Seidin Tan'rallt
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Seidin ar gyfer llwytho llechi oedd Seidin Tan'rallt ar y lein rhwng Pen-y-groes a Thal-y-sarn. Gwasanaethai chwareli ar ochr dde Dyffryn Nantlle, trwy gyfrwng Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, sef tramffordd a ddefynyddiai geffylau i dynnu'r wagenni 3' 6" o led.[1] Fe'i hagorwyd yn yr 1850au ond fe'i caewyd rywbryd tua 1915 mae'n debyg.[2] Un neu ddwy drên nwyddau y dydd fyddai'n galw yno, ac hynny os oedd angen. Roedd y seidin tua 550 llath cyn pen draw'r lein yng Ngorsaf Nantlle.[3]