Huw Lloyd Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:The Hugh Lloyd Edwards memorial tablet on Siop Gron - geograph.org.uk - 711550.jpg|bawd|Cofeb i Huw Lloyd Edwards ar Siop Gron, Llanrug]]
[[Delwedd:The Hugh Lloyd Edwards memorial tablet on Siop Gron - geograph.org.uk - 711550.jpg|bawd|Cofeb i Huw Lloyd Edwards ar Siop Gron, Llanrug]]
Dramodydd Cymreig oedd '''Huw Lloyd Edwards''' (1916-1975), a anwyd yn Siop Gron, Penisa'rwaun. Gyda'i bryd ar fod yn offeiriad Anglicanaidd, fe fynychodd Goleg Llanbedr Pont Steffan a Choleg Mihangel, Llandaf. Yn y pen draw, ni aeth yn offeiriad ac ar ôl cyfnod fel cyfrifydd, hyfforddodd fel athro. Cafodd swydd fel athro Saesneg yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle|Ysgol Uwchradd Pen-y-groes]], lle y dylanwadodd ar nifer o ddisgyblion a aeth yn eu blaen i wneud gyrfa ym myd y ddrama a'r cyfryngau. Ar ôl 15 mlynedd ym Mhen-y-groes, fe'i benodwyd i swydd yn y Coleg Normal, Bangor, lle bu'n ddarlithydd dylanwadol nes iddo farw.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Caerdydd, 1986), t.175</ref>  
Dramodydd Cymreig oedd '''Huw Lloyd Edwards''' (1916-1975), a anwyd yn Siop Gron, Penisa'rwaun. Gyda'i fryd ar fod yn offeiriad Anglicanaidd, fe fynychodd Goleg Llanbedr Pont Steffan a Choleg Mihangel, Llandaf. Yn y pen draw, nid aeth yn offeiriad ac, ar ôl cyfnod fel cyfrifydd, hyfforddodd fel athro. Cafodd swydd fel athro Saesneg yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle|Ysgol Uwchradd Pen-y-groes]], lle dylanwadodd ar nifer o ddisgyblion a aeth yn eu blaenau i gael gyrfa ym myd y ddrama a'r cyfryngau. Ar ôl 15 mlynedd ym Mhen-y-groes, fe'i penodwyd i swydd yn y Coleg Normal, Bangor, lle bu'n ddarlithydd dylanwadol hyd ei farwolaeth.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Caerdydd, 1986), t.175</ref>  


Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn a phoblogaidd eu naws yn y dechrau ond yn waith o sylwedd cynyddol fel y datblygodd ei grefft, gan ennill edmygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama ''Cynfyng-Gyngor'' yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958.
Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn a phoblogaidd eu naws yn y dechrau, ond yn weithiau o sylwedd cynyddol fel y datblygodd ei grefft, gan ennill edmygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama ''Cyfyng-Gyngor'' yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958.


Nododd John Ellis Williams yn ei lyfr  ''Tri Dramaydd Cyfoes'' (sef Saunders Lewis, [[John Gwilym Jones]] a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.'  Dyna a wnaeth yn ei gomedïau ysgafn a'i ddramâu radio a llwyfan.<ref>Wicipedia,''Huw Lloyd Edwards'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Huw_Lloyd_Edwards], a Gwefan BBC Cymru Lleol Gogledd-Orllewin, Medi 2007, [http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/ecor_wyddfa/newyddion/medi07.shtml], cyrchwyd 20.8.2021; </ref>
Nododd John Ellis Williams yn ei lyfr  ''Tri Dramaydd Cyfoes'' (sef Saunders Lewis, [[John Gwilym Jones]] a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.'  Dyna a wnaeth yn ei gomedïau ysgafn a'i ddramâu radio a llwyfan.<ref>Wicipedia,''Huw Lloyd Edwards'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Huw_Lloyd_Edwards], a Gwefan BBC Cymru Lleol Gogledd-Orllewin, Medi 2007, [http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/ecor_wyddfa/newyddion/medi07.shtml], cyrchwyd 20.8.2021; </ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:28, 22 Awst 2021

Cofeb i Huw Lloyd Edwards ar Siop Gron, Llanrug

Dramodydd Cymreig oedd Huw Lloyd Edwards (1916-1975), a anwyd yn Siop Gron, Penisa'rwaun. Gyda'i fryd ar fod yn offeiriad Anglicanaidd, fe fynychodd Goleg Llanbedr Pont Steffan a Choleg Mihangel, Llandaf. Yn y pen draw, nid aeth yn offeiriad ac, ar ôl cyfnod fel cyfrifydd, hyfforddodd fel athro. Cafodd swydd fel athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Pen-y-groes, lle dylanwadodd ar nifer o ddisgyblion a aeth yn eu blaenau i gael gyrfa ym myd y ddrama a'r cyfryngau. Ar ôl 15 mlynedd ym Mhen-y-groes, fe'i penodwyd i swydd yn y Coleg Normal, Bangor, lle bu'n ddarlithydd dylanwadol hyd ei farwolaeth.[1]

Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn a phoblogaidd eu naws yn y dechrau, ond yn weithiau o sylwedd cynyddol fel y datblygodd ei grefft, gan ennill edmygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama Cyfyng-Gyngor yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958.

Nododd John Ellis Williams yn ei lyfr Tri Dramaydd Cyfoes (sef Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.' Dyna a wnaeth yn ei gomedïau ysgafn a'i ddramâu radio a llwyfan.[2]

Dramâu

  • Noson o Lety (drama fer), 1954
  • Y Felin Wynt
  • Llwyn Brain : comedi ysgafn, tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
  • Yr Orffiws : comedi mewn tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
  • Y Gŵr Drwg: comedi, Gwasg Aberystwyth, 1957
  • Cyfyng-Gyngor, Gwasg Aberystwyth, 1958
  • Y Gŵr o Gath-Heffer ac Y Gŵr o Wlad Us, Gwasg Gee, 1961
  • Ar Ddu a Gwyn, Gwasg Gee, Rhagfyr 1963
  • Pros Kairon: Drama mewn tair act,Gwasg Gee, Rhagfyr, 1967
  • Y Llyffantod: Drama mewn pedair golygfa, Gwasg Gee, Rhagfyr, 1973
  • Y Lefiathan : ffantasi mewn pum golygfa, Gwasg Gee, 1977

Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), t.175
  2. Wicipedia,Huw Lloyd Edwards [1], a Gwefan BBC Cymru Lleol Gogledd-Orllewin, Medi 2007, [2], cyrchwyd 20.8.2021;