Ffeiriau Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'r ffeiriau a gynhelid mewn amryw o bentrefi gwledig Cymru bellach yn rhan o'r gorffennol i bob pwrpas gyda dim ond dyrnaid ohonynt wedi goroesi. Yr un...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae'r ffeiriau a gynhelid mewn amryw o bentrefi gwledig Cymru bellach yn rhan o'r gorffennol i bob pwrpas gyda dim ond dyrnaid ohonynt wedi goroesi. Yr unig un sydd wedi parhau o fewn ffiniau cwmwd Uwchgwyrfai yw Ffair Llanllyfni, a gynhelir ar y 6<sup>ed</sup> o Orffennaf. Ond ar un adeg roedd yna ffeiriau mewn nifer o fannau eraill o fewn y cwmwd, a Chlynnog Fawr yn eu plith. Cynhelid rhai o'r ffeiriau hyn i gyd-fynd â gwyliau mabsant - sef dydd dathlu sant arbennig y pentref neu'r plwyf dan sylw. Roedd eraill yn gysylltiedig â saint ehangach eu hapêl fel petae, megis Ffair Gŵyl Ifan a gynhelir o hyd yng Nghricieth ar 29 Mehefin. Fodd bynnag, ffeiriau pen tymor oedd llawer ohonynt ac fe'u cynhelid ddwywaith y flwyddyn fel rheol, sef oddeutu 10/11 Mai a 10/11 Tachwedd pan oedd tymor gweision a morynion ar ffermydd yn dod i ben a nifer ohonynt eisiau ail-gyflogi yn rhywle arall - yn enwedig os nad oedd y fferm roeddent ynddi ar y pryd yn plesio. Yn ogystal â chyflogi roedd yna brynu a gwerthu anifeiliaid hefyd yn y ffeiriau hyn, a hefyd stondinau'n gwerthu cynnyrch fel menyn, caws ac wyau a chelfi defnyddiol at ddefnydd ffermydd, fel potiau llaeth a chribiniau. Fel diwrnod prin o ŵyl roedd edrych ymlaen eithriadol at y ffeiriau hyn, ac yn aml byddai pethau'n mynd dros ben llestri gyda gor-yfed ac ymladdfeydd. | Mae'r '''ffeiriau''' a gynhelid mewn amryw o bentrefi gwledig Cymru bellach yn rhan o'r gorffennol i bob pwrpas gyda dim ond dyrnaid ohonynt wedi goroesi. Yr unig un sydd wedi parhau o fewn ffiniau cwmwd [[Uwchgwyrfai]] yw [[Ffair Llanllyfni]], a gynhelir ar y 6<sup>ed</sup> o Orffennaf. Ond ar un adeg roedd yna ffeiriau mewn nifer o fannau eraill o fewn y cwmwd, a [[Clynnog Fawr|Chlynnog Fawr]] yn eu plith. Cynhelid rhai o'r ffeiriau hyn i gyd-fynd â gwyliau mabsant - sef dydd dathlu sant arbennig y pentref neu'r plwyf dan sylw. Roedd eraill yn gysylltiedig â saint ehangach eu hapêl fel petae, megis Ffair Gŵyl Ifan a gynhelir o hyd yng Nghricieth ar 29 Mehefin. Fodd bynnag, ffeiriau pen tymor oedd llawer ohonynt ac fe'u cynhelid ddwywaith y flwyddyn fel rheol, sef oddeutu 10/11 Mai a 10/11 Tachwedd pan oedd tymor gweision a morynion ar ffermydd yn dod i ben a nifer ohonynt eisiau ail-gyflogi yn rhywle arall - yn enwedig os nad oedd y fferm roeddent ynddi ar y pryd yn plesio. Yn ogystal â chyflogi roedd yna brynu a gwerthu anifeiliaid hefyd yn y ffeiriau hyn, a hefyd stondinau'n gwerthu cynnyrch fel menyn, caws ac wyau a chelfi defnyddiol at ddefnydd ffermydd, fel potiau llaeth a chribiniau. Fel diwrnod prin o ŵyl roedd edrych ymlaen eithriadol at y ffeiriau hyn, ac yn aml byddai pethau'n mynd dros ben llestri gyda gor-yfed ac ymladdfeydd. | ||
Cynhelid ffeiriau Clynnog ar y 6<sup>ed</sup> o Fai a'r 6<sup>ed</sup> o Dachwedd fel rheol (ond byddai'r dyddiad yn amrywio ychydig os byddai'r 6<sup>ed</sup> yn digwydd bod yn Sul). Roedd y ffeiriau hyn felly'n cael eu cynnal rhyw wythnos cyn y ffeiriau cyflogi pentymor traddodiadol. Yn nyddiaduron Ebenezer Thomas (Eben Fardd), a fu'n byw yng Nghlynnog o 1827 tan ei farw ym 1863, ceir nifer o gyfeiriadau at ffeiriau Clynnog, ac er nad yw, gwaetha'r modd, yn rhoi llawer iawn o fanylion i ni am y ffeiriau, eto mae ei gofnodion yn rhan bwysig o hanes y digwyddiadau hynny. Nid yw Eben yn sôn yn unman am gyflogi gweision a morynion yn ffeiriau Clynnog, ac o weld eu bod yn cael eu cynnal cyn y pentymor arferol, mae'n debyg nad oeddent yn ffeiriau cyflogi fel y cyfryw. Fodd bynnag, yn ôl ei dystiolaeth fe roedd yna gryn dipyn o fasnachu'n digwydd, a chan ei fod ef a Mary, ei wraig, yn cadw siop yn y pentref, ymysg goruchwylion eraill, roeddent yn brysur iawn yn aml ar ddyddiau ffair fel y tystia. Dywed iddynt gael llawer o gwsmeriaid ar 6 Mai 1835, er enghraifft, ac ar 6 Tachwedd 1838, er ei bod yn lawog iawn, cafwyd ffair eithriadol brysur a mynd ar y siop drwy'r dydd. Dywed fod llawer iawn o berthnasau a ffrindiau hefyd yn galw i'w gweld fel teulu ar ddyddiau ffair. Roedd Eben Fardd yn bur hoff o'r ddiod, er gwaethaf sawl ymgais i gadw oddi wrthi, ac roedd y ffeiriau hyn yn gyfle'n aml iddo droi am dafarn Y Plas (Gwesty'r Beuno yn ddiweddarach) i fwynhau peint neu ddau (neu rywbeth cryfach) gyda ffrindiau. Eto'i gyd, nid oedd yn brin o gwyno am y meddwi a'r ymrafaelio a welid weithiau yng Nghlynnog ar ddiwrnod ffair. Yn Saesneg y cadwai ei ddyddiaduron ac ar 6 Tachwedd 1839 cofnoda fel a ganlyn | Cynhelid ffeiriau Clynnog ar y 6<sup>ed</sup> o Fai a'r 6<sup>ed</sup> o Dachwedd fel rheol (ond byddai'r dyddiad yn amrywio ychydig os byddai'r 6<sup>ed</sup> yn digwydd bod yn Sul). Roedd y ffeiriau hyn felly'n cael eu cynnal rhyw wythnos cyn y ffeiriau cyflogi pentymor traddodiadol. Yn nyddiaduron [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], a fu'n byw yng Nghlynnog o 1827 tan ei farw ym 1863, ceir nifer o gyfeiriadau at ffeiriau Clynnog, ac er nad yw, gwaetha'r modd, yn rhoi llawer iawn o fanylion i ni am y ffeiriau, eto mae ei gofnodion yn rhan bwysig o hanes y digwyddiadau hynny. Nid yw Eben yn sôn yn unman am gyflogi gweision a morynion yn ffeiriau Clynnog, ac o weld eu bod yn cael eu cynnal cyn y pentymor arferol, mae'n debyg nad oeddent yn ffeiriau cyflogi fel y cyfryw. Fodd bynnag, yn ôl ei dystiolaeth fe roedd yna gryn dipyn o fasnachu'n digwydd, a chan ei fod ef a Mary, ei wraig, yn cadw siop yn y pentref, ymysg goruchwylion eraill, roeddent yn brysur iawn yn aml ar ddyddiau ffair fel y tystia. Dywed iddynt gael llawer o gwsmeriaid ar 6 Mai 1835, er enghraifft, ac ar 6 Tachwedd 1838, er ei bod yn lawog iawn, cafwyd ffair eithriadol brysur a mynd ar y siop drwy'r dydd. Dywed fod llawer iawn o berthnasau a ffrindiau hefyd yn galw i'w gweld fel teulu ar ddyddiau ffair. Roedd Eben Fardd yn bur hoff o'r ddiod, er gwaethaf sawl ymgais i gadw oddi wrthi, ac roedd y ffeiriau hyn yn gyfle'n aml iddo droi am dafarn Y Plas ([[Gwesty'r Beuno]] yn ddiweddarach) i fwynhau peint neu ddau (neu rywbeth cryfach) gyda ffrindiau. Eto'i gyd, nid oedd yn brin o gwyno am y meddwi a'r ymrafaelio a welid weithiau yng Nghlynnog ar ddiwrnod ffair. Yn Saesneg y cadwai ei ddyddiaduron ac ar 6 Tachwedd 1839 cofnoda fel a ganlyn: | ||
''"Drunkenness today showed itself at Clynnog in its most cursed and abominable effects"''. | |||
Mae'n amlwg fod pethau'n waeth fyth yno chwe mis yn ddiweddarach ar 8 Mai 1840 gan y dywed y bu yno | |||
''"A great riot and drinking, a fight in the Llan"''. | |||
Tybed a oedd hyn yn cyfeirio at ymladdfa yn y fynwent ei hun? Ond cafwyd digwyddiad tra gwahanol ar 6 Tachwedd 1837, oherwydd cofnoda Eben fod gorymdaith ddirwest wedi mynd drwy'r pentref tua 5pm ar ei ffordd i gyfarfod yng [[Capel Seion (MC), Gurn Goch|nghapel Seion, Gurn Goch]]. Roedd baner yn cyhwfan o flaen yr orymdaith ac roeddent wrth gerdded yn canu emyn dirwest o waith Eben ei hun. Mae'r cyfeiriadau at ffeiriau Clynnog yn nyddiaduron Eben Fardd yn dod i ben yn y 1840au gwaetha'r modd gan fod cynnwys ei ddyddiaduron yn gyffredinol yn prinhau o hynny ymlaen at ddiwedd ei oes.<ref>Am wybodaeth bellach o ddyddiaduron Eben Fardd, gweler: ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'', golygwyd gan E.G. Millward, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).</ref> | |||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Ffeiriau]] | |||
[[Categori:Diwydiant a Masnach]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:54, 20 Ionawr 2021
Mae'r ffeiriau a gynhelid mewn amryw o bentrefi gwledig Cymru bellach yn rhan o'r gorffennol i bob pwrpas gyda dim ond dyrnaid ohonynt wedi goroesi. Yr unig un sydd wedi parhau o fewn ffiniau cwmwd Uwchgwyrfai yw Ffair Llanllyfni, a gynhelir ar y 6ed o Orffennaf. Ond ar un adeg roedd yna ffeiriau mewn nifer o fannau eraill o fewn y cwmwd, a Chlynnog Fawr yn eu plith. Cynhelid rhai o'r ffeiriau hyn i gyd-fynd â gwyliau mabsant - sef dydd dathlu sant arbennig y pentref neu'r plwyf dan sylw. Roedd eraill yn gysylltiedig â saint ehangach eu hapêl fel petae, megis Ffair Gŵyl Ifan a gynhelir o hyd yng Nghricieth ar 29 Mehefin. Fodd bynnag, ffeiriau pen tymor oedd llawer ohonynt ac fe'u cynhelid ddwywaith y flwyddyn fel rheol, sef oddeutu 10/11 Mai a 10/11 Tachwedd pan oedd tymor gweision a morynion ar ffermydd yn dod i ben a nifer ohonynt eisiau ail-gyflogi yn rhywle arall - yn enwedig os nad oedd y fferm roeddent ynddi ar y pryd yn plesio. Yn ogystal â chyflogi roedd yna brynu a gwerthu anifeiliaid hefyd yn y ffeiriau hyn, a hefyd stondinau'n gwerthu cynnyrch fel menyn, caws ac wyau a chelfi defnyddiol at ddefnydd ffermydd, fel potiau llaeth a chribiniau. Fel diwrnod prin o ŵyl roedd edrych ymlaen eithriadol at y ffeiriau hyn, ac yn aml byddai pethau'n mynd dros ben llestri gyda gor-yfed ac ymladdfeydd.
Cynhelid ffeiriau Clynnog ar y 6ed o Fai a'r 6ed o Dachwedd fel rheol (ond byddai'r dyddiad yn amrywio ychydig os byddai'r 6ed yn digwydd bod yn Sul). Roedd y ffeiriau hyn felly'n cael eu cynnal rhyw wythnos cyn y ffeiriau cyflogi pentymor traddodiadol. Yn nyddiaduron Ebenezer Thomas (Eben Fardd), a fu'n byw yng Nghlynnog o 1827 tan ei farw ym 1863, ceir nifer o gyfeiriadau at ffeiriau Clynnog, ac er nad yw, gwaetha'r modd, yn rhoi llawer iawn o fanylion i ni am y ffeiriau, eto mae ei gofnodion yn rhan bwysig o hanes y digwyddiadau hynny. Nid yw Eben yn sôn yn unman am gyflogi gweision a morynion yn ffeiriau Clynnog, ac o weld eu bod yn cael eu cynnal cyn y pentymor arferol, mae'n debyg nad oeddent yn ffeiriau cyflogi fel y cyfryw. Fodd bynnag, yn ôl ei dystiolaeth fe roedd yna gryn dipyn o fasnachu'n digwydd, a chan ei fod ef a Mary, ei wraig, yn cadw siop yn y pentref, ymysg goruchwylion eraill, roeddent yn brysur iawn yn aml ar ddyddiau ffair fel y tystia. Dywed iddynt gael llawer o gwsmeriaid ar 6 Mai 1835, er enghraifft, ac ar 6 Tachwedd 1838, er ei bod yn lawog iawn, cafwyd ffair eithriadol brysur a mynd ar y siop drwy'r dydd. Dywed fod llawer iawn o berthnasau a ffrindiau hefyd yn galw i'w gweld fel teulu ar ddyddiau ffair. Roedd Eben Fardd yn bur hoff o'r ddiod, er gwaethaf sawl ymgais i gadw oddi wrthi, ac roedd y ffeiriau hyn yn gyfle'n aml iddo droi am dafarn Y Plas (Gwesty'r Beuno yn ddiweddarach) i fwynhau peint neu ddau (neu rywbeth cryfach) gyda ffrindiau. Eto'i gyd, nid oedd yn brin o gwyno am y meddwi a'r ymrafaelio a welid weithiau yng Nghlynnog ar ddiwrnod ffair. Yn Saesneg y cadwai ei ddyddiaduron ac ar 6 Tachwedd 1839 cofnoda fel a ganlyn:
"Drunkenness today showed itself at Clynnog in its most cursed and abominable effects".
Mae'n amlwg fod pethau'n waeth fyth yno chwe mis yn ddiweddarach ar 8 Mai 1840 gan y dywed y bu yno
"A great riot and drinking, a fight in the Llan".
Tybed a oedd hyn yn cyfeirio at ymladdfa yn y fynwent ei hun? Ond cafwyd digwyddiad tra gwahanol ar 6 Tachwedd 1837, oherwydd cofnoda Eben fod gorymdaith ddirwest wedi mynd drwy'r pentref tua 5pm ar ei ffordd i gyfarfod yng nghapel Seion, Gurn Goch. Roedd baner yn cyhwfan o flaen yr orymdaith ac roeddent wrth gerdded yn canu emyn dirwest o waith Eben ei hun. Mae'r cyfeiriadau at ffeiriau Clynnog yn nyddiaduron Eben Fardd yn dod i ben yn y 1840au gwaetha'r modd gan fod cynnwys ei ddyddiaduron yn gyffredinol yn prinhau o hynny ymlaen at ddiwedd ei oes.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Am wybodaeth bellach o ddyddiaduron Eben Fardd, gweler: Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, golygwyd gan E.G. Millward, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).