Thomas Williams (Ap Gwyrfai)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:08, 16 Ebrill 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Am flynyddoedd ardal wledig a thenau ei phoblogaeth oedd Millom yn sir Cumbria. Fodd bynnag, yn dilyn darganfod mwyn haearn yno ym 1855, agorwyd gweithfeydd haearn yn y gymdogaeth a thua'r un pryd datblygwyd nifer o chwareli llechi yn yr ardal hefyd. Bu'r rhain yn fodd i ddenu nifer o Gymry o wahanol rannau o'r hen wlad i ymgartrefu yno. Un o'r rhain oedd Thomas Williams, a gymerodd yr enw barddol Ap Gwyrfai. Maged ef yn nhyddyn Tan y fron, Rhostryfan ac ni ddylid cymysgu rhyngddo ag Ap Gwyrfai arall, diweddarach, sef mab i Owen Gwyrfai - Owen Williams o'r Waunfawr. Symudodd Thomas Williams i Cumbria tua 1871 i 1873 gan ymgartrefu ym mhentref bach Ulpha yn nyffryn Duddon. Mae'n bosib mai gwaith yn y chwareli llechi a'i denodd yno. Yn Eisteddfod Gadeiriol Barrow-in-Furness ym 1873 - a oedd wedi ei chyfyngu i Gymry - enillodd Ap Gwyrfai gadair dderw, tlws arian a gwobr ariannol o ddwy bunt a chweugain am bryddest i Abaty Furness. Byddai hefyd yn anfon llawer o adroddiadau am weithgareddau'r Cymry yn Cumbria i'r wasg Gymraeg, megis ei adroddiad i Y Gwladgarwr ym 1875 am gyngerdd mawreddog a gynhaliwyd gan y Cymry yn nhref ddiwydiannol Workington, gyda'r enwog Eos Morlais yn arwain y cyngerdd a chanu fel prif unawdydd. Cymerwyd rhan hefyd gan y Millom Welsh Glee Party. Y cyngerdd hwn ysgogodd sefydlu'r Workington Music Festival sy'n bodoli o hyd.

Erbyn diwedd y 1870au roedd Ap Gwyrfai yn briod â Sarah, nith i Susannah Wilson, sefydlydd achos y Bedyddwyr yn Ulpha. Erbyn hynny roedd wedi cymryd les ar chwarel lechi Common Wood ac yn ei gweithio'n llwyddiannus gyda'i bartner busnes, John Thomas, yntau heyf yn enedigol o Rostryfan. Roedd y ddau ohonynt yn cymryd rhan amlwg ym mywyd cymdeithasol Ulpha, gan gynnal cyngerdd Nadolig i holl drigolion y pentref ym 1879 gyda chaneuon ac adroddiadau Cymraeg wedi'u cyfieithu ar gyfer cynulleidfa a oedd bron yn uniaith Saesneg.