaelodion plwyf Llandwrog yn bennaf - yr oedd hyn ymhell cyn i Glynllifon fynd yn ganolfan, trwy gyfrwng briodasau doeth, i’r ystâd eang a chefnog a fodolai yn oes Fictoria. Nid oedd gan Edmwnd fel y chweched mab, fodd bynnag, unrhyw obaith o etifeddu’r stad. Bu farw ei dad, Syr William, yn 1620, yn ŵr cymharol ifanc gan adael ei gyfoeth yn bennaf i’r mab hynaf, Thomas Glynne, a oedd eisoes wedi dod i’w oed. Dywedir bod galaru cyffredinol ar ôl Syr William ac mae’n amlwg bod y beirdd o leiaf yn gweld y byddant ar eu colled, gyda sawl un yn canu marwnad iddo. Yn y farwnad o eiddo Gruffudd Hafren, cafodd Edmwnd ei enwi ar ddiwedd rhestr o blant amddifaid y sgweier:

“Edmwnt yw deimwnt arall A’r ieua’ corff, ara’ call...”

Dyna yn wir y sôn olaf a geir am Edmwnd am bron i ugain mlynedd. Ni wyddwn ddim yn wir am ei addysg, er, o farnu oddi wrth ei lawysgrifen, ei ddefnydd cain o’r iaith fain a’i ddealltwriaeth o’r gyfraith ac o Ladin, mae’n amlwg iddo dderbyn addysg o safon. Aeth Thomas ei frawd hynaf i Rydychen a’r ail frawd, John, i’r Inns of Court ond nid oes cofnod o Edmwnd yn mynychu’r un o’r ddau le. Mae’n debyg nad oedd sefyllfa’r teulu yn caniatáu iddo grwydro mor bell â’i frodyr hŷn am ei addysg gan fod ei dad wedi marw.

Arhosai ei frawd Thomas yn hen lanc am flynyddoedd , ond rhywbryd tua 1640 fe’i priododd, ac roedd yn ofynnol i’w fam Dâm Siân, ynghyd ag Edmwnd oedd erbyn hyn tua phump ar hugain oed, symud allan i wneud lle i’r wraig newydd. Aethant i fyw i Dyddyn Tudur, tŷ a adawyd yn ewyllys ei dad, mae’n ymddangos, i’r ail fab John. Chwalwyd Tyddyn Tudur tua 1820 ond safai ryw chwarter milltir i’r de o Glynllifon.

O droi am foment at frodyr hynaf Edmwnd, roeddynt yn prysur ddyfod yn ddynion o bwys a dylanwad. Ys dywedodd y bardd yn y farwnad:

“O’r rhain [sef plant Syr William Glynn] O’r rhain wrth fodd rhieni Daw egin ieirll, da y gwn i.”

Ei frodyr

Os na ddaeth yr un yn iarll, cawsant swyddi a theitlau teilwng o’u huchel dras. Roedd Thomas yr hynaf yn uchel siryf sir Gaernarfon mor gynnar â 1622 a chadarnhaodd ddylanwad gwleidyddol y teulu trwy gael ei ethol yn aelod seneddol y flwyddyn ganlynol; bu hefyd yn aelod o’r Senedd Fyr a’r Senedd Hir yn y 1640au. Er iddo gefnogi’r Brenin ar ddechrau’r Rhyfel Cartref ym 1642, trodd yn y man yn gefnogwr i blaid y senedd a Cromwell. Fe’i hystyrid yn lleol fel un a oedd yn ddigon goddefgar o’r grefydd fwy radical a oedd yn ennill tir. Bu farw ym 1648, ac roedd yr Athro T Jones Pierce yn ddigon dilornus ohono, gan ei alw’n “man of no outstanding qualities” er, diolch i raddau helaeth i ymchwil fy nghyfaill Dewi Jones rydym bellach yn cofio am Thomas Glynne fel un o lysieuwyr mwyaf blaenllaw ei ddydd. Gadawodd dyaid o blant a gweddw ifanc ar ei ôl. Fel yr unig frawd a oedd, mae’n ymddangos, yn dal i fyw yn y cyffiniau, mae’n debyg y byddai Edmwnd yn helpu ei chwaer yng nghyfraith a’i theulu ifanc draw yng Nglynllifon gyda materion y stad. Yn sicr, mae dogfennau llys ar gael sy’n dangos ei fod yn ymwelydd cyson yno.

Cafodd waith cyffelyb yn edrych ar ôl tiroedd ei ail frawd, John, sef y Sarsiant John Glynne, a wnaeth enw a gyrfa iddo ei hun yn yr Inns of Court. Daeth yn ddyn cyfoethog, ac yn gefnogwr i Cromwell a’i penododd o’n Arglwydd Brif Ustus. Roedd yn frenhinwr o ran egwyddor a bu’n awyddus i weld coroni Oliver Cromwell. Wedi i hwnnw farw trodd i gefnogi’r hen frenhiniaeth, gan ymuno yn y ddirprwyaeth a aeth drosodd i’r cyfandir i wahodd mab y diweddar frenin i ddychwelyd a hawlio ei etifeddiaeth. Cafodd ei godi’n farwnig gan y Brenin am ei deyrngarwch newydd-anedig, ond y canfyddiad cyffredinol oedd ei fod yn dipyn o Sioni Bob Ochr - bu Samuel Pepys yn ei lambastio wrth sôn amdano’n syrthio oddi ar ei geffyl adeg y Coroni: “which people do please themselves to see how just God is to punish the rogue at such a time as this.” Prynodd Sir John ystâd Castell Penarlâg, gan sefydlu dynasti a orffennodd wrth gwrs pan briododd y Miss Glynne olaf â Mr Gladstone. Yn ei ewyllys dyddiedig 1664, mae John yn cadarnhau’r darlun o’r brawd adref yn gwasanaethu’r teulu, gan roi iddo unrhyw renti a oedd heb eu trosglwyddo, ar yr amod “he deliver a perfect rent rolle of my lands in Angleshey and Carnarvonshire to my sonne Thomas Glynne and be helpfull to him to bring in my rents”.

Dyletswyddau cyhoeddus cynnar a Rhyfel y Pleidiau Seisnig

Roedd hynny, fodd bynnag, ar ôl i Edmwnd gyflawni llawer o’r hyn a fyddai’n sicrhau ei le yn y sir. Mae’r cofnod cynharaf sydd gennym am Edmwnd yn oedolyn i’w gael yn ewyllys Hugh Roberts, ficer Llandwrog ym 1639. Fel cynrychiolydd prif deulu’r plwyf, cafodd y ddyletswydd o lofnodi’r ewyllys fel tyst.

Yn fuan wedyn, cychwynnodd ei yrfa gyhoeddus pan ddiddymwyd Cyngor y Mers. Ar 13 Awst 1641, pasiodd y Senedd fod “Mr. Edmund Glyn of Dinley, shall be named the first modern Register, in the Bill for the Principality of Wales, for the Court of Chancery to be erected in the Counties of Merionith, Anglesea, and Caernarvon; to hold the said Office, so long as he shall behave himself well therein.” Mae’n bur amlwg bod dylanwad ei frawd yr aelod seneddol y tu ôl i hyn, ond roedd hyn yn swydd o bwys i ddyn ifanc, ac yn awgrymu bod Edmwnd wedi derbyn addysg gyfreithiol o ryw fath. Y swydd hon efallai oedd ei rodd fwyaf Thomas yr aelod Seneddol i Edmwnd.

O hynny ymlaen mae ei enw’n ymddangos o dro i dro yn cyflawni ambell i fân swyddogaeth i gefnogi achos y Brenin, megis gweithredu fel un o’r comisiynwyr recriwtio ar gyfer ei fyddin. Yn ôl Gilbert Williams, edrychid ar y ddau frawd, Thomas yr aelod seneddol ac Edmwnd, o gychwyn helyntion y pedwar degau ymlaen fel rhai a oedd â rhywfaint o gydymdeimlad cudd tuag at Anghydffurfiaeth ac yn amharod i fynd yr ail filltir dros y Brenin.

Dros y pedair blynedd nesaf ceir ambell gip ar Edmwnd yn gwasanaethu fel mân swyddog sirol yn y milisia, ac roedd ei frawd Thomas wedi derbyn swydd cyrnol yn y fyddin frenhinol. Yn Ebrill 1646, fodd bynnag, daeth chwildro yn nheyrngarwch bonedd Gwynedd wrth i’r Archesgob John Williams o deulu Cochwillan newid o gefnogi’r Brenin i ochri gyda’r senedd, a dilynwyd ei esiampl gan nifer o brif deuluoedd y sir yn cynnwys Thomas Glynne o Lynllifon. Newidiodd Edmwnd yntau ei deyrngarwch, heb fod angen fawr o berswâd mae’n debyg.

O fewn dau fis, roedd tref a chastell Caernarfon yn nwylo byddin y Senedd a phenodwyd Thomas Glynne yn llywodraethwr y dref ac yn is-lyngesydd Gogledd Cymru. Penodwyd gŵr o swydd Efrog, uwch swyddog ym myddin y Senedd, George Twistleton, yn rheolwr y castell. Yn y man, priododd Twistleton gyfyrderes Edmwnd o’r Lleuar Fawr a chododd gyfeillgarwch agos rhwng y ddau.

Roedd Edmwnd wedi cyrraedd y rheng o gapten cyn newid ochrau ac fe barhaodd i weithredu fel swyddog ym myddin y Senedd. Roedd yn un o swyddogion gweithredol pwysicaf yn y sir. Fis Chwefror 1648 ysgrifennodd Syr Thomas Fairfax at Edmwnd, yn gorchymyn iddo’n bersonol ddadfyddino’r milwyr yn nhre a chastell Caernarfon; a’r mis canlynol ceir yr Archesgob Williams yn cyfeirio at “my cousin” Capten Glyn fel pennaeth lluoedd y Senedd yn y sir. Hyd y gwyddys, daeth o’r fyddin yn ddianaf ac arferai arddel ei statws milwrol weddill ei oes: fe elwid yn “Capten Glynne” yn gyffredinol ar dafod leferydd yn y fro.

Wedi i blaid y Senedd ennill grym, cafodd Edmwnd ambell swydd weinyddol. Fe’i henwebwyd yn un o dri aelod y Pwyllgor Sirol oedd yn llywodraethu’r sir ar ran plaid y Senedd a chodi arian i gynnal y drefn newydd. Ynghyd â’i frodyr Thomas a John, roedd hefyd yn aelod o’r pwyllgor a asesai drethi’r sir, er mae’n debyg mai Edmwnd oedd yr unig un o’r tri i weithredu. Roedd o’n magu enw iddo fo ei hun fel un y gellid ymddiried ynddo i gynnal y drefn oedd bellach ohoni, ac yn fuan fe’i penodwyd ef yn ynad heddwch. Cyn trafod hynny, fodd bynnag, mae angen sôn ychydig am ei fywyd teuluol.

Priodi

Erbyn canol y pedwar degau, ac yntau’n tynnu at ei dri deg oed, trodd ei feddwl at briodi. Roedd yn dal i fyw yng nghartref ei fam, sef Tyddyn Tudur, oedd yn eiddo serch hynny i’w frawd John, ac nid oedd hi’n debygol y byddai Edmwnd yn etifeddu’r tŷ felly. Dan yr amgylchiadau, gellid maddau iddo am chwilio am etifeddes a fyddai’n dod â rhywfaint o dir ac arian i’r uniad, fel y gallai godi yn y byd. Ar y llaw arall, roedd yr amseroedd yn gythryblus, ac Edmwnd gydag enw o fod â thueddiadau anghydffurfiol a gwleidyddol na fyddai’n dderbyniol ar lawer o aelwydydd bonheddig. Nid oedd yn medru cynnig bywyd cyfforddus na fawr o statws i ddynes ychwaith. Roedd dwy o’i chwiorydd wedi priodi dau fab Hwmffre Meredydd o Fynachdy Gwyn yn nhopiau plwyf Clynnog - cangen o hen deulu’r Pengwern, Llanwnda, ond teulu oedd yn dechrau colli ei safle cymdeithasol. Penderfynodd Edmwnd ddilyn yr un trywydd â’i chwiorydd, gan ddewis ei chwaer yng nghyfraith, Elisabeth Meredydd o’r Mynachdy Gwyn yn wraig. Nid oedd fawr o fantais i’r un o’r ddau deulu fod Edmwnd wedi ei dewis, sy’n awgrymu mai cariad ac nid cyfoeth oedd sail y berthynas. Bu iddynt briodi, o bosibl, yn ystod hanner cyntaf 1646, tua’r adeg pan oedd teyrngarwch gwleidyddol Edmwnd yn newid a’i duedd at Bresbyteriaeth yn dod yn fwy agored.

Nid oedd gan Elisabeth ddewis ond mynd i fyw ar aelwyd ei mam yng nghyfraith, Dâm Siân a fu farw, mae’n debyg, ym 1648. Ni adawodd fawr i Edmwnd yn ei hewyllys: cafodd ei mab John, y cyfreithiwr yn Llundain a pherchennog yr eiddo, bron yr holl ddodrefn a’r llestri arian ac aeth y stoc ac unrhyw arian ac effeithiau personol i Thomas; y cwbl a gafodd Edmwnd oedd gwely plu, gobennydd, dwy flanced a’r gist orau gyda’r holl liain oedd ynddi - sef yr hyn yr oedd o ac Elizabeth ei angen fel lodjars fwy neu lai!

Erbyn Mawrth 1647, ac Edmwnd yn dal yn y fyddin, roedd gan y cwpl fab, William, ac yn eu tro cafwyd Jane, Catherine, Mary, Thomas a John, gyda dwy flynedd rhwng bob un. Rhaid bod Edmwnd wedi dechrau teimlo’r rheidrwydd o sicrhau cartref oedd yn eiddo iddo fo ei hun. Hawl am oes yn unig oedd gan ei fam ar Dyddyn Tudur; fodd bynnag, roedd John Glynn y perchennog draw yn Llundain, ac wrthi'n cronni eiddo yn Surrey, Middlesex a Swydd Rhydychen, a phrin y byddai angen Tyddyn Tudur arno ond fel rhyw droedle yn ei hen sir; gwelwyd eisoes fod Edmwnd yn cynorthwyo ei frawd fel stiward ar gyfer ei eiddo yng Ngogledd Cymru, a dichon fod yr arfer hwn eisoes ar droed. Arhosai teulu Edmwnd yno hyd 1652, beth bynnag, hyd nes iddo ddod o hyd i rywle addas y gellid ei brynu.

Yn 1649 roedd Andrew Brereton, Llanfair Isgaer, wedi gadael “Tyddyn yr Hendre” yn ei ewyllys i’w ŵyr Cadwaladr Vaughan, Penybryn, Llanwnda ac ym 1652 fe’i gwerthwyd i Edmwnd am y swm o £100.

Roedd (ac mae) Tyddyn yr Hendre ar y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda - ffarm o ryw 20 erw ynghyd â thŷ bychan oedd ar lan yr afon Carrog ac ar fin yr hen lôn o Gaernarfon i Ddyffryn Nantlle – sef yr “hen olion” y soniodd Gilbert Williams amdanynt. ‘Fuodd yr Hendre erioed yn rhan o stad sylweddol, ond am dair cenhedlaeth o leiaf, byddai’n gartref i gangen Edmwnd o deulu Glynllifon. Hyd at 1652, roedd y dogfennau cyfreithiol a luniwyd ganddo fel ynad yn cael eu hysgrifennu yn Nhyddyn Tudur; o 1652 ymlaen, Hendre yw’r cyfeiriad a nodwyd oni fyddai ar ryw drywydd ac oddi cartref.

Er nad oedd tyddyn y pryd hynny yn golygu’n union yr un peth ag y mae heddiw, sef fferm ran-amser neu smallholding, gollyngodd Edmwnd y rhan honno o’r enw rhag blaen, a Hendre sy’n ymddangos yn ddi-ffael ar ddogfennau yn llaw Edmwnd Glynn. Aeth ati yn weddol fuan i ehangu’r tŷ, ac (a barnu oddi wrth y cyfeiriad Tyddyn Tudur sy’n ymddangos ar ddogfennau a ysgrifennwyd gan Edmwnd ym 1654) symudodd y teulu yn ôl i Dyddyn Tudur am rai misoedd yn ystod y flwyddyn honno wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Edmund Glynn yr Ynad Heddwch

Gadewch i ni nawr droi ein sylw’n ôl i 1648. Tua diwedd y flwyddyn honno, bu farw ei frawd Thomas, gan adael mab 5 oed, John. Mae’n amlwg y bu Edmwnd, fel ei ewythr, yn gefn i’r teulu bach yn y plas nes i’r John ifanc dyfu’n ddyn. Galwyd ar Edmwnd i lenwi sgidiau ei frawd mewn maes arall hefyd. Roedd Thomas wedi bod yn ynad heddwch ar fainc y sir fel ei dad o’i flaen; yn wir, bron na honnai prif deuluoedd y sir fod ganddynt hawl i gynrychiolaeth ar y fainc, a chafodd Edmwnd, fel y brawd lleol, y lle. Fe’i rhoddwyd ar Gomisiwn yr Heddwch fis Gorffennaf 1649. Aeth ati ar unwaith gydag egni a diddordeb - ac, o farnu oddi wrth gofnodion y llys chwarter, gweithredai’n ddyfal gyda chryn fesur o drugaredd a doethineb.

Roedd nifer y rhai y gellid ymddiried ynddynt i gynnal deddfau a moesau’r Piwritaniaid yn gyfyngedig iawn, a chan ei fod yn byw yn agos at y dref sirol lle cynhaliwyd yr eisteddiadau ffurfiol, mae ei enw i’w gweld yn amlach nag odid un o’i gymheiriaid. Wrth ddewis ar hap un tymor chwarterol o’r llys chwarter, sef sesiwn y Pasg 1657, cofnodwyd bod Edmwnd Glynne wedi bod â rhan mewn 29 achos, William Williams y Faenol 10, Griffith Jones Castellmarch 8, William Stodart 4, Thomas Madrin 3 a Griffith Williams Penrhyn, 1 achos yn unig. Nid mater o eistedd yn y llys yn unig oedd hyn, ond roedd yr ynadon hyn wedi gorfod derbyn cwynion, rhoi warantau i arestio’r rhai dan amheuaeth, cymryd datganiadau a chaniatáu mechnïaeth wrth symud pob achos yn eu blaen.

Rhaid cofio bod yr ynadon yn gyfrifol am weinyddu Deddfau’r Tlodion, gweinyddu mewn priodasau, trwyddedu tafarndai, gwobrwyo’r sawl a ddaliai fermin, a chynnal pontydd ymysg materion eraill a ystyrir heddiw yn faes y Cyngor Sir. Felly, yr oedd Edmwnd yn un o lywodraethwyr y sir yn ogystal ag aelod o’r farnwriaeth. Un ddyletswydd benodol oedd ystyried hawliadau cyn-filwyr am iawndal am eu clwyfau. Dyma le’r oedd Edmwnd y cyn-filwr a’u cyd-ynadon yn dangos eu hochr; gwrthodwyd pob cais gan gyn-gefnogwyr y Brenin, ond cytunid i roi pensiynau i’r rhai a glwyfwyd wrth ymladd ar ochr y Senedd.

Wrth droi at ochr droseddol ei waith, gwelwn fod Edmwnd Glynne yn ymwneud yn gyson ag achosion o ardal eang - sonnir am Gaernarfon, Llandwrog, Llanwnda, Clynnog, Llanaelhaearn, Llanllyfni a Threflys yn ein sampl ni yn unig – ond mae’n amlwg o’r cofnodion bod y nifer fwyaf o achosion a ddeuai i sylw’r llys chwarter yn deillio o’r ardaloedd hynny lle oedd ynad yn byw . Nid oes yr un ardal yn y sir lle nodwyd cymaint o achosion â phlwyfi Llanwnda a Llandwrog, sef yr ardal ar stepen drws Edmwnd Glynne – nid oherwydd pechadusrwydd cynhenid y trigolion ond oherwydd agosrwydd yr ardal at fan cyfarfod y llys chwarter a’r ffaith fod ynad gweithgar a gofnodai ei achosion yn drylwyr yn byw yno.

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y byddai ynadon yn delio gyda mân achosion yn ddiannod, trwy lusgo’r troseddwr gerbron yr ynad lleol i’w ddirwyo yn y fan a’r lle. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod yn well gan Edmwnd Glynne drosrwymo troseddwr i gadw’r heddwch am gyfnod os oedd rhyw fân drosedd dan sylw. Roedd y broses hon yn golygu gosod gofyniad ar y troseddwr i dalu swm sylweddol, fel arfer dwy bunt - sef, tua gwerth hanner dwsin o ddefaid - pe byddai’n torri’r gyfraith yn y dyfodol. Byddai dau o ffrindiau’r troseddwr hefyd yn cytuno y byddent yn talu swm ychwanegol pe bai eu ffrind yn mynd dros y tresi. Yr oedd rhaid i’r sawl a drosrwymir fod yn bresennol o flaen yr ynad, ac felly gellir dychmygu nifer helaeth o ddihirod yr ardal yn galw heibio’r Hendre yn eu tro. Proses debyg oedd rhoi mechnïaeth i ddrwgweithredwr ymddangos yn y llys chwarter nesaf os oedd y drosedd yn fwy difrifol. Deuai’r gwaith hwn â nifer sylweddol o bobl o bob lefel yn y gymdeithas at ddrws Edmwnd, ac roedd yn arfer ganddo ymdrin â’r busnes hefyd lle bynnag y byddai ar y pryd - yn Nyddyn Tudur, yng Nglynllifon gyda’i chwaer yng nghyfraith a’i theulu ifanc, neu hyd yn oed mewn mannau megis Betws Gwernrhiw, sef tafarn ar lôn Pwllheli nid nepell o blas Glynllifon.

At ei gilydd, mân achosion o ddwyn, meddwdod a threfn gyhoeddus a ddeuai i sylw’r ynad gwledig. Disgrifiai Bob Owen un o achosion hollol nodweddiadol Edmwnd ym 1652 fel un a alwodd am “archwilio a dirwyo tri o bobl am ysbleddachu mewn cyfeddach ar y Sul”. Roedd torri’r Saboth yn boen gyson i bob un o ynadon yr oes honno, ac roedd pwysau o gyfeiriad Cromwell ei hun i fynd ar ôl y rhai a dorrai’r Saboth, naill ai trwy ysbleddachu, llymeitian, chwarae gemau neu trwy ei ddefnyddio fel unrhyw ddiwrnod gwaith arall.

Enghraifft o ddull Edmwnd o ymwneud â’r gwaith yw cyfres o achosion yn ymwneud ag anghydfod cyson rhwng teulu’r Wynniaid, mân fonheddwyr o’r Llystynrhyn, plwyf Dolbenmaen a Huw ap Wiliam, iwmon a’i deulu o Dderwyn Fechan, sy’n wynebu Llystynrhyn ar draws y dyffryn. Roedd dadlau rhwng aelodau’r ddau deulu am hawliau’r naill a’r llall, gyda blocio lonydd, cwffio, tresbasu a thorri i mewn i gaeau’r teulu arall. Fel arfer, byddai’r ochr a deimlai ar y pryd eu bod wedi cael cam yn dod draw i Lanwnda i osod cwyn gerbron Edmwnd Glynne. Mae’n debyg iddo wybod yn iawn amdanynt a’u helbulon, gan nad oedd cartref ei deulu yng nghyfraith ym Mynachdy Gwyn ond yr ochr arall i Fynydd Cennin rhyw filltir i ffwrdd fel eheda’r frân. Ymddengys mai ffordd Edmwnd o setlo’r helynt am y tro fyddai trosrwymo’r ddwy ochr i gadw’r heddwch, yn hytrach na’u dirwyo neu eu hanfon ymlaen at y Sesiwn Chwarter, yn y gobaith y byddai pethau’n tawelu nes i gyfnod y trosrwymiad ddod i ben. Ym mis Mai 1654, fodd bynnag, cododd rywbeth oedd fel mêl ar fysedd Elis Wynne. Clywodd fod anterliwt yn cael ei berfformio yn nhŷ Huw ap Wiliam, “two ... men & one ladde ...appearinge in severall changes of apparell...and deliveringe severall parts by heart for an houre or two togither”. Anfonodd Wynne dyst draw i adrodd yr hanes wrth Edmwnd Glynne, gan fod y fath beth yn hollol groes i ddaliadau’r gyfundrefn Biwritanaidd, a gellid disgwyl y byddai erlyn ar yr actorion, ac y byddai teulu Derwyn Fechan dan glo am roi lloches ac anogaeth i’r fath giwed. Mae’r ffaith mai dewis Glynne oedd peidio â mynd ar ôl yr actorion a gadael traed Huw ap Wiliam yn rhydd yn awgrymu ei fod yn derbyn nad oedd modd rhoi stop ar bethau fel hyn, ac, er eu bod yn groes i’r ddeddf, efallai nad oedd o’n gweld fawr o ddrwg ynddynt - ac mae’n debyg y gwelodd Glynne adroddiad Elis Wynne am hyn ydoedd, sef cyfle arall i bardduo enw ei gymdogion.

Mae tystiolaeth ymysg papurau’r llys chwarter ,ar ffurf llythyr gan neb llai na Cromwell ei hun, bod disgwyl i ynadon gynnal moesoldeb y sir yn ogystal â chyfraith a threfn, ac er gwaethaf achos Derwyn Fechan, mae’n glir oddi wrth achosion eraill bod Glynne yn gweithredu’n unol â’r anogaeth hon pan oedd rhaid.

Beth bynnag am foesoldeb o ran ymddygiad a chrefydd, mae’n amlwg nad oedd defnyddio ei safle i hybu ei ddiddordebau a’i gysylltiadau ei hun yn beth gwrthun ganddo. Roedd o’n ddigon parod ym 1657 i yrru Morris Parry, labrwr o Landwrog, i sefyll ei brawf yn y llys chwarter am aflonyddu ar Elen Glynne, Glynllifon, er i Elen fod yn chwaer yng nghyfraith iddo. Dau fis yn ddiweddarach, bu’n holi a charcharu un Wiliam ab Ieuan a fu’n was i Elen am ddwyn cibyn o halen oddi wrthi. Ar achlysur arall, y flwyddyn gynt, roedd Edmwnd wedi bod yn ddigon parod i awdurdodi warant i arestio Gaynor ferch Robert, morwyn Huw Meredydd, Mynachdy Gwyn, ei frawd yng nghyfraith, gan ei bod hi wedi cymryd y goes a gadael Mynachdy Gwyn, heb wasanaethu am y tymor cyfan.

Nid oedd datgan diddordeb yn gysyniad a fyddai’n ddealladwy yn yr oes honno, mae’n debyg - ond o leiaf gellid dweud bod Edmwnd Glynne yn deg at bob ochr. Roedd ei gyfyrder, Thomas Glynn o Blas Newydd, Llandwrog, yn frenhinwr ac yn wrth-biwritanaidd i’r graddau iddo yn ei ewyllys orchymyn nad oedd ei weddw i briodi ag unrhyw ffanatig, na mab, tad, brawd, ewythr, cefnder neu gyfyrder i ffanatig - ond eto, pan ddaeth cŵyn bod Catherin ferch Dafydd a Marsli Owen wedi bod yn dwyn ŷd Thomas Glynne wrth iddynt ddyrnu ym Mhlas Newydd, roedd Edmwnd Glynne yn ddigon hapus i ddelio â’r ddwy, er nad oedd o a Thomas prin yn siarad â’i gilydd. Yr achos mwyaf rhyfeddol - ar sawl gownt - lle dylai Edmwnd fod wedi sefyll i un ochr oedd mewn mater priodasol. Rhwng 1653 a 1660, nid oedd priodi mewn eglwys yn unig yn gyfreithlon. Rhaid oedd i ynad heddwch weinyddu defod briodasol, cyn i gofrestrydd lleol gwblhau’r cofnod. Fis Ebrill 1655, mewn cyfarfod o’r llys chwarter, roedd wyth ynad heddwch yn bresennol ac Edmwnd Glynne yn eu mysg. Roedd yr achos oedd gerbron wedi’i gyflwyno gan Gruffith Jones, cofrestrydd Eifionydd, a gwynodd am gamweinyddiad mewn priodas. Mae’r ddogfen wreiddiol yn gryno ac yn esbonio’r sefyllfa i’r dim: “One John Jones of Trefan ...was intermarried to one Elizabeth Annwyl of Llanerch y gest ...by a minister & then by a justice of the peace...he the sayd John Jones ... being a fatherlesse & motherlesse infant ...of the age of fourteene yeares seaven monthes and noe more first by a minister then by Edmwnd Glynne esq one of the justices of peace ... without due publicacion or registring of the sayd marriage...and without the Consent of the guardians of the said John Jones ... and that the sayd Ellizabeth Annwyl, Jane Wynne of Llanerch y gest widow & Ellis Roberts of Nysken gent did by fraud steal & take away the said John Jones...with intent to marry him to the sayd Ellizabeth.” Rhaid gofyn beth oedd wedi dod dros ben Edmwnd Glynne i fod yn rhan o’r fath beth. Byddai’n gwbl amlwg (petai o heb fod yn gwbl gyfarwydd â’r teuluoedd) fod y bachgen yn iau o lawer na’r un ar hugain oed oedd yn ofynnol i briodi heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad. Serch hyn, cymerodd Edmwnd ei le ar y fainc i ddisgyblu Elizabeth, Jane Wynne ei mam ac Ellis Roberts, Ynysgain.

Roedd dyfarniad 5 o’r 7 ynad arall yn eglur - ac, yn anarferol braidd, nodir dyfarniad pob un yn unigol: Roedd y briodas yn cael ei diddymu; roedd y tri i fforffedu eu holl diroedd a hanner eu nwyddau i’r Weriniaeth, tra oedd hanner arall y nwyddau i’w rhoi i’r bachgen John Jones. Roedd y tri i wynebu carchar am oes mewn ‘house of correction’. Roedd 2 arall o’r farn bod Jane y fam yn ddieuog. O’r wyth, dim ond Edmwnd Glynne a oedd am eu gollwng i gyd yn rhydd: “Edmwnd Glynne esq findes that the marriadge is voide but that the parties are not to undergoe the penaltie of the statute.” Prin y gallai fod wedi dyfarnu fel arall, ac yntau, ar y gorau, wedi bod yn llai na doeth os nad yn barod i wneud cam mawr â bachgen ifanc. Nid oedd ei gymhellion yn priodi’r ddau nac yn yr achos dilynol yn ddilychwyn, ychwaith. Roedd Jane Wynne, mam Elizabeth Annwyl, yn chwaer mae’n ymddangos i Mary Meredydd, mam yng nghyfraith Edmwnd Glynne. Beth bynnag, roedd diwedd hapus i’r stori: cyn pen y flwyddyn roedd y tri’n rhydd a chyn bo hir priododd Elizabeth a John Jones unwaith yn rhagor, gan fagu 5 o blant yn Nhrefan.

Nid oedd Edmwnd yn wahanol i ddynion eraill ei oes wrth gwrs ac mi fyddai wedi gweld ei wasanaeth cyhoeddus fel ffordd o gefnogi ei deulu a’i ffrindiau, a hefyd fe ddisgwylid iddo sicrhau gafael awdurdodau’r weriniaeth ar y wlad. Ond o fewn y terfynau hynny, a chyda’r achosion di-ri lle nad oedd ganddo unrhyw ddiddordeb personol i gymylu ei farn, mae’n ymddangos yn ynad cyfiawn, cydwybodol, a lled Piwritanaidd. Ni fu Glynne erioed yn eithafwr, fodd bynnag. Mae helynt a gododd ym 1655 yn dangos hyn: gwnaed cwynion amdano ef, ynghyd â Gruffith Jones Castellmarch a Griffith Williams, Penrhyn, am beidio â chydymffurfio’n ddigonol gyda pholisi’r Piwritaniaid ac yn wir mi fuodd y tri yn erlyn Piwritaniaid eithafol yn y sir. Dichon, fodd bynnag, nad oedd gan y gyfundrefn ddewis yn sir Gaernarfon ond dibynnu ar rai cymedrol i wneud y gwaith a chwta flwyddyn yn ddiweddarach, roedd y tri yn rhan o bwyllgor asesu’r sir a benodwyd gan y Senedd. Erbyn 1660, roedd y Weriniaeth ar ben a’r Brenin Siarl yr ail yn esgyn i’r orsedd, ac yr oedd rhaid i Edmwnd addasu neu golli ei le ar y fainc. Roedd ei frawd hŷn, Sarsiant John Glynne, wedi gwneud ei benderfyniad eisoes wrth gwrs, wrth fod yn rhan o’r mudiad i wahodd Siarl yn ôl i Loegr. Wnaeth Edmwnd ddilyn ei esiampl.

Edmund Glynn yr Ynad Heddwch ar ôl adferiad y frenhiniaeth

Adnewyddwyd Comisiwn yr Heddwch yn ystod Medi neu Hydref 1660, a chodwyd nifer o frenhinwyr i’r fainc gan ddisodli’r anghydffurfwyr mwyaf cadarn - Cyrnol Twistleton, Richard Edwards Nanhoron, Jeffrey Parry Rhydolion, a’u bath. Dim ond Griffith Jones, Castellmarch, Griffith Williams, Y Faenol, Richard Griffith, Plas Llanfair ac Edmwnd Glynne a gadwodd eu lle ar y fainc, trwy gyfaddawdu i wasanaethu dan y drefn newydd.

Roedd Edmwnd wedi bod yn gefnogwr pendant i’r drefn grefyddol anghydffurfiol ei naws, a nawr gwelwyd yr hen Anglicaniaeth yn codi ei ben. Mae achos Ellis Rowlands, ficer Clynnog a Llanwnda, ac felly yn ficer ar Edmwnd, a glowyd allan o’i eglwys ei hun yn dangos fel yr oedd teimladau’n rhedeg yn uchel a bod cyfran helaeth o’i blwyfolion yn croesawu’r hen drefn yn ôl. Pan ddaeth y mater i’r llys ar ddechrau 1661, roedd Edmwnd Glynne a’i gyd-ynadon yn fodlon cyfeirio’r mater at yr Esgob, a oedd wedi ei ail-sefydlu ym Mangor, ond cafodd Rowlands barhau fel ficer yn y cyfamser.

Prif ddiflastod plwyfolion Clynnog, yn ôl dogfennau’r llys, oedd y ffaith na ddefnyddid y llyfr gweddi yn yr eglwys. Daliodd un o’r protestwyr Feibl i fyny, gan ddangos nad oedd y llyfr gweddi wedi cynnwys yn y gyfrol, gan weiddi “Ni a fynnwn weled llosci y bibles sydd heb y common prayer ynddynt” gan ychwanegu “dyma fo”.

Roedd Edmwnd eisoes wedi dangos ei fod o’r un farn ag Ellis Rowlands lle'r oedd y llyfr gweddi yn y cwestiwn, gan iddo fynd i helynt yng nghwmni’r ficer a rhai o’i braidd yn ystod angladd Mrs Jane Griffith, Plas Llanfair, chwaer yng nghyfraith Ellis Rowlands a pherthynas trwy briodas i Edmwnd Glynne hefyd. Clywyd Edmwnd yn cwyno wrth y lleill am William Davies, ficer Caernarfon oedd wedi defnyddio trefn y gwasanaeth angladd yn y Llyfr Gweddi; “when I came to church I thought the fellow was conjuring” oedd ei union eiriau. Gwnaed cŵyn am Edmwnd wrth ddau o’i gyd-ynadon, Syr Richard Wynn a William Griffith, Cefnamwlch. Achubwyd croen Edmwnd, mae’n debyg, oherwydd ei gysylltiadau teuluol a’i statws fel ynad. Serch hynny, a braidd yn annheg, fe garcharwyd y lleill oedd yn y cwmni am rai wythnosau.

Nid heb rywfaint o anhawster felly y llwyddodd Edmwnd i gyfaddasu ei safbwynt ond, o gydymffurfio, cadwodd ei le ym mywyd cyhoeddus y sir. Arweiniodd hyn at brofiadau annymunol; heb os, fe’i cafodd hi’n anodd pan ddaeth yr angen am weithredu, ar y cyd â’i gyfaill Griffith Jones Castellmarch, yn erbyn ei gyn-gyd-ynadon Jeffrey Parry, Rhydolion a Richard Edwards, Nanhoron, cefnogwyr di-ildio y “blaid dduwiol”, a oedd yn cael eu hamau o guddio arfau.

Cyfnod ansicr a helbulus oedd hi’n gyffredinol ac nid oedd y cyfnod hwn heb ei ofidiau preifat i Edmwnd Glynne ychwaith. Ar yr wythfed ar hugain o Fehefin, 1660, ymosodwyd arno wrth iddo deithio adref, o’r llys yng Nghaernarfon yn ôl pob tebyg. Mae datganiad o’r ffeithiau a gyflwynwyd i’r ynadon yn y llys chwarter ar gael ac mae’n cychwyn trwy nodi bod yr ymosodwr, dyn o’r enw Thomas Hawkins, yn “lewd dissolute person, full of debauchednesse, a common quarreller, an infringer of his Majesty’s peace, a night walker, one walkinge as well by night as day, armed with a gunne and other fire armes”; roedd Hawkins yn arfer sarhau ei gymdogion a gwerthu cwrw heb drwydded yng Nghaernarfon a hynny “unto common tipplers upon the Lord’s dayes”. Ar y noson dan sylw, roedd Hawkins a dau ffrind wedi creu helynt yn nhafarn Betws Gwernrhiw ac wedi cael eu harestio gan y gwarchodwr oedd yn digwydd bod yno, ond ymosododd Hawkins arno gan ddianc o’i afael a chychwynnodd y tri dihiryn am y dref. Ar ôl rhyw ddwy filltir, daethant ar draws Edmwnd Glynne ar y lôn ger Glanrhyd, rhyw filltir o’r Hendre, gan ymosod arno, gan ei daro dros ei ben gyda phastwn. Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd Edmwnd ar y fainc wrth ochr ei ffrind Griffith Jones, a lluniodd hwnnw warant i arestio Hawkins. Nid oedd Hawkins yn ddiarth i Edmwnd ychwaith. Roedd o wedi arfer â gweithio fel gof yng Nghaernarfon, yn arbenigo mewn gwneud a thrwsio gynnau – byddai dyn fel Glynne gyda’i gysylltiadau â’r milisia’n siŵr o wybod amdano. Rydym hefyd yn gwybod iddo fod yn rhan o achos o flaen Edmwnd a Gruffith Jones ym 1656. Mae’n demtasiwn i feddwl bod rhywfaint o hanes y tu ôl i’r holl fater er nad oes tystiolaeth o hyn; tybed oedd Hawkins wedi meddwl bod y newidiadau gwleidyddol oedd ar droed yn cynnig cyfle iddo fentro setlo rhyw hen ddicter?

Ar ôl 1660, mae’n anos dilyn bywyd a gyrfa Edmwnd. Roedd yr hen deuluoedd cefnog a dylanwadol yn y sir bellach yn gymeradwy ac nid oedd angen troi at Edmwnd a’i fath i lenwi ‘r holl uwch-swyddi gweinyddol yn y sir; er edrych yn y calendrau o bapurau’r Wladwriaeth, nid yw ei enw’n codi o gwbl. Mae dogfennau’r llys chwarter ar goll i raddau helaeth, a chodwyd Edmwnd Glynne arall, o Fryn-y-Gwdion, Llanllyfni ar y fainc hefyd. Mae’n anodd yn aml bod yn sicr pa Edmwnd Glynne a sonnir amdano mewn dogfen er ei bod hi’n amlwg bod Edmwnd yr Hendre yn dal ati gyda gwaith ynad, a hynny’n weddol gyson.

Cawn sôn amdano ar y fainc yn sesiwn chwarter Hydref 1662, ac eto ym 1666, er nad oedd o mor weithgar fel ynad â chynt . Mae ffeil y llys ar gael ar gyfer 1674 ac erbyn hynny roedd mor weithgar ag y bu yn ystod y pum degau. Ym 1676, bu ar y fainc pan ddirwywyd deg o ‘Sentars’ am gynnal cyfarfod yn Llangybi lle pregethwyd gan James Owen “contrary to the forme of the Church of England”. Parhaodd yn ynad hyd 1680, ac yntau’n chwe deg pump oed. Cyhoeddwyd comisiwn newydd y flwyddyn honno, a rhoddwyd ei fab William ar y fainc yn ei le.

Ei fywyd wedi 1660

Ychydig o sôn sydd mewn ffynonellau eraill i’n helpu i lenwi hanes Edmwnd ar ôl 1660. Bu’n ymwneud â phrynu tir yn Elernion ym 1665. Mae ei enw’n ymddangos ar ambell weithred arall neu ewyllys fel tyst, ond fawr ddim arall. Bu farw'r Cyrnol George Twistleton, Lleuar Fawr, gŵr i gyfyrderes Edmwnd, ym 1667. Roedd Edmwnd yn dyst i’w ewyllys, ac yn honno fe’i penodwyd i oruchwylio gweinyddiad y stad. Mae o hefyd yn ymddangos fel parti cefnogol mewn ambell weithred o stad Penarlâg yn ystod y chwedegau, ac mae’n amlwg ei fod yn dal i gynorthwyo ei frawd John a’i deulu yno.

Roedd enw Edmwnd ymysg y rhai a oedd yn talu’r Dreth Aelwyd ym mhlwyf Llanwnda. Ym 1673, mae ei enw ar restr o’r 71 ‘nobility and gentry’ pwysicaf yn Sir Gaernarfon. Ym 1674, wnaeth Edmwnd a’i wraig Elizabeth drosglwyddo i William Thomas, Coed Helen forgais a roddwyd ganddynt ym 1650 ar diroedd yn Eithinog, Llanllyfni a Phennarth yn y swm o £135. Roedd £135 yn swm weddol sylweddol, sy’n dangos bod Edmwnd wedi crynhoi tipyn o gyfoeth yn weddol gynnar yn ei fywyd –neu efallai dyna’r arian a ddaeth iddo o’r Mynachdy Gwyn wrth briodi ei wraig flwyddyn neu ddwy ynghynt. Beth bynnag, ac yntau ar fin cyrraedd ei chwe deg oed, dichon fod mwy o angen arian parod arno, er iddo barhau i ffarmio. Y cofnod olaf i ddod i’r fei amdano yw un sy’n dyddio o 1679, pan oedd arno ddwybunt i Richard Griffith, gŵr bonheddig o Daleithinfynydd, Llanllyfni.

Dwy ddogfen sy’n aros, ond mae’r rheiny’n rhai pwysig. Ni adawodd Edmwnd ewyllys, sy’n awgrymu y gallai fo wedi marw’n ddisymwth. Rhoddwyd llythyrau gweinyddu ei stad i Elizabeth ei weddw a’i fab hynaf, William ar y pedwerydd o Awst 1685, ychydig fisoedd cyn y byddai fo wedi cyrraedd oed yr addewid. Disgrifiwyd William fel gŵr bonheddig - gentleman - yn wahanol i’w dad, a arddelai statws uwch fel yswain - esquire. Er i William ddilyn ei dad ar y fainc, sy’n awgrymu i Edmwnd greu dechreuadau dynasti iddo’i hun, mae’r disgrifiad o statws William yn arwydd o deulu’n dechrau suddo i lawr trwy rengoedd cymdeithas. Mae’r ail ddogfen yn dweud llawer iawn mwy wrthym. Dyma restr o eiddo Edmwnd, a luniwyd gan ddau ŵr bonheddig lleol, Owen Brereton a William Prichard. Roedd holl stad Edmwnd werth £33 ac un swllt ar ddeg, swm sy’n dangos nad oedd o, o ran eiddo, ddim gwell na’r rhelyw o fân foneddigion y sir. Mae’n amlwg iddo barhau i ffarmio ar raddfa debyg i lawer iawn o fonheddwyr ac iwmyn eraill. Roedd ganddo 5 buwch a thri llo, a dwy o heffrod ddwy oed, ynghyd â 5 o ddefaid a thri oen. Mae’r lefel a’r math o stoc yn awgrymu ffarmio ymgynhaliol i raddau, gan gynhyrchu gwlân a nwyddau o’r llaethdy y gellid eu gwerthu mewn ffair neu farchnad. Nid oedd ganddo ddim offer ffarmio ar wahân i ambell i gaib a rhaw ac og. Roedd yn ddibynnol, fel llawer o ffermwyr yr oes honno, ar ffermwyr mwy am gael benthyg tarw, ac mae’n amlwg, gan fod ganddo og, ei fod yn tyfu rhywfaint o gnydau a byddai angen benthyg aradr a cheffyl neu ychen i droi ei dir. Roedd ganddo ddwy gaseg, a dichon y defnyddid un i fynd i’r dref, a’r llall, efallai, i gario nwyddau i’w gwerthu.

Mae’r rhestr eiddo yn dangos bod y tŷ wedi ei ehangu - clywir sôn am y ‘New House’ a’r ‘Old House’, ond eto mae’n amlwg mai dwy ran o’r un adeilad oeddynt. Roedd gan y tŷ tua 8 neu 9 o ystafelloedd, nifer barchus mewn oes pan fyddai’r werin yn byw mewn bythynnod un ystafell ond eto tipyn yn llai na phlastai’r mawrion megis teulu’r Faenol. Roedd rhywfaint o drefn y tŷ modern yn perthyn i’r Hendre. Cedwid ystafelloedd at ddibenion penodol, ac roedd y gwelyau i gyd i fyny’r grisiau - peth pur anarferol yn y dyddiau hynny. Gelwid y brif ystafell, a oedd yn y darn newydd, yn ‘Drawing Room’, ac yno yr oedd y dodrefn mwyaf arwyddocaol - byrddau, stolion a chadeiriau. Hon, mae’n debyg, oedd yr ystafell fusnes yn ogystal â’r ystafell lle estynnid croeso i bobl. Tybed ai oherwydd diffyg ystafell o’r fath y codwyd yr estyniad yn ystod y pum degau pan oedd Edmwnd ar ei fwyaf prysur fel ynad. Mae gweddill y dodrefn yn y tŷ yn ddigonol ond nid oedd fawr o foethusrwydd heblaw am welyau plu i bawb yn y teulu, cynfasau a napcynnau o liain ac ychydig o lestri piwter - a byddai unrhyw iwmon llewyrchus yn disgwyl medru ymgyrraedd at safon o’r fath. Nid oedd unrhyw eitemau yno a dystiai i fywyd moethus - roedd gan bron bob gŵr bonheddig ychydig o lestri neu lwyau arian; yn wir, roedd yn un o arwyddion diffiniol o statws, ond doedd dim byd o’r fath yn yr Hendre. Roedd Edmwnd Glynne wedi llwyddo i greu enw a statws iddo fo ei hun a rhoi rhywfaint o gyfle i’w blant ddilyn yn ôl ei draed, ond o ran pethau materol, roedd prynu’r Hendre a’i ehangu gymaint ag y llwyddodd i wneud mewn bywyd gweddol hir.

Ei etifeddion