West End, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''West End''' yw'r enw lleol ar y rhan o bentref [[Trefor]] sydd agosaf at draeth gorllewinol Trefor a'r [[Yr Hen Offis|Offis]].
'''West End''' yw'r enw lleol ar draeth gorllewinol [[Trefor]]. Traeth [[Y Gorllwyn]] yw ei hen enw Cymraeg. Gall 'Gorllwyn' olygu 'coedwig fawr' ond, yn achos Gorllwyn Trefor, ei ystyr mae'n debygol yw 'Gorllewin', sef pen gorllewinol plwyf [[Llanaelhaearn]]. Cyfieithwyd hyn yn ''West End'' mae'n bosib gan rai o'r Saeson a ddaeth i weithio i'r gwaith ithfaen yn Yr [[Hen Ffolt]] ac yna yn [[Chwarel Craig y Farchas]] ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, nid oes unrhyw wybodaeth bendant pryd yn union y dechreuwyd defnyddio'r enw hwn. Er bod mwyafrif llethol trigolion Trefor yn Gymry Cymraeg uniaith ar y pryd fe gydiodd yr enw Saesneg rhywsut ac ennill ei blwyf. Mae wedi dod yn rhan naturiol o iaith y pentrefwyr erbyn hyn ac mae'r ymadrodd "Mynd am dro i lan môr West" yn hollol gyfarwydd a derbyniol. Fe lynodd hefyd fel math o gyfenw answyddogol wrth un teulu a fu'n byw yn un o'r bythynnod chwarelwyr uwchben y traeth yno. Mae'n draeth caregog, gyda cherrig eithriadol fawr yn y pen pellaf o dan Yr Hen Ffolt, ac mae'n agored iawn i stormydd y gorllewin. Fodd bynnag, yn wahanol iawn i'r traeth prysur a phoblogaidd yr ochr arall i [[Clogwyn y Morfa]], mae 'lan môr West' yn dawel a heddychlon ac weithiau gwelir morloi ar y lan, yn arbennig adeg magu.<ref>Gwybodaeth bersonol </ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
== Cyfeiriadau ==


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
Categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:32, 23 Hydref 2021

West End yw'r enw lleol ar draeth gorllewinol Trefor. Traeth Y Gorllwyn yw ei hen enw Cymraeg. Gall 'Gorllwyn' olygu 'coedwig fawr' ond, yn achos Gorllwyn Trefor, ei ystyr mae'n debygol yw 'Gorllewin', sef pen gorllewinol plwyf Llanaelhaearn. Cyfieithwyd hyn yn West End mae'n bosib gan rai o'r Saeson a ddaeth i weithio i'r gwaith ithfaen yn Yr Hen Ffolt ac yna yn Chwarel Craig y Farchas ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, nid oes unrhyw wybodaeth bendant pryd yn union y dechreuwyd defnyddio'r enw hwn. Er bod mwyafrif llethol trigolion Trefor yn Gymry Cymraeg uniaith ar y pryd fe gydiodd yr enw Saesneg rhywsut ac ennill ei blwyf. Mae wedi dod yn rhan naturiol o iaith y pentrefwyr erbyn hyn ac mae'r ymadrodd "Mynd am dro i lan môr West" yn hollol gyfarwydd a derbyniol. Fe lynodd hefyd fel math o gyfenw answyddogol wrth un teulu a fu'n byw yn un o'r bythynnod chwarelwyr uwchben y traeth yno. Mae'n draeth caregog, gyda cherrig eithriadol fawr yn y pen pellaf o dan Yr Hen Ffolt, ac mae'n agored iawn i stormydd y gorllewin. Fodd bynnag, yn wahanol iawn i'r traeth prysur a phoblogaidd yr ochr arall i Clogwyn y Morfa, mae 'lan môr West' yn dawel a heddychlon ac weithiau gwelir morloi ar y lan, yn arbennig adeg magu.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol