Robert Stephenson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Robert Stephenson oedd brawd George Stephenson y peiriannydd rheilffyrdd arloesol. Wedi i William Owen, contractor gwreiddiol adeiladu Rheilffordd Nantlle, fethu â chyflawni gwaith o safon dderbyniol, ac wedi i'r cledrau gwreiddiol brofi'n rhy wan, anfonwyd at George Stephenson tua diwedd 1826. Rhoddodd o gyngor cadarn i gwmni'r lein newydd, ond gan ei fod mor brysur efo gwaith tua Lerpwl, trosglwyddodd y ddyletswydd o arolygu'r gwaith i'w frawd Robert a'i gynorthwywr Mr Gillespie. Iddyn nhw mae'r diolch fod y rheilffordd wedi agor yn gyfamserol ac wedi parhau'n weithredol nes i oes yr injans stêm gyrraedd Uwchgwyrfai. Mae nifer o lythyrau Robert at ei frawd wedi goroesi, ac mae'n amlwg bod y ddau'n cymryd y gwaith o ddifrif.[1]

Ni ddylid cymysgu rhwng "ein Robert ni" yn Uwchgwyrfai â mab George Stephenson, Robert arall, a oedd yn gyfrifol am lawer o reilffyrdd a gwaith peirianyddol yng nghanol y ganrif - nac ychwaith â Robert, tad George Stephenson o ran hynny.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.15-17