Bwlch Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Bwlch Mawr''' yn fryn ar gyrion [[Uwchgwyrfai]] uwchben [[Bwlchderwin]] a [[Capel Uchaf|Chapel Uchaf]]. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder yn y casgliad o fynyddoedd sydd â'i gopa uchaf a'r [[Y Gurn Ddu|Gurn Ddu]] sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is, sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.
Mae '''Bwlch Mawr''' yn fryn ar gyrion [[Uwchgwyrfai]] uwchben [[Bwlchderwin]] a [[Capel Uchaf|Chapel Uchaf]]. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder ymysg y casgliad o fynyddoedd yn yr ardal; y copa uchaf yw'r [[Gurn Ddu]] sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is), sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.


Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben [[Hengwm]], ceir pant o'r enw [[Y Seler Ddu]], sydd yn darddle [[Afon Dwyfach]].
Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben [[Hengwm]], ceir pant o'r enw [[Y Seler Ddu]], sydd yn darddle [[Afon Dwyfach]].
Llinell 6: Llinell 6:


==Gwaith mwyngloddio==
==Gwaith mwyngloddio==
Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir [[Ystad Glynllifon]] y cyfeiria atynt mewn llythyrau at [[Arglwydd Newborough]] yng nghanol yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25512</ref>; a ryw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25778</ref>
Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir [[Ystad Glynllifon]] y cyfeirir atynt mewn llythyrau at [[Arglwydd Newborough]] yng nghanol yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25512</ref>; a rhyw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25778</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:43, 22 Mawrth 2021

Mae Bwlch Mawr yn fryn ar gyrion Uwchgwyrfai uwchben Bwlchderwin a Chapel Uchaf. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder ymysg y casgliad o fynyddoedd yn yr ardal; y copa uchaf yw'r Gurn Ddu sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is), sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.

Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben Hengwm, ceir pant o'r enw Y Seler Ddu, sydd yn darddle Afon Dwyfach.

Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.

Gwaith mwyngloddio

Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir Ystad Glynllifon y cyfeirir atynt mewn llythyrau at Arglwydd Newborough yng nghanol yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856[1]; a rhyw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/25512
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/25778