Syr Arthur Acland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd Syr '''Arthur Herbert Dyke Acland''', Barwnig (1847-1926) yn wleidydd Rhyddfrydol, ac yn aelod seneddol dros Rotherham yng Ngogledd Lloegr. Yn aelod o deulu aristocrataidd o Wlad yr Haf, cafodd ei addysg yn ysgol fonedd Rygbi, a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Cafodd ei dderbyn yn fargyfreithiwr yn 1867. Bu'n diwtor yng Ngholeg Keble, Rhydychen, cyn cael ei ordeinio'n offeiriad Anglicanaidd. Rhoddodd y gorau i'w safle fel offeiriad ym 1879 i ddechrau ar yrfa wleidyddol. Cafodd ei ethol i San Steffan ym 1885 a bu'n AS hyd 1899. Bu'n un o brif noddwyr Deddf Addysg Canolraddol Cymru, 1889. Fe wasanaethodd fel aelod o gabinet W.E. Gladstone o 1892 hyd 1895, fel Is-lywydd y Cyngor Addysg. Gwasanaethodd o 1899 ymlaen ar nifer o gomisiynau brenhinol. Er iddo wrthod cael ei ddyrchafu'n arglwydd ym 1908, fe ddaeth yn 13fed Farwnig o Golumb John yn Nyfnaint pan fu ei frawd hŷn farw heb etifedd i'r teitl.<ref>Wikipedia, erthygl ar A.H.D. Acland, cyrchwyd 29.4.2019, [https://en.wikipedia.org/wiki/Sir_Arthur_Dyke_Acland,_13th_Baronet]</ref>
Roedd Syr '''Arthur Herbert Dyke Acland''', Barwnig (1847-1926) yn wleidydd Rhyddfrydol, ac yn aelod seneddol dros Rotherham yng Ngogledd Lloegr. Yn aelod o deulu aristocrataidd o Wlad yr Haf, cafodd ei addysg yn ysgol fonedd Rygbi, a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Cafodd ei dderbyn yn fargyfreithiwr yn 1867. Bu'n diwtor yng Ngholeg Keble, Rhydychen, cyn cael ei ordeinio'n offeiriad Anglicanaidd. Rhoddodd y gorau i'w safle fel offeiriad ym 1879 i ddechrau ar yrfa wleidyddol. Cafodd ei ethol i San Steffan ym 1885 a bu'n AS hyd 1899. Bu'n un o brif noddwyr Deddf Addysg Canolraddol Cymru, 1889. Fe wasanaethodd fel aelod o gabinet W.E. Gladstone o 1892 hyd 1895, fel Is-lywydd y Cyngor Addysg. Gwasanaethodd o 1899 ymlaen ar nifer o gomisiynau brenhinol. Er iddo wrthod cael ei ddyrchafu'n arglwydd ym 1908, fe ddaeth yn 13fed Farwnig o Golumb John yn Nyfnaint pan fu ei frawd hŷn farw heb etifedd i'r teitl.<ref>Wikipedia, erthygl ar A.H.D. Acland, cyrchwyd 29.4.2019, [https://en.wikipedia.org/wiki/Sir_Arthur_Dyke_Acland,_13th_Baronet]</ref>


Roedd yn digwydd bod yn berchennog ar dir ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] yn cynnwys y Dafarn Newydd (neu ''New Inn'') sef y Bodfasarn presennol; ac am gyfnodau bob blwyddyn fe arhosai ym Mhlas-y-bryn, Clynnog, tŷ a brynwyd ganddo ym 1880.<ref>J. Graham Jones, "A Lost Prime Minister?", (''Journal of Liberal History'', Cyf. 43, 2004), t.23, ar gael yma [https://liberalhistory.org.uk/wp-content/uploads/2015/06/43-Jones-A-Lost-Prime-Minister.pdf]</ref> Yr oedd wedi etifeddu'r eiddo hwn (mae'n debyg) gan ewyrth iddo, Arthur Henry Dyke Acland,<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/21352</ref> ac efallai oherwydd hyn fe gymerodd diddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth Cymru, ac yng ngyrfa gynnar [[David Lloyd George]], gan annerch cyfarfodydd sawl gwaith yn ystod ymgyrch etholiadol gyntaf Lloyd George ym mis Ebrill 1890 pan safodd am etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon. Fel Lloyd George ei hun, cafodd Acland ei ddewis yn henadur ar y [[Cyngor Sir Gaernarfon]] newydd, a pharhaodd â'i ddiddordeb ym mywyd gwleidyddol yr ardal.<ref>J. Graham Jones, "Lloyd George and the Carnarvon Boroughs, 1890-95", (''Journal of Liberal History'', Cyf. 24, Gwanwyn 2014), t.30, ar gael yma [https://liberalhistory.org.uk/wp-content/uploads/2014/10/82_Jones_Lloyd_George_and_Carnarvon_Boroughs.pdf]</ref>
Roedd yn digwydd bod yn berchennog ar dir ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] yn cynnwys y Dafarn Newydd (neu ''[[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]]'') sef y Bodfasarn presennol; ac am gyfnodau bob blwyddyn fe arhosai ym Mhlas-y-bryn, Clynnog, tŷ a safai ar dir yr hen New Inn, ac a brynwyd ganddo ym 1880. Mae'n sefyll y tu ôl i'r eglwys (ac erbyn hyn ar draws y ffordd osgoi newydd).<ref>J. Graham Jones, "A Lost Prime Minister?", (''Journal of Liberal History'', Cyf. 43, 2004), t.23, ar gael yma [https://liberalhistory.org.uk/wp-content/uploads/2015/06/43-Jones-A-Lost-Prime-Minister.pdf]</ref> Oherwydd ei gysylltiad â Gogledd Cymru fe gymerodd diddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yng ngyrfa gynnar [[David Lloyd George]], gan annerch cyfarfodydd sawl gwaith yn ystod ymgyrch etholiadol gyntaf Lloyd George ym mis Ebrill 1890 pan safodd am etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon. Fel Lloyd George ei hun, cafodd Acland ei ddewis yn henadur ar y [[Cyngor Sir Gaernarfon]] newydd, a pharhaodd â'i ddiddordeb ym mywyd gwleidyddol yr ardal.<ref>J. Graham Jones, "Lloyd George and the Carnarvon Boroughs, 1890-95", (''Journal of Liberal History'', Cyf. 82, Gwanwyn 2014), t.30, ar gael yma [https://liberalhistory.org.uk/wp-content/uploads/2014/10/82_Jones_Lloyd_George_and_Carnarvon_Boroughs.pdf]</ref>
 
Yn sgil ei safle fel henadur y Cyngor Sir ac yn ffigwr cyhoeddus ym myd addysg fe'i gwnaed yn gadeirydd ar Gyd-Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon a bennodd lle byddai'r ysgolion yn y sir a fyddai'n darparu addysg ganolradd. Fo felly oedd yn arwain y penderfyniad i leoli ysgol ganolraddol ar gyfer y rhan fwyaf o [[Uwchgwyrfai]] a [[Dyffryn Nantlle]] ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] a dyna sut daeth [[Ysgol Sir Pen-y-groes]], sef [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] i fodolaeth. Ysgolion eraill a fyddai'n gwasanaethu'r cwmwd oedd rhai yng Nghaernarfon a Phwllheli. Roedd yr ysgolion olaf hyn i'w hagor mor fuan ar ôl cyhoeddi'r adrodiad ar 12 Rhagfyr 1891 ag oedd modd, tra oedd ysgolion eraill, yn cynnwys un Pen-y-groes, i'w hagor o fewn pum mlynedd.<ref>Prys Eifion Owen, "The Beginnings of the County Schools in Caernarvonshire", (''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.18, t.101</ref>


Yn sgil ei safle fel henadur y Cyngor Sir ac yn ffigwr cyhoeddus ym myd addysg fe'i wnaed yn gadeirydd ar Gyd-Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon a bennodd lle byddai'r ysgolion yn y sir a fyddai'n darparu addysg canolradd. Fo felly oedd yn arwain y penderfyniad i leoli ysgol ganolraddol ar gyfer y rhan fwyaf o [[Uwchgwyrfai]] a [[Dyffryn Nantlle]] ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] a dyna sut daeth [[Ysgol Sir Pen-y-groes]], sef [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] i fodolaeth. Ysgolion eraill a fyddai'n gwasanaethu'r cwmwd oedd rhai yng Nghaernarfon a Phwllheli. Roedd yr ysgolion olaf hyn i'w hagor mor fuan ar ôl cyhoeddi'r adrodiad ar 12 Rhagfyr 1891 ag oedd modd, tra oedd ysgolion eraill, yn cynnwys un Pen-y-groes, i'w hagor o fewn pum mlynedd.<ref>Prys Eifion Owen, "The Beginnings of the County Schools in Caernarvonshire", (''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.18, t.101</ref>


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:50, 17 Hydref 2021

Arthur Acland, AS

Roedd Syr Arthur Herbert Dyke Acland, Barwnig (1847-1926) yn wleidydd Rhyddfrydol, ac yn aelod seneddol dros Rotherham yng Ngogledd Lloegr. Yn aelod o deulu aristocrataidd o Wlad yr Haf, cafodd ei addysg yn ysgol fonedd Rygbi, a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Cafodd ei dderbyn yn fargyfreithiwr yn 1867. Bu'n diwtor yng Ngholeg Keble, Rhydychen, cyn cael ei ordeinio'n offeiriad Anglicanaidd. Rhoddodd y gorau i'w safle fel offeiriad ym 1879 i ddechrau ar yrfa wleidyddol. Cafodd ei ethol i San Steffan ym 1885 a bu'n AS hyd 1899. Bu'n un o brif noddwyr Deddf Addysg Canolraddol Cymru, 1889. Fe wasanaethodd fel aelod o gabinet W.E. Gladstone o 1892 hyd 1895, fel Is-lywydd y Cyngor Addysg. Gwasanaethodd o 1899 ymlaen ar nifer o gomisiynau brenhinol. Er iddo wrthod cael ei ddyrchafu'n arglwydd ym 1908, fe ddaeth yn 13fed Farwnig o Golumb John yn Nyfnaint pan fu ei frawd hŷn farw heb etifedd i'r teitl.[1]

Roedd yn digwydd bod yn berchennog ar dir ym mhlwyf Clynnog Fawr yn cynnwys y Dafarn Newydd (neu New Inn) sef y Bodfasarn presennol; ac am gyfnodau bob blwyddyn fe arhosai ym Mhlas-y-bryn, Clynnog, tŷ a safai ar dir yr hen New Inn, ac a brynwyd ganddo ym 1880. Mae'n sefyll y tu ôl i'r eglwys (ac erbyn hyn ar draws y ffordd osgoi newydd).[2] Oherwydd ei gysylltiad â Gogledd Cymru fe gymerodd diddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yng ngyrfa gynnar David Lloyd George, gan annerch cyfarfodydd sawl gwaith yn ystod ymgyrch etholiadol gyntaf Lloyd George ym mis Ebrill 1890 pan safodd am etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon. Fel Lloyd George ei hun, cafodd Acland ei ddewis yn henadur ar y Cyngor Sir Gaernarfon newydd, a pharhaodd â'i ddiddordeb ym mywyd gwleidyddol yr ardal.[3]

Yn sgil ei safle fel henadur y Cyngor Sir ac yn ffigwr cyhoeddus ym myd addysg fe'i gwnaed yn gadeirydd ar Gyd-Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon a bennodd lle byddai'r ysgolion yn y sir a fyddai'n darparu addysg ganolradd. Fo felly oedd yn arwain y penderfyniad i leoli ysgol ganolraddol ar gyfer y rhan fwyaf o Uwchgwyrfai a Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes a dyna sut daeth Ysgol Sir Pen-y-groes, sef Ysgol Dyffryn Nantlle i fodolaeth. Ysgolion eraill a fyddai'n gwasanaethu'r cwmwd oedd rhai yng Nghaernarfon a Phwllheli. Roedd yr ysgolion olaf hyn i'w hagor mor fuan ar ôl cyhoeddi'r adrodiad ar 12 Rhagfyr 1891 ag oedd modd, tra oedd ysgolion eraill, yn cynnwys un Pen-y-groes, i'w hagor o fewn pum mlynedd.[4]


Cyfeiriadau

  1. Wikipedia, erthygl ar A.H.D. Acland, cyrchwyd 29.4.2019, [1]
  2. J. Graham Jones, "A Lost Prime Minister?", (Journal of Liberal History, Cyf. 43, 2004), t.23, ar gael yma [2]
  3. J. Graham Jones, "Lloyd George and the Carnarvon Boroughs, 1890-95", (Journal of Liberal History, Cyf. 82, Gwanwyn 2014), t.30, ar gael yma [3]
  4. Prys Eifion Owen, "The Beginnings of the County Schools in Caernarvonshire", (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.18, t.101