Pont Wyled

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Wyled yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros Afon Carrog, ger giat fferm Hen Gastell, tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y Dolydd lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled sy'n llifo i Afon Carrog, ac mai Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd W. Gilbert Williams o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, gan nodi mai'r Carrog oedd yn llifo i mewn i Afon Wyled.[1]

Mae'n debyg mai Wyled neu Dwyled oedd yr enw ym 1776, pan gofnodwyd cytundeb i ailadeiladu "Pont Dwyled" gan ei bod "yn gul, yn ddadfeiliedig ac mewn cyflwr drwg iawn". John Evan, Hen Gastell, saer maen, a William Jones, Pont Dwyled, Llanwnda, saer maen - y ddau yn byw o fewn llathenni i'r bont - gafodd y cytundeb i wneud y gwaith ar gost o £90.[2]

Roedd hen bont dros yr afon, Pont Wen, led cae ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.[3]

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.17
  2. Archifdy Gwynedd XPlansB/160
  3. Glenda Carr, Hen Enwau a Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.218