Denisa, Arglwyddes Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ail wraig Thomas John, 5ed Arglwydd Newborough oedd '''Denisa Josephine Malpuech''' (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subot...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ail wraig [[Thomas John, 5ed Arglwydd Newborough]] oedd '''Denisa Josephine Malpuech''' (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Priodasodd y ddau ym 1938. Yr oedd hi wedi teithio Ewrop am flynyddoedd. Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch cyn iddynt ysgaru ym 1947, sef yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n ''debutante'' a briododd Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.
[[Delwedd:Llun2.jpg|bawd|de|300px|Clawr llyfr yr Arlwyddes Newborough]]


Roedd Denisa, Arglwyddes Newborough, yn gymeriad allblyg, heb fawr o hualau ymddygiad y dosbarth bonedda fyddai wedi ei rhwystro rhag byw bywyd a ddenodd sylw'r wasg a chymdeithas barchus. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hi hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw ym 1958, ac am unwaith prin yr oedd rhaid i arlunydd clawr yr olygyddiad meddal ymestyn ei ddychymyg wrth greu llun addas! Mae un adolygydd ar wefan Amazon yn canmol y llyfr er yn amau faint o'r cynnwys allai fod yn wir. Honnai yn y llyfr ei bod hi wedi rhedeg i ffwrdd o'i chartref i ymuno asyrcas, ac yr oedd hi wedi bod yn ddawswraig noeth, wedi arfer cerdded gwifrau uchel, wedi gweithio mewn clybiau nos, gan dynnu ei dillad ac yn hedfan awyrennau. Ar ben y cwbl, roedd hi'n enwog am sôn am yr holl bobl fawr a phwysig a oedd wedi bod yn rhan o'i bywyd - yn cynnwys Brenin Sbaen, Mussolini a Hitler. Honnai hefyd ei bod yn siarad 14 o iethoedd - er nad oedd sôn am y Gymraeg.
Ail wraig [[Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough]] oedd '''Denisa Josephine Malpuech''' (1913-1992) (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos), a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Priododd y ddau ym 1938. Roedd hi wedi teithio Ewrop am flynyddoedd. Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch cyn iddynt ysgaru ym 1947, sef yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n ''debutante'' ac a briododd â Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963. Dywedir fodd bynnag fod yr Arglwydd Newborough wedi dechau'r trefniadau i'w hysgaru y noson ar ôl eu priodas (a ddigwyddodd y bore ar ôl iddynt dreulio noson yn chwarae cardiau ym Monte Carlo). Mae'n bur debyg iddi gael llawer o gariadon cefnog ar hyd ei hoes. Ym 2015, gwerthwyd tri darn o'i chasgliad sylweddol o emwaith am bris oeddeutu £25,000, darnau a roddwyd iddi gan ei hedmygwyr. <ref>Gwefan ''Art Daily'', [https://artdaily.cc/news/79435/Fine-jewels-from-the-collection-of-Denisa-Lady-Newborough-to-be-offered-at-Roseberys#.YC_aznkYjcs], cyrchwyd 19.2.2021</ref>


Ymatebodd adolygydd arall (sef "Ampers", newyddiadurwr wedi ymddeol) fodd bynnag, sy'n honni yr oedd yn ei hadnabod yn dda, a bopd y llyfr yn wir i raddau helaeth iawn.  
Roedd Denisa, Arglwyddes Newborough, yn gymeriad allblyg, heb fawr o hualau ymddygiad y dosbarth bonheddig a fyddai wedi ei rhwystro rhag byw bywyd a ddenodd sylw'r wasg a chymdeithas barchus. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw ym 1958, ac am unwaith prin yr oedd rhaid i arlunydd  argraffiad clawr meddal y gyfrol ymestyn ei ddychymyg wrth greu llun addas! Cafodd darnau hir o'r llyfr eu cyhoeddi yn y ''News of the World'' ym 1959. Mae un adolygydd ar wefan Amazon yn canmol y llyfr, er yn amau faint o'r cynnwys allai fod yn wir. Honna Denisa yn y llyfr ei bod wedi rhedeg i ffwrdd o'i chartref i ymuno â syrcas, a dywed iddi fod yn ddawswraig noeth, wedi arfer cerdded gwifrau uchel, wedi gweithio mewn clybiau nos, gan dynnu ei dillad, ac wedi hedfan awyrennau. I goroni'r cyfan, roedd hi'n enwog am sôn am yr holl bobl fawr a phwysig a oedd wedi bod yn rhan o'i bywyd - yn cynnwys Brenin Sbaen, Mussolini a Hitler. Honnai hefyd ei bod yn siarad 14 o ieithoedd - er nad oedd sôn am y Gymraeg.


Bu farw yn 79 oed, wedi ei hen ddiarddel o unrhyw gysylltiad â theulu Newborough. Prin iawn oedd ei hymwneud ag ardal [[Uwchgwyrfai]], ond eto cododd ei gweithredoedd bur chwilfrydedd ymysg ei thrigolion.
Fodd bynnag, ymatebodd adolygydd arall (sef "Ampers", newyddiadurwr wedi ymddeol), sy'n honni iddo ei hadnabod yn dda, gan ddweud bod y llyfr yn wir i raddau helaeth iawn.
 
Ym 1963, cymerodd stondin ym Marchnad Shepherd yn Lundain, a masnachu fel deliwr mewn hen greiriau cain. Bu ganddi siop yn gwerthu hetiau hefyd yn Llundain am gyfnod.<ref>Llun ar wefan Alamy, [https://www.alamy.com/oct-10-1963-the-lady-in-the-market-denisa-the-lady-newborough-50-has-image69407110.html], cyrchwyd 19.2.2021</ref> Bu farw yn 79 oed, wedi ei hen ddiarddel o unrhyw gysylltiad â theulu Newborough. Prin iawn oedd ei hymwneud ag ardal [[Uwchgwyrfai]], ond eto cododd ei gweithredoedd anghonfensiynol gryn chwilfrydedd ymysg ei thrigolion.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:38, 22 Chwefror 2021

Clawr llyfr yr Arlwyddes Newborough

Ail wraig Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough oedd Denisa Josephine Malpuech (1913-1992) (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos), a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Priododd y ddau ym 1938. Roedd hi wedi teithio Ewrop am flynyddoedd. Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch cyn iddynt ysgaru ym 1947, sef yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n debutante ac a briododd â Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963. Dywedir fodd bynnag fod yr Arglwydd Newborough wedi dechau'r trefniadau i'w hysgaru y noson ar ôl eu priodas (a ddigwyddodd y bore ar ôl iddynt dreulio noson yn chwarae cardiau ym Monte Carlo). Mae'n bur debyg iddi gael llawer o gariadon cefnog ar hyd ei hoes. Ym 2015, gwerthwyd tri darn o'i chasgliad sylweddol o emwaith am bris oeddeutu £25,000, darnau a roddwyd iddi gan ei hedmygwyr. [1]

Roedd Denisa, Arglwyddes Newborough, yn gymeriad allblyg, heb fawr o hualau ymddygiad y dosbarth bonheddig a fyddai wedi ei rhwystro rhag byw bywyd a ddenodd sylw'r wasg a chymdeithas barchus. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw ym 1958, ac am unwaith prin yr oedd rhaid i arlunydd argraffiad clawr meddal y gyfrol ymestyn ei ddychymyg wrth greu llun addas! Cafodd darnau hir o'r llyfr eu cyhoeddi yn y News of the World ym 1959. Mae un adolygydd ar wefan Amazon yn canmol y llyfr, er yn amau faint o'r cynnwys allai fod yn wir. Honna Denisa yn y llyfr ei bod wedi rhedeg i ffwrdd o'i chartref i ymuno â syrcas, a dywed iddi fod yn ddawswraig noeth, wedi arfer cerdded gwifrau uchel, wedi gweithio mewn clybiau nos, gan dynnu ei dillad, ac wedi hedfan awyrennau. I goroni'r cyfan, roedd hi'n enwog am sôn am yr holl bobl fawr a phwysig a oedd wedi bod yn rhan o'i bywyd - yn cynnwys Brenin Sbaen, Mussolini a Hitler. Honnai hefyd ei bod yn siarad 14 o ieithoedd - er nad oedd sôn am y Gymraeg.

Fodd bynnag, ymatebodd adolygydd arall (sef "Ampers", newyddiadurwr wedi ymddeol), sy'n honni iddo ei hadnabod yn dda, gan ddweud bod y llyfr yn wir i raddau helaeth iawn.

Ym 1963, cymerodd stondin ym Marchnad Shepherd yn Lundain, a masnachu fel deliwr mewn hen greiriau cain. Bu ganddi siop yn gwerthu hetiau hefyd yn Llundain am gyfnod.[2] Bu farw yn 79 oed, wedi ei hen ddiarddel o unrhyw gysylltiad â theulu Newborough. Prin iawn oedd ei hymwneud ag ardal Uwchgwyrfai, ond eto cododd ei gweithredoedd anghonfensiynol gryn chwilfrydedd ymysg ei thrigolion.


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Art Daily, [1], cyrchwyd 19.2.2021
  2. Llun ar wefan Alamy, [2], cyrchwyd 19.2.2021