Cymdeithas yr Eryron
Cymdeithas o feirdd oedd Cymdeithas yr Eryron a arferai gwrdd yn nhafarn y Bull yn y Bontnewydd yn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir disgrifiad o un o'i chyfarfodydd yn y North Wales Gazette ym 1813,[1] ac ni ellir rhagori ar ddyfynnu o'r papur er mwyn disgrifio'r math o gyfarfod a gaed gan yr aelodau.
ERYRON. Cyfarfod yr Eryron a gynnaliwyd yn y Bont Newydd, ar ddydd Llun y Pasc, 1813. Agor wyd y cyfarfod ynghylch dau o'r gloch brydnhawn. Dychwelodd y Beirdd adref ynghylch machlud haul. Y cyfarfod uchod a gynhaliwyd yn y modd mwyaf dytmunol, o ran rheol a gweddusder: undeb a brawdgarwch oeddynt yn ymddangos yn dra eglur yn y Gymdeithas. Yn y cyfarfod uchod, dadganwyd pedair o Awdlau ar y testyn gosodedig sef: ystyriaethau ar yr honniadau pabaidd: Enwau'r Beirdd a ganasant ar y testyn ynghyd a rhifedi'r llinellau yu eu candadau, sydd fel y canlyn: 1. Richard Jones, Erw Ystyffylau, Llanwnda, yn agos i Gaernarfon; Awdl, yn cynnwys 185 o linellau. 2. Richard Hughes, Ty yn y lon, Fodadan, Llanwnda; Awdl, yn cynnwys 164 o linellau. 3. William Edward, Wuen fawr,yn agos i Gaernarfon; Awdl, yn cynnwys 141 o linellau. 4. Owen Williams, Waun fawr; Awdl, yn cynnwys 127 o liuellau. Yn gymmaint nad caniadau ar destyn o ymryson ydyw'r caniadau a grybwyllwyd uchod, ac nad oedd ychwaith un gwobr wedi ei addaw i'r Goreufardd; ni thybiwyd yn angenrheidiol rhoddi barn neillduol arnynt. Dymunol i'r Beirdd ieuaingc gael amser o Brofiad. Dymunol hefyd ydyw gochelyd pob achlysir o eiddigedd a rhagfarn, yr hyn bethau sydd yn fynych yn oeri gwresawgrwydd Brawd garweb, ac yn torri rhwymyn cymdeithas.
Er hyn oll, nid ydyw'r Gymdeithas yn amcanu gadael i'r caniadau ddiangc yn ddiystyr; Mae'n deilwng i haeddiant gael ei deilyngdod. Ar olwg gyffredinol mae'n ymddangos fod y caniadau crybwylledig yn cynnwys amryw darawiadau gorchestol. Ond nid yw yn beth arferol yng nghymdeithas yr Eryron, rhoddi barn ar un gwaith newydd, nes iddo gael ei ystyried yn fanylaidd a phwyllog, mewn dau neu dri o Gyfarfodydd. - Cynghorir y Beirdd, unwaith ychwaneg, i ochel gorfeithder yn eu caniadau nesaf, ar y testyn gosodedig, erbyn yr unfed ar ddeg o Awst nesaf: Cofier mai'r testyn ydyw Dychweliad yr Iddewon.
Mae'n amlwg o'r uchod bod y Gymdeithas yn cyfarfod yn chwarterol, a bod y cyfarfod a'r cyfeillach yn parhau am dwy neu dair awr.
Cyfeiriadau
- ↑ North Wales Gazette, 27.5.1813, t.4