Dinlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 15 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Dinlle''' oedd enw'r drefgordd (neu raniad daearyddol gweinyddol) a gynhwysai rhannau helaeth o blwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]]. Hyd at ddiwedd y 1600au roedd yn  arferol i ddogfennau gyfeirio at 'Dinlle' yn hytrach nag enw'r plwyf.<ref>''Welsh Administrative and Territorial Units'', Melville Richards (University of Wales Press) 1969 </ref>
'''Dinlle''' oedd enw trefgordd fwyaf [[Uwchgwyrfai]].


Rhestrwyd eiddo, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd  mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn ''Record of Carnarvon''. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.  
==Yr ardal yn ddaearyddol==
'''Dinlle''' oedd enw'r drefgordd (neu raniad daearyddol gweinyddol) a gynhwysai rhannau helaeth o blwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]]. (Trefgorddi eraill a orweddai yn ardal y plwyfi hynny oedd [[Bodellog]], [[Llanwnda (trefgordd)|Llanwnda]] a [[Rhedynog Felen]]). Hyd at ddiwedd y 1600au roedd yn  arferol i ddogfennau gyfeirio at 'Dinlle' yn hytrach nag enw'r plwyf.<ref>''Welsh Administrative and Territorial Units'', Melville Richards (University of Wales Press) 1969 </ref> Hefyd fe nododd [[W. Gilbert Williams]] fod un rhan o ddeg o Wely Wyrion Iorwerth y tu hwnt i ffiniau Uwchgwyrfai, sef yn nhrefgordd Treflan, neu (yn ôl enwau heddiw) y Waun-fawr, tra oedd y naw rhan o ddeg arall o fewn ffiniau Uwchgwyrfai.<ref>W.Gilbert Williams, ''Arfon y Dydiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), 118-19.</ref> Roedd pedwar gwely arall a orweddai'n bennaf yn [[Isgwyrfai]], sef Gwely Cynwrig ap Tregir, Gwely Pyll ap tregir, Gwely Ednowain ap Tregir a Gwely Cyfnmerth ap Tregir, ond oedd â rhywfaint o dir o fewn ffiniau Dinlle yng ngwmwd [[Uwchgwyrfai]], a achosai rywfaint o ddryswch ym mha gwmwd yr oedd gofyn i ddeiliaid y gwelyau hyn dalu eu trethi.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838), tt.24-5</ref> Dichon mai yn Nyffryn Gwyrfai y gorweddai'r holl welyau hyn a ymestynnodd i mewn i Uwchgwyrfai.


Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wyskyed; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.<ref>''Record of Carnarvon'', tt.22-4.</ref>
Mae'n amlwg fod rhaniad y drefgordd yn welyau yn weddol newydd, efallai rhyw dair neu bedair genhedlaeth cyn dyddiad Stent 1352 lle ceir yr enwau eu cofnodi. Yr oedd Rhawd ac Ystrwyth yn frodyr, ac yn neiaint i Forgeneu. Roeddent hefyd yn gefndryd i dad Iorwerth Wisgi a thad Cynwrig, Pyll, Ednowain a Chyfnerth.<ref>Dafydd Jenkins, ''Cyfraith Hywel'' (Llandysul, 1970), t.58</ref> Dichon felly fod y drefgordd yn naliadaeth un arglwydd neu uchelwr dan y Tywysogion tua 1250.


{{eginyn}}
==Disgrifiad o'r drefgordd yn y ''Record of Caernarvon''==
Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd  mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn ''Record of Carnarvon''. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.
 
Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wisgiaid; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.<ref>''Record of Carnarvon'', tt.22-4.</ref>
 
===Cyfieithiad===
Dyma gyfieithiad eithaf rydd o adran Stent 1352 sydd yn ymwneud â threfgordd Dinlle.
 
<big>'''DINLLE'''</big>
 
Mae yn y drefgordd hon saith gwely o dir rhydd a elwir yn '''Gwely Wyrion Einion, Gwely Wyrion Morgeneu, Gwely Wyrion Rhawd, Gwely Wyrion Ystrwyth, Gwely Wisgiaid, Gwely Hebogothion''' a '''Gwely Bowynied'''.
 
Ac mae Llywelyn ap Ednyfed Gronw ap Tudur ac eraill yn etifeddion '''Gwely Wyrion Einion''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 1c.
Cyfanswm blynyddol: 24s. 4c.
Ac mae ganddynt dair felin a elwir Melin Gafelog, Melin Meredydd a Melin Ednyfed. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
 
A Hywel ap Iorwerth, Eden ap Einion ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Morgeneu''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 6½c.
Cyfanswm blynyddol: 42s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae gan denantiaid y gwely hwn eu melin eu hunain a elwir Melin Heilin ac mae’r rhain â dyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Y maent yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
A Rhys Mynyth, Cad’ ap Rhys ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Rhawd''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 3s. 7c.
Cyfanswm blynyddol: 14s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud bod ganddynt eu melin eu hunain a elwir Melin Madog, a rhai’n dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
A Tudur Goch ap Gronw, Ieuan ap Griffith Fychan ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Ystrwyth''' uchod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 45s. 2c.
Ac mae ar bawb o’r Gwely hwn ddyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae chwe bufedd o dir siêd yn ôl amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Morgant sydd yn awr yn nwylo Tudur Goch trwy siartr ein harglwydd Tywysog presennol. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14c. sy’n cynwysedig yn y taliad dywededig o 11s. 3½c. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 12c.
Cyfanswm blynyddol: 12c.
 
A Heilin ap Ednyfed, Gronw ap Ednyfed, Gronw a Rhys meibion Iorwerth Crach ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Wisgiaid'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 7s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 29s. 11c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae rhai yn dweud fod y Gwely hwn yn rhydd o [fynychu] melin yr Arglwydd  ac eraill yn cadw rhag gwneud a.y.b. Ac y mae yn y dywededig Wely Wisgied dwy fufedd a hanner o dir siêd a ddaeth oddi wrth Heilin ap Cad’ sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid talu 3½c. bob tymor fel rhan o daliad uchod y Gwely. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 5c.
Cyfanswm blynyddol: 5c. [sic]
A Tegwared Goch, Hywel ap Ieuan ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Hebogothion'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 4s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 19s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud eu bod yn rhydd i fynychu unrhyw felin o gwbl yn ôl eu dewis a.y.b. a rhai yn dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
Ac yn y gwely uchod a elwir '''Gwely [Wyrion] Ystrwyth''' y mae parsel o tir siêd a ddaeth oddi wrth Gronw Henseil sydd yn cynnwys chwe firgat o dir yn ôl yr amcangyfrif ac sydd yn nwylo’r arglwydd wedi i’r tenant hwnnw eu gadael i orwedd yn fraenar ers dwy flynedd. Ac arferid talu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor 7c. A gynhwysid yn y taliad uchod o 4s. 10¼c. Ac yn y gwely hwnnw y mae chwe firgat o tir siêd yn ôl yr amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Ieuan Kenny ac sydd yn nwylo’r arglwydd am y rheswm uchod. Ac y mae yn y gwely hwnnw hanner bufedd o dir yn ôl yr amcangyfrif sydd yn tir siêd a ddaeth oddi wrth Meurig ap Philip ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac y mae’r tiroedd uchod a.y.b.
 
A Ieuan ap Griffith ap Bleddyn, Ieuan ap Gwilym Du ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Bodwyniod'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 11s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd gan nad oes ganddynt felin yn y Cwmwd dan sylw. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b.
 
Ac yn y drefgordd hwn y mae naw rhan o wely a elwir '''Gwely Wyrion Iorwerth''' sydd â degfed rhan ohoni yn Isgwyrfai fel sydd yn cael ei ddangos dan drefgordd Treflan. A Griffith ap Madog, Ieuan ap Llywelyn ac eraill yw etifeddion ohono. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 21s. 2c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac o fewn y naw ran o ddeg o’r gwely hwn yn mae un fufedd o tir siêd a gafwyd oddi wrth Tegwared Goch Bastard sydd yn awr gan Tegwared Moel. Ac fe delir 2c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac y mae yn y naw rhan o’r gwely hwn hanner bufedd o dir siêd o dir a ddaeth oddi wrth Griffith ap Cyfnerth sydd gan Tegwared uchod yn yr un ffordd. Ac fe delir 1c. ym mhob un o’r pedwar tymor a sydd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae trydedd ran o wely a elwir yn '''Gwely Cynwrig ap Tregir''' yn y drefgordd hon. Ac etifeddion hwnnw yw Dafydd Fychan a Ieuan a Hywel ei frodyr ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 6c.
Cyfanswm blynyddol: 2s. 0½c.
a’r dimai hwnnw’n cael ei gynnwys yn nhaliadau’r gwely hwn gan nad oes modd ei rannu’n bedwar. Telir hwn a.y.b. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd yn y Cwmwd hwn ac yng Nghwmwd Isgwyrfai. Ac maent â dyletswydd mynychu melin yr arglwydd isod yn y Cwmwd hwn.
 
Ac yn yr un drefgordd y mae pumed ran o wely a elwir yn '''Gwely Pyll ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Einion ap Tudur, Gwerfyl ferch Gwenllian ferch Hywel ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9c.
Cyfanswm blynyddol: 3s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin Arglwydd y Tywysog o fewn y Cwmwd hwn. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae o fewn y dywededig bumed ran o’r Gwely hwnnw dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Tegwared ap Adda Goch. Ac mae’r rhain yn dal yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid yn y gorffennol dalu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delid 14c. yn y Cwmwd hwn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 14c.
Ac yn yr un drefgordd y mae hanner gwely a elwir '''Gwely Ednowain ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Gronw ap Heilin, Ieuan Goch ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s.8½c.
Cyfanswm blynyddol: 22s.10c.
Ac y mae o fewn yr hanner o’r gwely hwnnw un fufedd o dir siêd yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Gwyn ap Gronw ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd yn arfer talu ym mhob un o’r tymhorau hynny a.y.b. y tâl yr arferid ei gynnwys yn nhaliadau y gwely. Ac yn yr hanner o’r un gwely un fufedd arall yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Heilin ap Ieuan a Tegwared ap Ieuan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae’r hanner hwnnw [yn golygu bod] dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd  fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. A thelir 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
 
Ac yn yr un drefgordd y mae trydedd ran  gwely a elwir '''Gwely Cyfnerth ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Einion Of, Iorwerth ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod yn y Cwmwd hwn 12c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] arglwydd y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. . Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b  A’r drefgordd gyfan hwn yn talu 4c. ar gyfer twnc yn ychwanegol at yr hyn a delir yn ôl y stent  adeg y Pasg a gŵyl Sant Mihangel mewn rhannau cyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac arferai pawb, boed yn rhydd neu’n gaeth yn y Cwmwd hwn, dalu 6s.8c. adeg gŵl yr Holl Seintiau at ddefnydd Maenor Caernarfon yr arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 6s.8c.
Wedyn, fe gyflwynodd amryw o denantiaid cymydau Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai amryw o ddeisebau ynglŷn ag achosion difrifol i John de Delves y dirprwy Ustus ym mhresenoldeb yr Archwiliwr presennol parthed taliadau annheg gan y gwelyau uchod yn y Cymydau hyn. Daethpwyd i benderfyniad, o flaen yr arglwydd ddirprwy ac Archwiliwr Trysorlys yr arglwydd Dywysog yng Nghaernarfon fis Ionawr 1353, ym mhresenoldeb Llysoedd y Cymydau hyn a gyfarfu efo’i gilydd oherwydd yr achos hwn a thrwy eu dyfarniad, nad oes gofyn ar y rhan honno sydd gan Wely Cynwrig ap Tregir yn Ninlle yng Ngwmwd Uwchgwyrfai dalu taliadau bob blwyddyn yn y pedwar tymor arferol ond 2s. lle [nodir] yn y stent newydd hwn 2s.0½c. y flwyddyn ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Pyll ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 2s.6c. lle [nodir] 3s. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Ednowain ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 8s. lle [nodir] 22s.10c. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Cyfnerth ap Tregir dalu ond 2s.2c lle [nodir] 4s. yn yr un stent. Ac oherwydd hyn mae’r pedwar Gwely uchod sydd â gofynion yn ôl y stent newydd uchod i dalu 31s.10½c. sydd yn 17s.2½c. o daliad blynyddol yn ormod, nid oes ond 14s.8c. yn daladwy bob blwyddyn. A chan ei fod yn ddigon eglur ac yn cael ei ddatgan mai yng Nghwmwd Isgwyrfai y mae gofyn i’r gwelyau hynny a Gwely Wyrion Iorwerth yn nhrefgordd Treflan am dalu’r 17s.2½c. dywededig yn flynyddol i’r arglwydd. Gorchmynnir hyn trwy ganiatâd y dirprwy uchod a’r Archiliwr ac wedyn ni thelir i Ringyll y Cwmwd hwn y 17s.2½c. uchod am y cyfnod a fu, oedd yn ormod i’w dalu gan y gwelyau hynny; ond telir [y swm hwnnw] wedyn i Ringyll Isgwyrfai fel y datganwyd uchod.
 
''Cyfanswm blynyddol: £11.19s.9c.''
''Cyfanswm tir siêd, twnc a chnhaliaeth y Faenor 10s.3c.''


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 13: Llinell 91:
   
   


[[Categori: Trefgorddi]]
[[Categori: Trefgorddau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:20, 15 Ionawr 2021

Dinlle oedd enw trefgordd fwyaf Uwchgwyrfai.

Yr ardal yn ddaearyddol

Dinlle oedd enw'r drefgordd (neu raniad daearyddol gweinyddol) a gynhwysai rhannau helaeth o blwyfi Llandwrog a Llanwnda. (Trefgorddi eraill a orweddai yn ardal y plwyfi hynny oedd Bodellog, Llanwnda a Rhedynog Felen). Hyd at ddiwedd y 1600au roedd yn arferol i ddogfennau gyfeirio at 'Dinlle' yn hytrach nag enw'r plwyf.[1] Hefyd fe nododd W. Gilbert Williams fod un rhan o ddeg o Wely Wyrion Iorwerth y tu hwnt i ffiniau Uwchgwyrfai, sef yn nhrefgordd Treflan, neu (yn ôl enwau heddiw) y Waun-fawr, tra oedd y naw rhan o ddeg arall o fewn ffiniau Uwchgwyrfai.[2] Roedd pedwar gwely arall a orweddai'n bennaf yn Isgwyrfai, sef Gwely Cynwrig ap Tregir, Gwely Pyll ap tregir, Gwely Ednowain ap Tregir a Gwely Cyfnmerth ap Tregir, ond oedd â rhywfaint o dir o fewn ffiniau Dinlle yng ngwmwd Uwchgwyrfai, a achosai rywfaint o ddryswch ym mha gwmwd yr oedd gofyn i ddeiliaid y gwelyau hyn dalu eu trethi.[3] Dichon mai yn Nyffryn Gwyrfai y gorweddai'r holl welyau hyn a ymestynnodd i mewn i Uwchgwyrfai.

Mae'n amlwg fod rhaniad y drefgordd yn welyau yn weddol newydd, efallai rhyw dair neu bedair genhedlaeth cyn dyddiad Stent 1352 lle ceir yr enwau eu cofnodi. Yr oedd Rhawd ac Ystrwyth yn frodyr, ac yn neiaint i Forgeneu. Roeddent hefyd yn gefndryd i dad Iorwerth Wisgi a thad Cynwrig, Pyll, Ednowain a Chyfnerth.[4] Dichon felly fod y drefgordd yn naliadaeth un arglwydd neu uchelwr dan y Tywysogion tua 1250.

Disgrifiad o'r drefgordd yn y Record of Caernarvon

Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Carnarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.

Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wisgiaid; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.[5]

Cyfieithiad

Dyma gyfieithiad eithaf rydd o adran Stent 1352 sydd yn ymwneud â threfgordd Dinlle.

DINLLE
Mae yn y drefgordd hon saith gwely o dir rhydd a elwir yn Gwely Wyrion Einion, Gwely Wyrion Morgeneu, Gwely Wyrion Rhawd, Gwely Wyrion Ystrwyth, Gwely Wisgiaid, Gwely Hebogothion a Gwely Bowynied.
Ac mae Llywelyn ap Ednyfed Gronw ap Tudur ac eraill yn etifeddion Gwely Wyrion Einion uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 1c.
Cyfanswm blynyddol: 24s. 4c.
Ac mae ganddynt dair felin a elwir Melin Gafelog, Melin Meredydd a Melin Ednyfed. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. 
A Hywel ap Iorwerth, Eden ap Einion ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Morgeneu uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 6½c.
Cyfanswm blynyddol: 42s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae gan denantiaid y gwely hwn eu melin eu hunain a elwir Melin Heilin ac mae’r rhain â dyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Y maent yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Rhys Mynyth, Cad’ ap Rhys ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Rhawd uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 3s. 7c.
Cyfanswm blynyddol: 14s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud bod ganddynt eu melin eu hunain a elwir Melin Madog, a rhai’n dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Tudur Goch ap Gronw, Ieuan ap Griffith Fychan ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Ystrwyth uchod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 45s. 2c.
Ac mae ar bawb o’r Gwely hwn ddyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae chwe bufedd o dir siêd yn ôl amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Morgant sydd yn awr yn nwylo Tudur Goch trwy siartr ein harglwydd Tywysog presennol. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14c. sy’n cynwysedig yn y taliad dywededig o 11s. 3½c. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 12c.
Cyfanswm blynyddol: 12c.
A Heilin ap Ednyfed, Gronw ap Ednyfed, Gronw a Rhys meibion Iorwerth Crach ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Wisgiaid. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 7s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 29s. 11c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae rhai yn dweud fod y Gwely hwn yn rhydd o [fynychu] melin yr Arglwydd  ac eraill yn cadw rhag gwneud a.y.b. Ac y mae yn y dywededig Wely Wisgied dwy fufedd a hanner o dir siêd a ddaeth oddi wrth Heilin ap Cad’ sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid talu 3½c. bob tymor fel rhan o daliad uchod y Gwely. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 5c.
Cyfanswm blynyddol: 5c. [sic]

A Tegwared Goch, Hywel ap Ieuan ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Hebogothion. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 4s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 19s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud eu bod yn rhydd i fynychu unrhyw felin o gwbl yn ôl eu dewis a.y.b. a rhai yn dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b. 
Ac yn y gwely uchod a elwir Gwely [Wyrion] Ystrwyth y mae parsel o tir siêd a ddaeth oddi wrth Gronw Henseil sydd yn cynnwys chwe firgat o dir yn ôl yr amcangyfrif ac sydd yn nwylo’r arglwydd wedi i’r tenant hwnnw eu gadael i orwedd yn fraenar ers dwy flynedd. Ac arferid talu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor 7c. A gynhwysid yn y taliad uchod o 4s. 10¼c. Ac yn y gwely hwnnw y mae chwe firgat o tir siêd yn ôl yr amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Ieuan Kenny ac sydd yn nwylo’r arglwydd am y rheswm uchod. Ac y mae yn y gwely hwnnw hanner bufedd o dir yn ôl yr amcangyfrif sydd yn tir siêd a ddaeth oddi wrth Meurig ap Philip ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac y mae’r tiroedd uchod a.y.b.
A Ieuan ap Griffith ap Bleddyn, Ieuan ap Gwilym Du ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Bodwyniod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 11s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd gan nad oes ganddynt felin yn y Cwmwd dan sylw. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b.
Ac yn y drefgordd hwn y mae naw rhan o wely a elwir Gwely Wyrion Iorwerth sydd â degfed rhan ohoni yn Isgwyrfai fel sydd yn cael ei ddangos dan drefgordd Treflan. A Griffith ap Madog, Ieuan ap Llywelyn ac eraill yw etifeddion ohono. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 21s. 2c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac o fewn y naw ran o ddeg o’r gwely hwn yn mae un fufedd o tir siêd a gafwyd oddi wrth Tegwared Goch Bastard sydd yn awr gan Tegwared Moel. Ac fe delir 2c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac y mae yn y naw rhan o’r gwely hwn hanner bufedd o dir siêd o dir a ddaeth oddi wrth Griffith ap Cyfnerth sydd gan Tegwared uchod yn yr un ffordd. Ac fe delir 1c. ym mhob un o’r pedwar tymor a sydd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.

Ac mae trydedd ran o wely a elwir yn Gwely Cynwrig ap Tregir yn y drefgordd hon. Ac etifeddion hwnnw yw Dafydd Fychan a Ieuan a Hywel ei frodyr ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 6c.
Cyfanswm blynyddol: 2s. 0½c.
a’r dimai hwnnw’n cael ei gynnwys yn nhaliadau’r gwely hwn gan nad oes modd ei rannu’n bedwar. Telir hwn a.y.b. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd yn y Cwmwd hwn ac yng Nghwmwd Isgwyrfai. Ac maent â dyletswydd mynychu melin yr arglwydd isod yn y Cwmwd hwn. 
Ac yn yr un drefgordd y mae pumed ran o wely a elwir yn Gwely Pyll ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion ap Tudur, Gwerfyl ferch Gwenllian ferch Hywel ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9c.
Cyfanswm blynyddol: 3s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin Arglwydd y Tywysog o fewn y Cwmwd hwn. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae o fewn y dywededig bumed ran o’r Gwely hwnnw dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Tegwared ap Adda Goch. Ac mae’r rhain yn dal yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid yn y gorffennol dalu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delid 14c. yn y Cwmwd hwn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 14c.

Ac yn yr un drefgordd y mae hanner gwely a elwir Gwely Ednowain ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Gronw ap Heilin, Ieuan Goch ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s.8½c. 
Cyfanswm blynyddol: 22s.10c.
Ac y mae o fewn yr hanner o’r gwely hwnnw un fufedd o dir siêd yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Gwyn ap Gronw ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd yn arfer talu ym mhob un o’r tymhorau hynny a.y.b. y tâl yr arferid ei gynnwys yn nhaliadau y gwely. Ac yn yr hanner o’r un gwely un fufedd arall yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Heilin ap Ieuan a Tegwared ap Ieuan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir 2c. 
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae’r hanner hwnnw [yn golygu bod] dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd  fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. A thelir 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. 
Ac yn yr un drefgordd y mae trydedd ran  gwely a elwir Gwely Cyfnerth ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion Of, Iorwerth ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod yn y Cwmwd hwn 12c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] arglwydd y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. . Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b  A’r drefgordd gyfan hwn yn talu 4c. ar gyfer twnc yn ychwanegol at yr hyn a delir yn ôl y stent  adeg y Pasg a gŵyl Sant Mihangel mewn rhannau cyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.

Ac arferai pawb, boed yn rhydd neu’n gaeth yn y Cwmwd hwn, dalu 6s.8c. adeg gŵl yr Holl Seintiau at ddefnydd Maenor Caernarfon yr arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 6s.8c.

Wedyn, fe gyflwynodd amryw o denantiaid cymydau Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai amryw o ddeisebau ynglŷn ag achosion difrifol i John de Delves y dirprwy Ustus ym mhresenoldeb yr Archwiliwr presennol parthed taliadau annheg gan y gwelyau uchod yn y Cymydau hyn. Daethpwyd i benderfyniad, o flaen yr arglwydd ddirprwy ac Archwiliwr Trysorlys yr arglwydd Dywysog yng Nghaernarfon fis Ionawr 1353, ym mhresenoldeb Llysoedd y Cymydau hyn a gyfarfu efo’i gilydd oherwydd yr achos hwn a thrwy eu dyfarniad, nad oes gofyn ar y rhan honno sydd gan Wely Cynwrig ap Tregir yn Ninlle yng Ngwmwd Uwchgwyrfai dalu taliadau bob blwyddyn yn y pedwar tymor arferol ond 2s. lle [nodir] yn y stent newydd hwn 2s.0½c. y flwyddyn ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Pyll ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 2s.6c. lle [nodir] 3s. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Ednowain ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 8s. lle [nodir] 22s.10c. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Cyfnerth ap Tregir dalu ond 2s.2c lle [nodir] 4s. yn yr un stent. Ac oherwydd hyn mae’r pedwar Gwely uchod sydd â gofynion yn ôl y stent newydd uchod i dalu 31s.10½c. sydd yn 17s.2½c. o daliad blynyddol yn ormod, nid oes ond 14s.8c. yn daladwy bob blwyddyn. A chan ei fod yn ddigon eglur ac yn cael ei ddatgan mai yng Nghwmwd Isgwyrfai y mae gofyn i’r gwelyau hynny a Gwely Wyrion Iorwerth yn nhrefgordd Treflan am dalu’r 17s.2½c. dywededig yn flynyddol i’r arglwydd. Gorchmynnir hyn trwy ganiatâd y dirprwy uchod a’r Archiliwr ac wedyn ni thelir i Ringyll y Cwmwd hwn y 17s.2½c. uchod am y cyfnod a fu, oedd yn ormod i’w dalu gan y gwelyau hynny; ond telir [y swm hwnnw] wedyn i Ringyll Isgwyrfai fel y datganwyd uchod.
Cyfanswm blynyddol: £11.19s.9c.
Cyfanswm tir siêd, twnc a chnhaliaeth y Faenor 10s.3c.

Cyfeiriadau

  1. Welsh Administrative and Territorial Units, Melville Richards (University of Wales Press) 1969
  2. W.Gilbert Williams, Arfon y Dydiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), 118-19.
  3. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.24-5
  4. Dafydd Jenkins, Cyfraith Hywel (Llandysul, 1970), t.58
  5. Record of Carnarvon, tt.22-4.