Cymdeithas yr Eryron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:22, 12 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cymdeithas o feirdd oedd Cymdeithas yr Eryron a arferai gwrdd yn nhafarn y Bull yn y Bontnewydd yn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Symudodd gyfarfodydd y gymdeithas o Fetws Garmon i'r Bontnewydd wrth iddi gael ei hailsefydlu fis Chwefror 1813. Prif amcanion y gymdeithas oedd (a dyfynnu o'r wasg):

Y prif amcanion ydynt, cynnal a helaethu modd ion ac achlysuron o ddiddanwch rhesymol annog Brawdlgarwch a Gwladgarwch cyffredinol. Mae'r gymdeithas yn amcanu cymmeryd dan ei hystyriaeth neilltuol y canghenau canlynol o wybodaeth: sef CYREIGYDDIAETH, BARDDONIAETH HYNAFIAETH, HANESIAETH ynghyd ag amryw Fân-ganghenau eraill o wybodaeth, y rhai sydd yn dwyn mesur o berthynas naturiol i'r Prif-ganghenau uchod.[1]

Dafydd Ddu Eryri oedd sylfaenydd ac arweinydd y gymdeithas hon, ac ymysg yr aelodau oedd William Williams, Bodaden, a oedd yn ffarmwr cefnog, ac yn frawd i Evan Williams, tafarnwr y Bull.[2] William Williams oedd y Cofiadur, a phenodwyd Evan Williams yn Drysorydd. Ynghyd â'r tri hyn, roedd Hugh Jones a R. Jones (sef, o bosibl, Richard Jones, Erw Styffylau) yn aelodau o gyngor y gymdeithas.[3]

Ceir disgrifiad o un o'i chyfarfodydd yn y North Wales Gazette ym 1813,[4] ac ni ellir rhagori ar ddyfynnu o'r papur er mwyn disgrifio'r math o gyfarfod a gaed gan yr aelodau.

ERYRON. Cyfarfod yr Eryron a gynnaliwyd yn y Bont Newydd, ar ddydd Llun y Pasc, 1813. Agorwyd y cyfarfod ynghylch dau o'r gloch brydnhawn. Dychwelodd y Beirdd adref ynghylch machlud haul. Y cyfarfod uchod a gynhaliwyd yn y modd mwyaf dymunol, o ran rheol a gweddusder: undeb a brawdgarwch oeddynt yn ymddangos yn dra eglur yn y Gymdeithas. 

Yn y cyfarfod uchod, dadganwyd pedair o Awdlau ar y testyn gosodedig sef: ystyriaethau ar yr honniadau pabaidd: 

Enwau'r Beirdd a ganasant ar y testyn ynghyd a rhifedi'r llinellau yu eu candadau, sydd fel y canlyn: 
1. Richard Jones, Erw Ystyffylau, Llanwnda, yn agos i Gaernarfon; Awdl, yn cynnwys 185 o linellau. 
2. Richard Hughes, Ty yn y lon, Fodadan, Llanwnda; Awdl, yn cynnwys 164 o linellau. 
3. William Edward, Waun fawr, yn agos i Gaernarfon; Awdl, yn cynnwys 141 o linellau. 
4. Owen Williams, Waun fawr; Awdl, yn cynnwys 127 o liuellau. 

Yn gymmaint nad caniadau ar destyn o ymryson ydyw'r caniadau a grybwyllwyd uchod, ac nad oedd ychwaith un gwobr wedi ei addaw i'r Goreufardd; ni thybiwyd yn angenrheidiol rhoddi barn neillduol arnynt. 

Dymunol i'r Beirdd ieuaingc gael amser o Brofiad. Dymunol hefyd ydyw gochelyd pob achlysir o eiddigedd a rhagfarn, yr hyn bethau sydd yn fynych yn oeri gwresawgrwydd Brawdgarwch, ac yn torri rhwymyn cymdeithas.

Er hyn oll, nid ydyw'r Gymdeithas yn amcanu gadael i'r caniadau ddiangc yn ddiystyr; Mae'n deilwng i haeddiant gael ei deilyngdod. 

Ar olwg gyffredinol mae'n ymddangos fod y caniadau crybwylledig yn cynnwys amryw darawiadau gorchestol. Ond nid yw yn beth arferol yng nghymdeithas yr Eryron, rhoddi barn ar un gwaith newydd, nes iddo gael ei ystyried yn fanylaidd a phwyllog, mewn dau neu dri o Gyfarfodydd. - Cynghorir y Beirdd, unwaith ychwaneg, i ochel gorfeithder yn eu caniadau nesaf, ar y testyn gosodedig, erbyn yr unfed ar ddeg o Awst nesaf: Cofier mai'r testyn ydyw Dychweliad yr Iddewon.

Richard Jones, Yr Erw (neu Erw Ystyffylau) enillodd yr ornest am awdl ar Ddychweliad yr Iddewon, a chyhoeddwyd ei waith yn y wasg[5].Mae'n amlwg o'r uchod bod y Gymdeithas yn cyfarfod yn chwarterol, a bod y cyfarfod a'r gyfeillach yn parhau am dwy neu dair awr. Boed hynny fel y bo, mae'n ymddangos mai byrhoedlog oedd oes y gymdeithas yn y Bontnewydd, ac ni cheir adroddiadau yn y wasg ar ôl Medi 1813.

Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 18.2.1813, t.4
  2. W. Gilbert Williams, "William Williams, Bodaden", yn Moel Tryfan i'r Traeth, tt.146-51.
  3. North Wales Gazette, 18.2.1813, t.4
  4. North Wales Gazette, 27.5.1813, t.4
  5. North Wales Gazette, 30.9.1813, t.4