Hen Ffolt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif yr '''Hen Ffolt''' ar ben allt-môr [[Y Gorllwyn]] yn [[Trefor|Nhrefor]], rhwng gwaelod Tomen Fawr y Farchas a'r traeth caregog islaw, mewn man a elwir Pant y Farchas, gyda rhan ohoni bellach wedi diflannu i'r môr trwy erydiad y blynyddoedd. Roedd yma, yn y ddeunawfed ganrif a hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorlan defaid a cheffylau perthynol i fferm Nant Bach gerllaw. Roedd yn ardal bur anghysbell bryd hynny, fel y mae heddiw. | Saif yr '''Hen Ffolt''' ar ben allt-môr [[Y Gorllwyn]] yn [[Trefor|Nhrefor]], rhwng gwaelod Tomen Fawr [[Chwarel Craig y Farchas, Trefor|y Farchas]] a'r traeth caregog islaw, mewn man a elwir Pant y Farchas, gyda rhan ohoni bellach wedi diflannu i'r môr trwy erydiad y blynyddoedd. Roedd yma, yn y ddeunawfed ganrif a hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorlan defaid a cheffylau perthynol i fferm Nant Bach gerllaw. Roedd yn ardal bur anghysbell bryd hynny, fel y mae heddiw. | ||
Tua 1844 dechreuodd dau neu dri o griwiau bychain wneud [[Setiau|setiau]] o'r cerrig ithfaen mawrion oedd wedi eu gwasgaru ger tir yr Hen Ffolt. Cerrig rhyddion oedd y rhain oedd yn dystiolaeth i'r miliynau tunelli a gludwyd gan y rhewlifoedd oes a fu. Roeddent yn gerrig o ansawdd neilltuol, yn berffaith ar gyfer gwneud cerrig palmantu (setiau). Hyn, mewn gwirionedd, oedd y cychwyn cyntaf un i [[Chwarel yr Eifl]] ddaeth, yn ei hawr anterth, y chwarel setiau ithfaen fwyaf o'i bath yn y byd, ac yn cyflogi dros fil o ddynion. | Tua 1844 dechreuodd dau neu dri o griwiau bychain wneud [[Setiau|setiau]] o'r cerrig ithfaen mawrion oedd wedi eu gwasgaru ger tir yr Hen Ffolt. Cerrig rhyddion oedd y rhain oedd yn dystiolaeth i'r miliynau tunelli a gludwyd gan y rhewlifoedd oes a fu. Roeddent yn gerrig o ansawdd neilltuol, yn berffaith ar gyfer gwneud cerrig palmantu (setiau). Hyn, mewn gwirionedd, oedd y cychwyn cyntaf un i [[Chwarel yr Eifl]] ddaeth, yn ei hawr anterth, y chwarel setiau ithfaen fwyaf o'i bath yn y byd, ac yn cyflogi dros fil o ddynion. | ||
Ceir cyfeiriad gan [[Samuel Holland]] yn ei 'Memoirs' at y gwaith setiau yn yr Hen Ffolt, ac fel y daeth [[Trefor Jones]] drosodd o Chwarel y Gwylwyr i gymryd trosodd yr awennau yno tua'r flwyddyn 1850, wedi i [[John Hutton]], [[William Caldwell Roscoe]] a'i wraig, Emily Sophia Roscoe, ei brynu. Enw'r cwmni a weithiai ar gerrig yr Hen Ffolt oedd y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] (''Welsh Granite Company''), a rŵan dyma'i uno â Chwmni'r Gwylwyr a Thŷ Mawr (Pistyll). | |||
Ond pwy, tybed, oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig oedd yn cloddio yno yn ystod y chwe blynedd '''cyn''' 1850? Gwyddom i'r gweithfeydd setiau bychain ddod yno ym 1844 gan fod cofnod arbennig o hynny mewn dogfen ddyddiedig 1845. Ym Mhrospectws y ''North Western Railway'' (a obeithiai gael rheilffordd o Fangor i Bortin-llaen, a chreu porthladd mawr yno i gysylltu gwledydd Prydain ag Iwerddon) cyfeiriwyd yn benodol at "''the valuable stone quarries at [[Yr Eifl|the Rivals]], recently opened by a Liverpool Company''". | |||
Pennaeth y Cwmni oedd gŵr a adnabyddid fel y "Sais Mawr". Ar y 26ain o Fawrth, 1844, rhoddodd Lefftenant Cyrnol Thomas Peers-Williams, Aelod Seneddol Great Barlow yn Berkshire, sgweier Craig-y-don, Llangoed, Môn, brydles deng mlynedd i un [[John Heyden]], gŵr busnes o Lerpwl, yn rhoi hawl iddo gloddio mwynau ar ei dir yn [[Y Gorllwyn]]. Roedd swyddfa Heyden yn 60 Duke Street, Lerpwl, a fo, heb os, oedd y "Sais Mawr". | |||
Cwsmer pwysig cyntaf Heyden oedd Pwyllgor Palmantu Corfforaeth Manceinion. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, ar y 14eg o Orffennaf 1863, byddai'r Pwyllgor hwn yn anfon tystlythyr dros y Cwmni Ithfaen Cymreig yn canmol i'r cymylau safon y cerrig, hyd yn oed wedi pedair blynedd ar bymtheg a chwarter o ddefnydd trwm. Felly, roedd cerrig palmantu'r Eifl wedi cael eu gosod ar strydoedd Manceinion mor belled yn ôl â mis Ebrill 1844. Dyna gadarnhau ddyddiad cychwyn gweithgareddau y Cwmni Ithfaen Cymreig yn yr Hen Ffolt. Daeth y Gwaith ar werth rywbryd tua 1849-50. Cynigiodd Hutton, Gwaith y Gwylwyr, amdano, ac wedi peth bargeinio, gwerthodd Heyden y brydles iddo, prydles oedd i bara tan Mawrth 1854. | |||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | ||
[[Categori:Chwareli ithfaen]] | [[Categori:Chwareli ithfaen]] | ||
[[Categori:Safleoedd | [[Categori:Safleoedd nodedig]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:19, 5 Chwefror 2021
Saif yr Hen Ffolt ar ben allt-môr Y Gorllwyn yn Nhrefor, rhwng gwaelod Tomen Fawr y Farchas a'r traeth caregog islaw, mewn man a elwir Pant y Farchas, gyda rhan ohoni bellach wedi diflannu i'r môr trwy erydiad y blynyddoedd. Roedd yma, yn y ddeunawfed ganrif a hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorlan defaid a cheffylau perthynol i fferm Nant Bach gerllaw. Roedd yn ardal bur anghysbell bryd hynny, fel y mae heddiw.
Tua 1844 dechreuodd dau neu dri o griwiau bychain wneud setiau o'r cerrig ithfaen mawrion oedd wedi eu gwasgaru ger tir yr Hen Ffolt. Cerrig rhyddion oedd y rhain oedd yn dystiolaeth i'r miliynau tunelli a gludwyd gan y rhewlifoedd oes a fu. Roeddent yn gerrig o ansawdd neilltuol, yn berffaith ar gyfer gwneud cerrig palmantu (setiau). Hyn, mewn gwirionedd, oedd y cychwyn cyntaf un i Chwarel yr Eifl ddaeth, yn ei hawr anterth, y chwarel setiau ithfaen fwyaf o'i bath yn y byd, ac yn cyflogi dros fil o ddynion.
Ceir cyfeiriad gan Samuel Holland yn ei 'Memoirs' at y gwaith setiau yn yr Hen Ffolt, ac fel y daeth Trefor Jones drosodd o Chwarel y Gwylwyr i gymryd trosodd yr awennau yno tua'r flwyddyn 1850, wedi i John Hutton, William Caldwell Roscoe a'i wraig, Emily Sophia Roscoe, ei brynu. Enw'r cwmni a weithiai ar gerrig yr Hen Ffolt oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company), a rŵan dyma'i uno â Chwmni'r Gwylwyr a Thŷ Mawr (Pistyll).
Ond pwy, tybed, oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig oedd yn cloddio yno yn ystod y chwe blynedd cyn 1850? Gwyddom i'r gweithfeydd setiau bychain ddod yno ym 1844 gan fod cofnod arbennig o hynny mewn dogfen ddyddiedig 1845. Ym Mhrospectws y North Western Railway (a obeithiai gael rheilffordd o Fangor i Bortin-llaen, a chreu porthladd mawr yno i gysylltu gwledydd Prydain ag Iwerddon) cyfeiriwyd yn benodol at "the valuable stone quarries at the Rivals, recently opened by a Liverpool Company".
Pennaeth y Cwmni oedd gŵr a adnabyddid fel y "Sais Mawr". Ar y 26ain o Fawrth, 1844, rhoddodd Lefftenant Cyrnol Thomas Peers-Williams, Aelod Seneddol Great Barlow yn Berkshire, sgweier Craig-y-don, Llangoed, Môn, brydles deng mlynedd i un John Heyden, gŵr busnes o Lerpwl, yn rhoi hawl iddo gloddio mwynau ar ei dir yn Y Gorllwyn. Roedd swyddfa Heyden yn 60 Duke Street, Lerpwl, a fo, heb os, oedd y "Sais Mawr".
Cwsmer pwysig cyntaf Heyden oedd Pwyllgor Palmantu Corfforaeth Manceinion. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, ar y 14eg o Orffennaf 1863, byddai'r Pwyllgor hwn yn anfon tystlythyr dros y Cwmni Ithfaen Cymreig yn canmol i'r cymylau safon y cerrig, hyd yn oed wedi pedair blynedd ar bymtheg a chwarter o ddefnydd trwm. Felly, roedd cerrig palmantu'r Eifl wedi cael eu gosod ar strydoedd Manceinion mor belled yn ôl â mis Ebrill 1844. Dyna gadarnhau ddyddiad cychwyn gweithgareddau y Cwmni Ithfaen Cymreig yn yr Hen Ffolt. Daeth y Gwaith ar werth rywbryd tua 1849-50. Cynigiodd Hutton, Gwaith y Gwylwyr, amdano, ac wedi peth bargeinio, gwerthodd Heyden y brydles iddo, prydles oedd i bara tan Mawrth 1854.