Pont Gwredog
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Pont Gwredog yn bont gymharol newydd a godwyd rywbryd ar ôl 1949 dros Afon Gwyrfai i hwyluso teithio o ffermydd Gwredog yn Uwchgwyrfai i gyfeiriad Y Waunfawr. Cyn i'r bont gael ei chodi, bu rhyd yma, ynghyd â phompren, yn ôl mapiau Ordnans 1888-1953. Mae'r bont yn agored i draffig er nad yw'r ffordd ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon yn cael ei chynnal.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma