Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
MarthaEH (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Drws y Coed yn ardal Uwchgwyrfai. {{eginyn}}'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae Drws y Coed yn ardal Uwchgwyrfai.
Mae '''Drws-y-coed''' yn ardal [[Uwchgwyrfai]]. Mae'n dreflan fach ym mhen uchaf [[Dyffryn Nantlle]]. Mae [[Capel Drws-y-coed (A)|capel yr Annibynnwyr]] yno, ac olion [[Gwaith copr Drws-y-coed|gwaith copr]] i'w gweld yn amlwg. Bu ym mhlwyf [[Llandwrog]] ond yn fwy diweddar fe'i symudwyd i gymuned [[Llanllyfni]].
 
Erbyn sefydlu'r capel a rhoi galwad i weinidog, ym 1836, roedd cymuned wedi ymgasglu o gwmpas y gwaith lle gynt nad oedd ond fferm neu ddwy. Yn fuan wedi i'r Parch. [[George Rhydero]] ddod yn weinidog ar yr achos ym 1839, agorodd ei wraig Ann siop yn eu tŷ, Pant-y-gog, ger yr egin bentref.<ref>Gweler yr erthygl ar [[George Rhydero]].</ref>
 
Erbyn hyn, er bod y capel yn dal yn agored, ychydig iawn o bobl sy'n byw yno, gyda'r mwyafrif o'r ychydig dai sy'n dal ar eu traed yn fythynnod gwyliau.


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
[[categori: Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:32, 4 Ebrill 2021

Mae Drws-y-coed yn ardal Uwchgwyrfai. Mae'n dreflan fach ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle. Mae capel yr Annibynnwyr yno, ac olion gwaith copr i'w gweld yn amlwg. Bu ym mhlwyf Llandwrog ond yn fwy diweddar fe'i symudwyd i gymuned Llanllyfni.

Erbyn sefydlu'r capel a rhoi galwad i weinidog, ym 1836, roedd cymuned wedi ymgasglu o gwmpas y gwaith lle gynt nad oedd ond fferm neu ddwy. Yn fuan wedi i'r Parch. George Rhydero ddod yn weinidog ar yr achos ym 1839, agorodd ei wraig Ann siop yn eu tŷ, Pant-y-gog, ger yr egin bentref.[1]

Erbyn hyn, er bod y capel yn dal yn agored, ychydig iawn o bobl sy'n byw yno, gyda'r mwyafrif o'r ychydig dai sy'n dal ar eu traed yn fythynnod gwyliau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gweler yr erthygl ar George Rhydero.