Nantlle (pentref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Nantlle i Nantlle (pentref) heb adael dolen ailgyfeirio
 
(Ni ddangosir y 14 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Nantlle''' yn bentref chwarelyddol yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]], rhwng [[Tal-y-sarn]] a [[Drws-y-coed]].


Y Brodyr Francis 1876 – 1936
==Dechreuadau==
Dau frawd a gysylltir â Nantlle oedd Griffith William Francis (1876-1936) ac Owen William Francis (1879-1936). Fe’u ganed [[ym/yn]] [[Mron-y-Wern,/Bron-y-Wern]], Cwm Pennant. Mudodd y teulu oddi yno i’r Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed, yna i’r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle.
Yn wreiddiol, fe arferid galw'r ardal lle saif y pentref heddiw yn "Baladeulyn", gan fod y cysylltiad (neu'r "bala") rhwng [[Llyn Nantlle Uchaf]] a [[Llyn Nantlle Isaf]] gerllaw, a ffermydd a safle llys y Tywysogion, sef [[Llys Baladeulyn]] oedd yn yr ardal. Dywedir mai tŷ a elwid yn "Nantlle" neu "Plas-yn-Nantlle" tua 1362 a roddodd yr enw i'r pentref yn y pen-draw, er nad oedd hynny'n digwydd am fwy na phedwar can mlynedd. Mae'r adeilad presennol a elwir yn [[Plas Nantlle]] neu Tŷ Mawr wedi codi yn weddol gynnar yn y 16g.<ref>John Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012</ref> Fferm oedd Plas Nantlle yn y diwedd, ond yr oedd gan yr eiddo felin, sef [[Melin Nantlle]] oedd yn malu grawn yn yr 18g os nad yn hwyrach, er iddi ddiflannu erbyn hyn ac nid oes sicrwydd ynglŷn â'i safle. Roedd tir Plas Nantlle neu Nantlle'n fferm fawr yn eiddo'r Arglwydd Dinorben o Ginmel erbyn llunio'r Map Degwm tua 1840, yn ffinio'r ddau lyn ac yn ymestyn dros y tir lle mae'r chwareli'n awr, hyd at safle bresennol pentref y [[Fron]]. Mae'r map hefyd yn dangos nad oedd ond un neu ddau o adeiladau'r holl ffordd rhwng fferm [[Gelli-ffrydiau]] a Thŷ Mawr<ref>LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/search/53.06/-4.225/15?alt=&page=1&refine=&query=Nantlle&order=desc&sort=score&rows=100&leaflet-base-layers_94=on]</ref>
Roeddent yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled y wlad a thu hwnt yn y 1920au a’r 1930au. Byddai’r capeli a’r neuaddau dan eu sang.  Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i’w ddarlledu ar y radio – a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927.  Griffith Francis oedd wedi cyfansoddi nifer o’r cerddi a genid ganddynt ond roeddent hefyd yn canu gwaith T. Gwynn Jones, Eifion Wyn, Crwys, R. Williams Parry ac eraill. Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Owen Francis oedd cyfansoddwr rhai o’r alawon a’r emyn donau a ganent (galwodd rai ohonynt yn Nantlle, Glyn a Meira (dau o’i blant).  Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.  
Cyhoeddwyd ''Telyn Eryri'', cyfrol o gerddi Griffith Francis, gan Hughes a’i Fab yn 1932 gyda Rhagair gan E. Morgan Humphreys.
Dyma un o’r cerddi poblogaidd a genid ganddynt, o waith Griffith W. Francis. Gelliffrydiau, Nantlle, yw’r Gelli y cyfeirir ati a Wil y Ffridd, yr heliwr yw William Hughes, Y Ffridd, Nantlle:


CYN GOLLWNG CŴN Y GELLI
==Y pentref modern==
Datblygwyd y pentref modern yn ystod y 19g. fel yr oedd y chwareli'n ymestyn i fyny'r dyffryn. Chwarel fawr y pentref yw [[Chwarel Pen-yr-orsedd]], a gysylltwyd â'r cei yng Nghaernarfon mor gynnar â 1828 gan drac cul [[Rheilffordd Nantlle]], tramffordd gyda'r gwagenni'n cael eu tynnu gan geffylau. Parhaed i ddefnyddio'r hen dramffordd i Nantlle hyd 1963, pan y'i caewyd gan Reilffyrdd Prydeinig. Ni lledwyd y trac erioed gyda'r canlyniad fod y trenau stêm modern byth wedi cyrraedd, gan fod y lein fawr yn dod i ben yn Nhal-y-sarn - er mai [[Gorsaf reilffordd Nantlle]] y gelwid yr orsaf yn y pentref hwnnw. Dyna arwydd fod peth ansicrwydd ynglŷn â'r enwau priodol ar gyfer pentrefi'r dyffryn wedi dal i fodoli. Yn wir, mor ddiweddar â 1916, roedd papur newydd y ''Dinesydd Cymreig'' yn rhoi hanesion am bentref Nantlle dan y bennawd "Baladeulyn".
Pan gloid y Mynydd Mawr gan ,
  A'r eira’n toi Eryri:
Pan geisiai’r lloer oleuo’r nos
  I aros i’r haul godi;
Âi’r llwynog castiog dan ei bwn
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.


Rhwng 1840, pan nad oedd y map degwm wedi dangos nemor ddim adeiladau lle saif y pentref heddiw ac 1888, pan gyhoeddwyd y map Ordnans graddfa fawr cyntaf o'r ardal, codwyd y rhan fwyaf o'r pentref rhwng y chwarel a [[Pont Baladeulyn|Phont Baladeulyn]], er nad oedd y tai'n nes at yr ysgol wedi eu codi.


Fe ddygodd lawer oenyn gwan,
== Y brodyr Francis ==
  O’r Geulan wedi nosi,
Ac ieir Caeronwy lusgodd draw
  I’w genaw dros glogwyni,
I fewn i’w ffau, heb ofni ffyn,
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.


Gweler prif erthygl [[Y Brodyr Francis]]


==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


Lladratodd wyddau Blaen-y-Garth
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
  O’r buarth cyn eleni,
Ac o’r Ysgubor lawer haid
  O hwyaid wedi ’u pesgi;
Fe lanwai groen ei fol yn grwn
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
 
 
Ond ar ryw fore oerllyd iawn,
  Tros dalar mawn y meini,
Fe lamai’r cadno coch i lawr
  O’r Mynydd Mawr yn heini:
A chroesi’r Bala rhwng Dau Lyn
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
 
 
Ar ddôl y ffrynt ‘roedd Wil y Ffridd,
  A’r gwas, ym mhridd oer gwysi,
A gweiddi, — “Llwynog ! Byth o’r fan !
  Hwi ! dal o, Ffan, myn diawch-i,”—
Ac archai’r gwas i gyrchu gwn,
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
 
 
Cadd cadno frecwast i bils plwm,
  A chroesaw Cwm ddaeargi,
Ac yn lle blingo oen bach tlws—
  Ei groen ar ddrws y beudy ;
A chwarddai Wil wrth gadw’r gẁn,
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
                          GWF

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:22, 7 Ionawr 2021

Mae Nantlle yn bentref chwarelyddol yn Nyffryn Nantlle, rhwng Tal-y-sarn a Drws-y-coed.

Dechreuadau

Yn wreiddiol, fe arferid galw'r ardal lle saif y pentref heddiw yn "Baladeulyn", gan fod y cysylltiad (neu'r "bala") rhwng Llyn Nantlle Uchaf a Llyn Nantlle Isaf gerllaw, a ffermydd a safle llys y Tywysogion, sef Llys Baladeulyn oedd yn yr ardal. Dywedir mai tŷ a elwid yn "Nantlle" neu "Plas-yn-Nantlle" tua 1362 a roddodd yr enw i'r pentref yn y pen-draw, er nad oedd hynny'n digwydd am fwy na phedwar can mlynedd. Mae'r adeilad presennol a elwir yn Plas Nantlle neu Tŷ Mawr wedi codi yn weddol gynnar yn y 16g.[1] Fferm oedd Plas Nantlle yn y diwedd, ond yr oedd gan yr eiddo felin, sef Melin Nantlle oedd yn malu grawn yn yr 18g os nad yn hwyrach, er iddi ddiflannu erbyn hyn ac nid oes sicrwydd ynglŷn â'i safle. Roedd tir Plas Nantlle neu Nantlle'n fferm fawr yn eiddo'r Arglwydd Dinorben o Ginmel erbyn llunio'r Map Degwm tua 1840, yn ffinio'r ddau lyn ac yn ymestyn dros y tir lle mae'r chwareli'n awr, hyd at safle bresennol pentref y Fron. Mae'r map hefyd yn dangos nad oedd ond un neu ddau o adeiladau'r holl ffordd rhwng fferm Gelli-ffrydiau a Thŷ Mawr[2]

Y pentref modern

Datblygwyd y pentref modern yn ystod y 19g. fel yr oedd y chwareli'n ymestyn i fyny'r dyffryn. Chwarel fawr y pentref yw Chwarel Pen-yr-orsedd, a gysylltwyd â'r cei yng Nghaernarfon mor gynnar â 1828 gan drac cul Rheilffordd Nantlle, tramffordd gyda'r gwagenni'n cael eu tynnu gan geffylau. Parhaed i ddefnyddio'r hen dramffordd i Nantlle hyd 1963, pan y'i caewyd gan Reilffyrdd Prydeinig. Ni lledwyd y trac erioed gyda'r canlyniad fod y trenau stêm modern byth wedi cyrraedd, gan fod y lein fawr yn dod i ben yn Nhal-y-sarn - er mai Gorsaf reilffordd Nantlle y gelwid yr orsaf yn y pentref hwnnw. Dyna arwydd fod peth ansicrwydd ynglŷn â'r enwau priodol ar gyfer pentrefi'r dyffryn wedi dal i fodoli. Yn wir, mor ddiweddar â 1916, roedd papur newydd y Dinesydd Cymreig yn rhoi hanesion am bentref Nantlle dan y bennawd "Baladeulyn".

Rhwng 1840, pan nad oedd y map degwm wedi dangos nemor ddim adeiladau lle saif y pentref heddiw ac 1888, pan gyhoeddwyd y map Ordnans graddfa fawr cyntaf o'r ardal, codwyd y rhan fwyaf o'r pentref rhwng y chwarel a Phont Baladeulyn, er nad oedd y tai'n nes at yr ysgol wedi eu codi.

Y brodyr Francis

Gweler prif erthygl Y Brodyr Francis

Cyfeiriadau

  1. John Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012
  2. LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog [1]